Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dathlu chwaraeon

Ugeinfed Gemau’r Gymanwlad, Glasgow (23 Gorffennaf–3 Awst 2014)

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y cyfraniad mae chwaraeon yn ei wneud – yn ysbrydoli, yn cysylltu, ac yn creu gobaith.

Paratoad a Deunyddiau

  • Er mwyn cael gwybodaeth am Gemau’r Gymanwlad, ewch i’r wefan: www.glasgow2014.com
  • Dangoswch y dyfyniad hwn o eiriau Nelson Mandela (May 2000, Monaco):
    Sport has the power to change the world. It has the power to inspire, it has the power to unite people in a way that little else does. It speaks to youth in a language they understand. Sport can create hope, where there was once only despair.’
  • Trefnwch fod gennych chi gasgliad o’r delweddau sy’n cael eu nodi isod, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint), ac ymchwiliwch ar y we i gefndir y ddau ddigwyddiad:
    – Nelson Mandela yn cyflwyno’r tlws i enillwyr Cwpan y Byd, Rygbi, yn1995, ar: tinyurl.com/jtpuc7b
    – Elise Christie yng Ngemau Sochi, ar: www.sportsister.com/wp-content/uploads2/elise-christie-speed-skating-sochi.jpg

Gwasanaeth

  1. Glasgow fydd yn cynnal yr Ugeinfed Gemau'r Gymanwlad o 23 Gorffennaf tan 3 Awst.

    Gwnewch yn siwr bod y myfyrwyr yn gwybod rhywbeth am y gwledydd hynny sy'n rhan o'r Gymanwlad, y deg camp ganolog a'r saith a ddewiswyd gan Glasgow, yr athletwyr, y cyfundrefnau hyfforddi ac ati.

  2. Darllenwch y dyfyniad rydych chi’n ei arddangos o eiriau Nelson Mandela.

    Roedd Nelson Mandela eisoes wedi profi'r pwynt hwn yn rymus iawn o flaen yr holl fyd. Yn y flwyddyn 1995, De Affrica oedd yn cynnal Cwpan Rygbi'r Byd.  Yr adeg honno, roedd rhaniadau dwfn rhwng y bobl ddu a'r bobl wyn, gyda'r Affricaniaid du eu crwyn yn dioddef yn fawr iawn o ganlyniad i'r system greulon o'r enw apartheid.

    Pêl-droed oedd y gêm boblogaidd yn y trefgorddau duon Affricanaidd, gyda rygbi yn gêm a oedd yn cael ei chwarae gan yr elit gwyn ran fwyaf ac, oherwydd hynny, yn cael ei chasáu a'i hanwybyddu gan y bobl ddu eu crwyn a oedd yn y mwyafrif. Ond fe wnaeth Nelson Mandela, fodd bynnag, fynychu'r gêm hon, yn 1995, yn gwisgo crys gwyrdd tîm rygbi'r Springboks. Trwy weithredu fel hyn, fe ddangosodd ei fod yn uniaethu ei hun, nid yn unig â'i bobl ei hun, ond hefyd â'u gormeswyr.

    Symbol o fraint ac arwahanrwydd oedd y crys rygbi gwyrdd. Trwy ei wisgo â balchder, fe ddewisodd Mandela ddangos ei fod yn cynnig cyfeillgarwch a heddwch ar draws yr agendor mawr hwn rhwng pobl y wlad a, phan orchfygodd tîm y Springboks dîm y Crysau Duon, roedd yr un mor frwdfrydig yn ei ganmoliaeth ag unrhyw ddyn gwyn o Dde Affrica.

    Dangoswch y ddelwedd o Nelson Mandela yn cyflwyno’r tlws ar ddiwedd gornest Cwpan y Byd Rygbi, 1995.

  3. Yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf yn y flwyddyn 2014, a gynhaliwyd yn Sochi, cafodd geiriau Nelson Mandela eu darlledu laweroedd o weithiau. Cafodd y gwylwyr eu hysbrydoli gan y taflenni amser trymlwythog o hyfforddiant yr oedd llawer o’r athletwyr wedi glynu atyn nhw am flynyddoedd, athletwyr oedd wedi dychwelyd yn dilyn anafiadau difrifol i gystadlu unwaith yn rhagor a chyfeillgarwch a chefnogaeth ledled y gwledydd.

  4. Efallai bod stori Elise Christie - sglefr wraig gyflym o Brydain - yn dangos y brawdgarwch sy'n gallu deillio o chwaraeon yn y modd mwyaf pwerus.

    Dangoswch y ddelwedd o Elise Christie.

    Dyma fanylion pellach am Elise Christie, brenhines sglefrio cyflym Prydain Fawr, a sglefriodd yn y rasys 500-m, 1000-m, a 1,500-m yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi.

    - Cafodd ei geni yn Livingstone, yr Alban, yn y flwyddyn1990.
    - Yn y rhagluniau cyn y Gemau, roedd gobaith mawr am fedalau, am mai hi oedd pencampwraig bresennol Ewrop ac enillydd y fedal Efydd ym mhencampwriaethau'r byd dros 1,000 m.
    - Yn anffodus, fodd bynnag, fe achosodd hi wrthdrawiad yn ystod y ras 500-m derfynol, a'i chael yn gyfrifol am faglu dwy o'i gwrthwynebwyr - merch o'r Eidal a'r ferch o Dde Corea, Park Seung-hi, gan achosi i'r olaf o'r ddwy fethu ar y cyfle i ennill medal aur.
    - O ganlyniad, roedd rhai negeseuon annymunol wedi ymddangos ar Twitter, y credid iddyn nhw ddod oddi wrth y Coreaid, sydd yn angerddol ynghylch sglefrio cyflym. Roedd y rhain yn cynnwys sylwadau creulon, a hyd yn oed fygythiadau o ladd.
    - Yn y rhagras 1,500-m, barnwyd ei bod heb orffen oherwydd bod ei throed y tu allan i'r llinell derfyn ac o ganlyniad cafodd ei darostwng i'r safle olaf.
    - Fe barhaodd y difrïo mileinig. Roedd hyn yn ei brifo ac yn cael effaith ar ei pherfformiad a'i hyfforddiant.

    O ganlyniad i hyn oll, wrth iddi ddychwelyd i'r trac ar gyfer y ras 1,000-m, roedd Elise yn emosiynol iawn. Bu'n pendroni'n ddyfal a ddylai barhau i gystadlu ai peidio. Beth tybed wnaeth ei helpu hi drwy'r cyfan?

    - Y gefnogaeth a dderbyniodd oddi wrth filoedd o'r cyhoedd ym Mhrydain.
    - Y gefnogaeth a dderbyniodd oddi wrth ei ffrind, o Dde Corea, Park Seung-hi ei hun. Ar ôl y trychineb gyntaf, roedd wedi dod at Elise a'i chofleidio ac aeth at y cyfryngau i ddatgan nad oedd yn ei beio hi.
    - Roedd un o'i hyfforddwyr yn dod o Dde Corea.
    - Hyfforddiant caled, corfforol, seicolegol ac emosiynol dros flynyddoedd lawer a roddodd iddi'r nerth, y dewrder a'r penderfyniad i godi o'r llawr a mynd ymlaen unwaith yn rhagor.

    Ystyriwyd cyn y Gemau mai'r ras 1,000-m fyddai ei gobaith gorau am fedal.  Fe gyrhaeddodd Elise y chwarteri’n gyfforddus. Fe ddechreuodd y ras gynderfynol yn ofalus, ond yna fe aeth benben ag un o'r cystadleuwyr eraill.  Fe ddisgynnodd y ddwy, ond fe orffennodd Elise yn y safle olaf oherwydd fe dybiwyd mai ei bai hi oedd y gwrthdrawiad.  Nid oedd cyfle ganddi felly i gystadlu yn y ras derfynol.

    Efallai mai'r cyflawniad mwyaf i Elise oedd cael digon o ddewrder i fynd yn ôl ar y trac a chwblhau'r rasys er gwaethaf ei chamgymeriadau a'i siomedigaethau.

Amser i feddwl

Pan fyddwch yn gwylio Gemau'r Gymanwlad yr haf hwn, peidiwch ag edrych am yr enillwyr yn unig; edrychwch hefyd am y rhai fydd yn eich ysbrydoli. Efallai y byddan nhw'n gwneud hyn oherwydd y ffordd y byddan nhw'n ymateb wrth ddod yn ail neu hyd yn oed yn olaf, y modd y byddan nhw'n derbyn anafiadau, y ffordd y byddan nhw'n siarad am bobl eraill neu oherwydd eu rhaglenni hyfforddi caled.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Gofynnwn i ti fendithio Gemau’r Gymanwlad sy’n cael eu cynnal yng Nglasgow yr haf hwn.
Diolch i ti am genhedloedd sy’n dod ynghyd mewn undod a heddwch.
Diolch i ti am y ffordd mae chwaraeon yn ysbrydoli miliynau o bobl ledled y byd.
Diolch i ti am ymrwymiad a phenderfyniad y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
Wrth i ni wylio’r digwyddiadau hyn, gad i ninnau hefyd gael ein hysbrydoli i wneud ein gorau ym mhob peth y byddwn ni’n ei wneud.
Amen

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon