Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cenfigen

Ystyried yr emosiwn hwn a meddwl sut y gallwn ni geisio ymdopi â chenfigen.

gan by Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Ystyried yr emosiwn hwn a meddwl sut y gallwn ni geisio ymdopi â chenfigen.

Paratoad a Deunyddiau

Dim angen paratoi o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Yn nrama Shakespeare, Othello, mae Iago’n dweud wrth Othello, ‘O, beware jealousy; it is the green-ey’d monster,’ (Act III, Golygfa III). Mae’n fy atgoffa i o rywbeth tebyg y byddai fy nhad yn ei ddweud wrthyf fi ers talwm bob tro pan fyddwn i’n dangos unrhyw fath o genfigen tuag at fy mrawd neu unrhyw un arall. Fe fyddai’n dweud, ‘Pwy yw’r anghenfil llygaid gwyrdd yma, ‘te?’ Rydw i wedi ei glywed yn dweud yr un math o beth wrth fy mab hefyd yn ddiweddar.

  2. Othello yw’r gwaith llenyddol mwyaf enwog sy’n ymdrin â pheryglon cenfigen ac eiddigedd, a’r niwed y gall y pethau hyn ei achosi. Astudiaeth yw’r ddrama o sut mae’n bosib tanio cenfigen gyda dim ond tystiolaeth amgylchiadol a dinistrio bywydau.

    I roi braslun o’r stori’n sydyn i chi, yn y ddrama Othello, mae’r arwr yn ildio i genfigen pan fydd Iago’n ei argyhoeddi bod Desdemona, ei wraig, wedi bod yn anffyddlon iddo. Yn y diwedd, mae Othello’n llofruddio’i wraig ac yna mae’n lladd ei hun. Mae’n ddiddorol sylwi bod Iago’n defnyddio cenfigen yn erbyn Othello, eto cenfigen mae’n debyg yw tarddiad casineb Iago yn y lle cyntaf.

  3. Felly, sut mae cenfigen yn gallu bod yn beth mor niweidiol, nid yn unig i’r un sy’n genfigennus ond hefyd i’r un sydd wrth wraidd y genfigen honno?

    Mae plant bach yn hollol agored yn y ffordd maen nhw’n mynegi cenfigen. Os ydyn nhw eisiau rhywbeth sydd gan blentyn arall, maen nhw’n syml yn perchnogi’r tegan, er enghraifft trwy ei gadw a pheidio â gadael i neb arall ei gael, neu trwy fynd ag ef oddi ar blentyn arall. Mae’r emosiynau’n amlwg, mae’r mynegiant yn amlwg, mae’n ddigon hawdd ei weld yn wyneb y plentyn neu yn ei weithredoedd. Yn ddiweddarach yn ein bywyd y byddwn ni’n troi’r emosiynau a’r teimladau hyn yn fewnol atom ein hunain.

  4. Felly, o ble daw cenfigen?

    Fe hoffwn i chi feddwl am foment am achlysur pan oeddech chi’n genfigennus o rywun neu rywbeth. Rhowch eich llaw ar y rhan o’ch corff lle’r oeddech chi’n teimlo bod yr emosiwn hwnnw’n dod ohono. Yna, meddyliwch am sut mae bod yn genfigennus wedi gwneud i chi deimlo.

    Efallai eich bod yn teimlo’n drist, yn ddig, neu efallai ychydig yn chwerw. Ystyriwch pa mor rymus yw’r teimlad o fod yn genfigennus a pha mor negyddol yw’r teimladau sy’n codi o hyn, hyd yn oed yn awr ar ôl beth a allai fod yn sbel go dda o amser.

  5. Mewn Bwdhaeth, un o’r Gwirioneddau Nobl yw ‘gwirionedd tarddiad dioddefaint’ sef ‘awydd’, neu tanha yn yr iaith Pali (yr iaith yr ysgrifennwyd yr Ysgrythurau Bwdhaidd ynddi), sy’n benodol yn golygu ‘blysio’. Roedd y Bwdha’n addysgu ein bod yn dilyn ein hawydd hunanol ein hunain ac yn blysio'r hyn rydyn ni’n gwybod na allwn ni ei gael, neu’n deisyfu cael rhywbeth mwy pan fyddwn ni’n cael yr hyn rydyn ni ei eisiau ond wedyn yn canfod nad yw hwnnw cystal ag yr oedden ni’n gobeithio y byddai. Mae’n bosib cymharu hyn â’r hyn roedden ni’n meddwl amdano nawr, a sut roedd hynny’n gwneud i ni deimlo. Roedden ni eisiau X ac yn methu ei gael, ac roedden ni’n meddwl mewn ffordd ein bod wedi cael ein twyllo ac wedi cael cam. Y blysio hwn, meddai’r Bwdha, sy’n achosi dioddefaint. Felly, rydyn ni’n dioddef oherwydd ein bod yn storio’r holl emosiynau negyddol sydd o’n cwmpas a thrwy fod yn blysio’r hyn sydd gan bawb arall.

  6. Mae gwahanol gylchoedd o fewn Olwyn Bywyd Bwdhaeth y gall rhywun fyw ynddyn nhw o
    foment i foment. Un cylch yw cylch ysbrydion newynog. Creaduriaid truenus yw’r ysbrydion newynog gyda stumogau mawr gwag. Mae ganddyn nhw gegau bach, bach, fel pen pin, ac mae eu gyddfau mor gul dim ond yn araf iawn y maen nhw’n gallu llyncu’r bwyd a hwythau mor awchus i fodloni eu harchwaeth. Oherwydd hynny, maen nhw’n parhau i deimlo’n newynog. Caiff bodau dynol eu haileni fel ‘ysbrydion newynog’ oherwydd eu barusrwydd, eu heiddigedd a’u cenfigen. Nid yw hwn yn ddarlun dymunol iawn, ond mae’n crynhoi’r syniad bod cenfigen yn ein niweidio ni, nid y person neu’r sefyllfa rydyn ni’n genfigennus ohoni.

  7. Yn y Deg Gorchymyn, rydyn ni’n cael cyfarwyddyd i beidio â chwennych eiddo rhywun arall – ‘Na chwennych dy dy gymydog ... na dim sy’n eiddo i’th gymydog’. ‘Chwennych’ yw blysio neu fod eisiau rhywbeth sy’n eiddo i rywun arall.

    Mae’r Deg Gorchymyn yn ymwneud â’r daliadau sylfaenol ynghylch sut i ymddwyn, sut i fod yn berson da – hynny yw, trwy beidio â lladrata, peidio â dweud anwiredd a pheidio â llofruddio. Felly mae’r syniad hwn o chwennych neu fod eisiau rhywbeth sy’n eiddo i rywun arall yn cael ei ystyried mor niweidiol â rhai o’r pethau sy’n cael eu nodi yn y gorchmynion eraill. Yn wir, mewn Cristnogaeth Ganoloesol, roedd eiddigedd yn cael ei ystyried yn un o’r saith pechod marwol. Mae eiddigedd yn debyg i genfigen yn yr ystyr bod y ddau beth yn gwneud i ni deimlo’n anfodlon mewn perthynas â nodweddion, safle, gallu neu eiddo rhywun arall. Disgrifiodd yr ysgolhaig Cristnogol Aquinas, eiddigedd fel  ‘tristwch er lles rhywun arall’.

Amser i feddwl

Ewch yn ôl yn eich meddwl at y digwyddiad y gwnaethoch chi feddwl amdano’n gynharach, adeg pan oeddech chi’n genfigennus o rywun neu rywbeth.

Mae’r hyn roeddech chi’n ei deimlo yn beth digon naturiol, ac mae’n rhywbeth sy’n digwydd i bob bod dynol. Mae crefyddau ar hyd y canrifoedd wedi ystyried cenfigen fel rhywbeth yr oedd angen ei egluro, oherwydd ei fod yn rhan mor allweddol o’r natur ddynol, ac wedi ceisio ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn ni deimlo ychydig bach llai o eiddigedd, efallai, ac yn llai cenfigennus.

Atgoffwch eich hunan o’r hyn sydd gennych chi a’r hyn y gallwch chi ei wneud, a’r hyn sy’n eich gwneud chi’n arbennig.  Wedi’r cyfan, dim ond gwneud i ni fod eisiau rhywbeth sy’n eiddo i rywun arall y mae cenfigen. Felly gadewch i  ni edrych yn gyntaf arnom ein hunain a gwerthfawrogi ein pwyntiau da cyn blysio rhywbeth arall.

Peidiwch â dal ar genfigen gan na fydd yn gwneud unrhyw beth ond eich niweidio.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon