Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adeiladu cymuned dementia-gyfeillgar

Cynyddu’r ymwybyddiaeth am ddementia.

gan by Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Cynyddu’r ymwybyddiaeth am ddementia.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gwelwch y wefan www.dementiafriends.org.uk ac archebwch y pecyn a’r bathodyn Dementia Friends sy’n rhad ac am ddim.
  • Ceisiwch gopi o’r llyfrThe Dementia Diaries.
  • Gwyliwch y clipiau fideo canlynol, a threfnwch fod gennych chi recordiad o’r trydydd a modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth:
    – llunioThe Dementia Diariesar: youtu.be/sYYVSRCWKAA
    – yr hysbyseb Dementia Friends ar: www.youtube.com/watch?v=V2MIxyo8xAs
    – ‘Small changes to help make a dementia-friendly community’ (3.35 munud) ar: www.youtube.com/watch?v=Fz8ACEu7Lho&feature=youtu.be
  • Fe allech chi drefnu i’r myfyrwyr gyflwyno llawer o’r deunydd sydd yn y gwasanaeth hwn.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘With a little help from my friends’ gan y Beatles a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr, ‘Pa eiriau fyddech chi’n eu cysylltu â dementia?’ Fe fydden nhw’n gallu awgrymu geiriau fel unigrwydd, colli cof, tristwch, henaint.

  2. Nid yw Dementia yn golygu dim ond bod rhywun yn colli ei gof. Mae'n gyflwr ar yr ymennydd sy'n gallu effeithio ar y meddwl, ar y gallu i gyfathrebu ac ar y gallu i wneud tasgau beunyddiol.  Yn rhyfeddol, mae dros 800,000 o bobl yn y D.U. gyda dementia, a rhagdybir y bydd dros filiwn o bobl yn dioddef o'r cyflwr erbyn y flwyddyn 2021.

    Pan fydd dementia arnoch, byddwch yn dueddol o golli'r atgofion mwyaf diweddar cyn i chi golli'ch emosiynau.

    Dychmygwch fy mod yn dal cwpwrdd llyfrau ar fy naill fraich a'r llall, ac mai'r cwpwrdd llyfrau ar y chwith yw'r un sy’n dal emosiynau, a'r cwpwrdd ar y dde yw'r un sy’n dal atgofion. Bydd pob emosiwn ac atgof yn cael ei osod ar y silff yn un o'r ddau gwpwrdd, yr un mwyaf diweddar yn cael ei osod ar y top. Pe byddwn i'n ysgwyd y cypyrddau, mae'n hollol resymol i gredu y byddai rhai o'r emosiynau a'r atgofion yn disgyn oddi ar silffoedd uchaf y cypyrddau. Mae hyn yn dangos sut y mae pobl gyda dementia yn anghofio am eu hemosiynau a'u hatgofion mwyaf diweddar, ond eu bod yn parhau i allu cofio rhai o'r blynyddoedd a fu - efallai cyn belled yn ôl â'u plentyndod.

    Gall hyn fod yn ddryslyd ac yn drallodus iawn i'r sawl sy'n dioddef o'r dementia. Dychmygwch pe byddech yn dioddef o'r dementia a'ch bod yn byw mewn cartref gofal a bod eich mab yn dod i ymweld â chi. Rydych yn cael ffrae ac mae hynny'n gwneud i chi deimlo'n flin ac yn ofidus iawn. Pan fydd eich mab yn ymadael, rydych yn anghofio eich bod wedi cael ffrae, ond rydych yn parhau i fod yn flin a gofidus, er nad ydych yn gwybod paham.

  3. Mae pob unigolyn yn cael profiad o ddementia yn eu ffordd eu hunain, ond gall fod o gymorth i feddwl am y modd y mae'r cyflwr yn cynyddu fel cyfres o gamau. Y cam cynnar, y cam canolig a'r cam diweddar.

    Alzheimer yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ddementia. Mae'n gyflwr sy'n cynyddu yn ei effaith, sy'n golygu ei fod yn graddol fynd yn waeth dros amser. Nid yw'r arwyddion cynnar bob amser yn eglur - weithiau caiff ei gamgymryd ag effeithiau straen, profedigaeth neu henaint. Gall yr arwyddion cynnar gynnwys yn aml, feddu ar farn negyddol a bod yn anfodlon cymryd rhan.

    Mae'r camau canolig o Alzheimer yn amlycach. Bydd dioddefwyr dementia angen mwy o gymorth gyda'i bywyd o ddydd i ddydd a chael eu hatgoffa i fwyta, ymolchi, gwisgo a defnyddio'r toiled. Ar y pwynt yma, fe fyddan nhw'n dechrau bod yn ddryslyd ac yn ei chael hi'n anodd adnabod aelodau o'r teulu a'u ceraint. Bydd rhai pobl gyda dementia yn drysu rhwng dydd a nos ac yn codi o'u gwlâu ganol nos i fwyta brecwast neu gerdded ar y stryd yn eu pyjamas. Y rhan fwyaf pryderus o'r cam canolig hwn yw pan fydd dioddefwyr dementia yn achos risg iddyn nhw'u hunain a phobl eraill, fel trwy ddefnyddio popty ac achosi tân.

    Yn ystod y cam diweddaraf bydd y cyflwr Alzheimer yn lledaenu'n ffyrnicach, gan wneud y rhai sy'n dioddef ohono'n fwy dibynnol ar eraill.  Bydd adnabyddiaeth o bobl a phethau yn dueddol o ddod i ben yn llwyr a bydd y bobl gydag Alzheimer yn dechrau colli rheolaeth dros eu llefaru a chael anhawster wrth lyncu bwyd. Dyma'r cam pryd y bydd dioddefwyr dementia angen ein cariad a'n cefnogaeth yn fwy nag erioed.

  4. Felly, sut y gallwn ni helpu? Bydd y fideo yr wyf yn mynd i’w dangos yn awr yn cynnig rhai syniadau i chi.

    Chwaraewch y fideo ‘Small changes to help make a dementia-friendly community’.

    Fel y gwelwch ar y fideo, gall gweithredoedd cariadlawn yn hytrach na gwylltio â nhw, neu eu diystyru, helpu pobl sydd â dementia deimlo'n fwy esmwyth a digyffro, a chynyddu eu hyder a'u hunanwerth.

  5. Rwyf am ddarllen dau senario i chi, ac fe hoffwn pe byddech yn codi eich llaw i gynnig awgrymiadau ar gyfer pa weithgareddau y gallem eu cymryd fel aelodau'r gymuned.

    Senario 1: Mae gwraig yn cerdded ar hyd ffordd brysur yn cario dau fag siopa ac yn ymddangos braidd yn ddryslyd ac ar goll.
    Atebion posib: helpu'r wraig gyda'i bagiau siopa, holi'r wraig a yw hi ar goll, cyfeirio'r wraig tuag at ei chartref, cynnig galw ffrind neu aelod o'r teulu, cynnig cael sgwrs gyfeillgar a chysurlawn.

    Senario 2: Rydych yn dod ar draws hen wr y credwch ei fod yn dioddef o ddementia mewn ciw yn yr archfarchnad. Mae'n edrych yn ddryslyd ac yn drallodus ac mae'n ymddangos ei fod yno ar ei ben ei hun.
    Atebion posib: byddwch yn amyneddgar gan y bydd hyn yn helpu ei nerfau, ceisiwch ei gael i sgwrsio'n gyfeillgar, efallai i ddwyn ar gof rhai atgofion yn ystod y sgwrs gan y gall hyn ddwyn i'w gof rhai atgofion melys, dweud wrth y person sy'n eistedd wrth y ddesg talu y gall fod y dyn angen help gyda'i fagiau, cynnig helpu'r person eich hun a'i helpu i'w gadw'n glir o berygl.

    Mae pawb ohonom yn byw bywydau prysur, ac weithiau gallwn fethu â gweld yr arwyddion. Felly, y tro nesaf y byddwch yn cerdded o gwmpas yr archfarchnad neu i lawr eich stryd fawr leol, ceisiwch gymryd mwy o sylw o'r bobl sydd o'ch cwmpas. A ydyn nhw'n ymddangos yn drallodus, yn ddryslyd, ar goll? Os felly, sut y gallech chi helpu?

  6. Os oes gennych frodyr neu chwiorydd iau, gallwch eu cyflwyno i The Dementia Diaries(daliwch eich copi chi i fyny), sydd yn gasgliad o storïau gwir am bobl ifanc a'u profiadau gyda dementia. Maen nhw wedi eu sylfaenu ar storïau teimladwy a digrif gan deuluoedd ledled Swydd Caint yn sôn am y dyddiau da, y dyddiau drwg a phob peth rhwng y ddau begwn. Mae'r llyfr hwn ar gael mewn llyfrgelloedd, ysgolion neu gallwch brynu eich copi eich hun o siop lyfrau, neu ei archebu ar lein.

  7. Gallwch ddod yn ffrind dementia trwy ymweld â www.dementiafriends.org.uk, cynllun sy’n cael ei gefnogi gan filoedd o bobl, yn cynnwys enwogion - efallai eich bod wedi gweld yr hysbyseb ar y teledu - ac sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ac adnoddau sy'n gallu eich darparu ar gyfer cyfarfod â phobl gyda dementia. Gall hefyd eich paratoi ar gyfer yr adeg pryd y gallai aelod o'ch teulu neu ffrind gael diagnosis o ddementia. Gallwch ofyn am lyfryn a bathodyn sy'n rhad ac am ddim (daliwch eich copi chi i fyny) a, thrwy wisgo'r bathodyn, gallech helpu i ledaenu'r neges ymysg eich teulu a ffrindiau, sef os gwnawn ni i gyd ymdrech i fod yn gyfeillgar gydag unrhyw un sydd â dementia, gallwn gynnig help o ddifrif iddyn nhw!

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid. Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am y rhodd o fywyd, am y gallu i garu a chael ein caru, am y cyfle i brofi rhyfeddodau dydd i ddydd y byd,  am gwsg ac am ddwr, a diolch am allu meddwl a theimlo.

Gadewch i ni fod yn ddiolchgar hefyd am ysbryd cymunedol a gadewch i ni ystyried sut y gallwn ni feddwl am eraill cyn meddwl amdanom ein hunain.

Cerddoriaeth

With a little help from my friends’ gan y Beatles

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon