Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bocsiwr yn cael ei Fwlio

Sefydlu nad yw cael eich bwlio’n golygu eich bod yn wan na bod unrhyw beth o’i le arnoch chi.

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Sefydlu nad yw cael eich bwlio’n golygu eich bod yn wan na bod unrhyw beth o’i le arnoch chi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi rai lluniau o Joe Calzaghe a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘We will rock you’ gan Queen, ‘Eye of the tiger’ gan Survivor, neu’r gerddoriaeth thema o’r ffilmRocky, a’r modd o chwarae’r gerddoriaeth a’r ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Roedd bachgen tair ar ddeg oed o’r enw Joe yn falch iawn yn dal tlws, yr oedd newydd ei ennill, yn uchel uwch ei ben. Roedd y dyrfa’n cymeradwyo’n llawen iawn, ac roedd Joe ar ben ei ddigon – roedd wedi ennill ei deitl cyntaf yng ngornestau’r Amateur Boxing Association! Roedd wedi bod yn bocsio ers pan oedd yn naw oed, ac roedd ganddo ddawn a photensial enfawr.

    Ar ddydd Sadwrn oedd hynny. Erbyn y Sul roedd yn teimlo’n sâl ac yn crio wrth feddwl bod rhaid iddo fynd i’r ysgol drannoeth.

  2. Oedd y gwaith yn rhy anodd? Oedd Joe ddim yn hoffi’r athrawon? Na – roedd yn cael ei fwlio.

    Am ddim rheswm y gallai ef feddwl amdano, roedd ei ffrindiau wedi troi yn ei erbyn ac yn gwneud ei fywyd yn annifyr. Am ddwy flynedd bron, roedd wedi dioddef cael ei bryfocio a’i wawdio. Roedd plant yn galw enwau arno ac roedd yn cael ei anwybyddu gan yr union rai yr oedd yn credu eu bod yn ffrindiau iddo.

    Ambell waith fe fydden nhw’n ffurfio ‘gang’ yn ei erbyn, ac er y gallai Joe yn hawdd fod wedi ymladd yn erbyn unrhyw un o’r rhai oedd yn ei boenydio, a’i guro, mewn gang roedden nhw’n ddigon dewr i’w wawdio.

    Fe newidiodd Joe o fod yn fachgen hapus cyfeillgar i fod yn unigolyn mewnblyg, heb ddim hyder, a oedd yn methu canolbwyntio ar ei waith.

  3. Y ‘Joe’ hwn yr ydw i wedi bod yn sôn amdano wrthych chi yw Joe Calzaghe, a enwyd yn Focsiwr Ifanc y Flwyddyn yn 1995  ac, yn 2007, a bleidleisiwyd yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC. Derbyniodd CBE yn 2008 ac, yn 2009, fe ymddeolodd fel pencampwr ym myd bocsio, yn ‘super middleweight champion’ heb ei drechu ar ôl 46 gornest.

    Pan ymddeolodd Joe, roedd hynny 27 mlynedd ar ôl yr adeg y dechreuodd gael ei fwlio, ond doedd Joe byth wedi anghofio’r poenydio yr oedd wedi ei ddioddef yn fachgen. Felly, pan ddaeth ei yrfa focsio i ben fe ddaeth yn noddwr yr elusen BeatBullying.

    Mae’n annog plant i siarad os ydyn nhw’n cael eu bwlio, ac yn eu hannog i beidio â bod â gormod o embaras i ofyn am help. Roedd yn enwog fel bocsiwr, a phawb ei ofn, ond mae’n cymryd dewrder mawr i gyfaddef eich bod yn cael eich bwlio. Mae’r hyn a ddioddefodd ef yn profi nad yw’r rhai sy’n cael eu bwlio’n wan, nac yn ddiwerth, ac yn bendant nid nhw sydd ar fai am eu bod yn cael eu bwlio.

  4. Yn aml, unigolion trist yw bwlis, sydd efallai’n eiddigeddus o’r hyn y mae eraill yn gallu ei wneud. Maen nhw’n mwynhau meddwl fod ganddyn nhw rym dros eu dioddefwyr, ond yn aml mae arnyn nhw angen cefnogaeth grwp er mwyn gallu cyflawni hyn. Does neb yn eu hoffi mewn gwirionedd, ond mae’r lleill yn canlyn y bwli am fod ofn arnyn nhw y bydden nhw’n ddioddefwyr eu hunain oni bai eu bod yn ei ddilyn. Nid yw bwlio’n beth derbyniol, o gwbl, ac ni ddylai unrhyw un deimlo bod rhaid iddyn nhw dderbyn hynny.

  5. Fe allwch chi wneud eich rhan i gael gwared â bwlio o’r ysgol hon trwy gefnogi’r mesurau sydd gennym wedi eu gosod yn eu lle. Os ydych chi’n cael eich bwlio, rhowch wybod. Os ydych chi’n gweld rhywun arall yn cael ei fwlio, rhowch wybod. Os ydych chi’n fwli eich hunan, meddyliwch pam rydych chi’n teimlo bod rhaid i chi wneud hynny – deallwch hefyd bod canlyniadau os byddwch chi’n parhau i fwlio.

Amser i feddwl

Er bod Joe yn ddewr ac yn wydn, neu’n galed, yn gorfforol, roedd yn dal i ddioddef yr ofn a’r pryder sy’n cael ei achosi gan fwlio. Ystyriwch y gwahaniaeth rhwng gwydnwch meddyliol a gwydnwch corfforol, a sut mae ar bawb, yn y bôn, angen teimlo ei fod yn cael ei dderbyn, ei werthfawrogi, a’i hoffi.

A yw bocsio’n rhywbeth barbaraidd a hen ffasiwn? Neu a yw’n un o’r chwaraeon cystadleuol prin hynny sydd wir yn profi dewrder, sgil a ffitrwydd dau gystadleuydd cyfatebol?

Ystyriwch y rheol aur: ‘Fel y dymunwch i eraill wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy.’ (Luc 6.31)

Gweddi
Dduw, Dad,
Helpa ni heddiw i ystyried teimladau pobl eraill.
Gweddïwn am y dewrder i siarad os byddwn ni’n gweld achos o fwlio’n digwydd, ac i geisio help os byddwn ni ein hunain yn cael ein bwlio.
Maddau i ni os oes rhai adegau wedi bod pan wnaethon ni’n fwriadol frifo teimladau rhywun arall.
Helpa ni i geisio byw i’r rheol a ddysgodd Iesu i ni, gan drin pobl eraill yn y ffordd y byddem ni ein hunain yn hoffi cael ein trin.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

We will rock you’ gan Queen
'Eye of the tiger’ gan Survivor
Cerddoriaeth thema’r ffilmRocky

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon