Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Desmond Tutu ac Ubuntu

“Rydyn ni'rhyn ydyn ni oherwyddyrhyn ydyn ni.”

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Cyfleu bod perthnasoedd a chymuned yn rhannau sylfaenol o ystyr bod yn fod dynol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nodwch y gellir cysylltu’r gwasanaeth hwn â dydd gwyl Sant Ffransis o Assisi (4 Hydref). Os byddwch yn dymuno gwneud hynny, ychwanegwch y canlynol at destun y gwasanaeth sy’n dilyn yma, cyn Cam 7.

    Ar 4 Hydref mae’n ddydd gwyl Sant Ffransis o Assisi. Roedd Ffransis yn rhywun a oedd yn deall, ar lefel ddofn iawn, bod Cristnogaeth nid yn unig ynghylch bod â pherthynas ysbrydol â Duw ond hefyd ynghylch sut rydyn ni’n perthnasu â’n cyd-ddinasyddion ac, yn wir, â’r holl greadigaeth. Mae’n wybyddus bod Desmond Tutu yn edmygu Ffransis yn fawr iawn, ac mae’n amlwg bod Ffransis wedi dangos‘Ubuntu’yn ei fywyd!
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r fideo o Desmond Tutu sy’n egluro’r cysyniad Ubuntu, a’r modd o chwarae’r fideo yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.youtube.com/watch?v=0wZtfqZ271w). Mae’n para am 3.26 munud.
  • Trefnwch hefyd bod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Everybody needs somebody to love’ gan Solomon Burke, neu’r fersiwn o’r ffilmThe Blues Brothers,a’r modd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddechrau ac ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gân, ‘Everybody needs somebody to love’ gan Solomon Burke neu’r fersiwn o’r ffilmThe Blues Brotherswrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.
    Beth yw’r briodwedd neu’r nodwedd unigryw sy’n gwneud bod dynol? Sut byddech chi’n ateb y cwestiwn, ‘Beth sy’n diffinio person fel person?

  2. Mae sawl un wedi cynnig ateb i’r cwestiwn hwn - rhai yn canolbwyntio ar ein ffurf gorfforol, ein gallu i resymu, ein creadigrwydd neu ein hemosiynau a’n teimladau.

  3. Un enghraifft o ateb i’r cwestiwn yw hwnnw a gynigiwyd gan yr Athronydd Ffrengig, René Descartes, a ddywedodd, ‘Rydw i’n meddwl, felly rydw i’n bod - I think, therefore I am’. Mewn geiriau eraill mae bod yn fod dynol yn ymwneud yn bennaf â’r gallu i resymu, gyda grym y meddwl.

    Yn hyn, mae Descartes yn arddangos tuedd sydd i’w gweld mewn sawl ffordd Orllewinol o feddwl ynghylch bodau dynol – sef ei bod yn tueddu i ganolbwyntio ar fodau dynol fel unigolion a’r priodweddau unigolyddol sy’n eiddo i bob person.

  4. Eto, mae’n ffaith, pe bawn i ar ben fy hun gyda dim ond fy meddyliau trwy’r amser, fyddwn i ddim yn gyflawn fel bod dynol. Mae’n amlwg y byddwn i’n unig, ac fe fyddwn i’n teimlo bod rhywbeth ar goll yn fy mywyd.

  5. Yng ngeiriau’r gân roedden ni’n gwrando arni ar ddechrau’r gwasanaeth, mae pawb angen rhywun - ‘everybody needs somebody’.  Mae hyn yn golygu mwy na dim ond cariad rhamantus. Mae llawer o bobl yn ein bywyd - ffrindiau, teulu, cyd-ddisgyblion ysgol, cyd-aelodau timau chwaraeon, cydweithwyr a chydnabod - sy’n ein gwneud ni y bobl ydyn ni, sy’n llunio ein bywyd, ac sy’n rhoi ystyr a phwrpas i’n bywyd.

  6. Efallai y gallwn ni ddysgu rhywbeth wrth feddwl am hanes gwlad Affrica. Fe dreuliodd esgob enwog yn Eglwys De Affrica, Desmond Tutu (sy’n dathlu ei ben-blwydd ar 7 Hydref), lawer o flynyddoedd yn brwydro yn erbyn y system apartheid (arwahanu hiliol) yn Ne Affrica.

    Fe addysgodd lawer o bobl yn y Gorllewin am y gair Affricanaidd Ubuntu.Mae’n air anodd ei gyfieithu, ond mae’n golygu rhywbeth fel ‘mae person yn berson oherwydd pobl eraill’.

    Mae Desmond Tutu yn dweud mai’r hyn sy’n ein diffinio ni fel bodau dynol yw perthnasoedd. O fewn perthnasoedd ac o fewn cymunedau y byddwn ni’n datblygu i fod y math o berson rydyn ni wedi ein bwriadu i fod. Mae Desmond Tutu’n dweud bod dyn ar ben ei hun yn groesddywediad, ‘a solitary human being is a contradiction in terms.’ Fel bodau dynol, rydyn ni wedi cael ein creu gan Dduw i fod mewn perthynas â’r naill a’r llall.

    Gwrandewch arno’n egluro’r syniad hwn, sef Ubuntu, yma.

    Chwaraewch y fideo o Desmond Tutu yn egluro’r cysyniad Ubuntu.

    Fel mae Desmond Tutu’n dweud, mae dealltwriaeth pobl Affrica ynghylch perthnasoedd a chymuned yn debyg iawn i’r hyn y mae sôn amdano yn y Beibl. Yn Genesis (2.18), mae Duw’n creu Adda, ac yna’n dweud, ‘Nid da bod y dyn ar ben ei hun’. Mae’r ffaith bod Duw wedi creu Efa wedyn yn fynegiant grymus o’r gwirionedd fod bodau dynol wedi cael eu gwneud i fod gyda’i gilydd, ac mewn perthynas â’i gilydd.

  7. Er mwyn ymarfer Ubuntu, mae angen i ni gydnabod nad bodau dynol unigolyddol ydyn ni, sy’n dilyn ein huchelgeisiau unigol ein hunain. Rydyn ni angen gwybod bod ein dynoliaeth ynghlwm â dynoliaeth pobl eraill, a rhaid i ni roi lles ein cymuned o flaen ein diddordebau hunanol ein hunain.

    Dyna le gwych a fyddai ein hysgol a’n cymuned pe bydden ni’n nodweddu’r gair Ubuntu!

Amser i feddwl

Rydyn ni, nawr yn mynd i wrando ar ddau ddarlleniad byr - un o’r Beibl ac un allan o ysgrifau Desmond Tutu. Mae’r ddau ddarn yn mynegi prif elfennau Ubuntu un teulu.

Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano . Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu (Llythyr Paul at y Galatiaid 3.26-28).

“We are made for goodness. We are made for love. We are made for friendliness. We are made for togetherness. We are made for all of the beautiful things that you and I know. We are made to tell the world that there are no outsiders. All are welcome: black, white, red, yellow, rich, poor, educated, not educated, male, female, gay, straight, all, all, all. We all belong to this family, this human family, God's family .” (Desmond Tutu www.goodreads.com/author/show/5943.Desmond_Tutu)

Gadewch i ni fod yn dawel am foment wrth i ni feddwl am yr hyn rydyn ni wedi ei glywed.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

'Everybody needs somebody to love’ gan Solomon Burke neu’r fersiwn o’r ffilmThe Blues Brothers

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon