Y Cerddediad Ffonau Clyfar
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried faint o amser, a sylw, rydyn ni’n ei roi i’n perthnasoedd ffonau clyfar.
Paratoad a Deunyddiau
- Efallai yr hoffech chi arddangos yr ail lun mawr o groesfan Shibuya yn Tokyo, o’r erthygl sydd i’w gweld ar: www.bbc.co.uk/news/magazine-28208144, ond dewisol yw hyn.
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gerddoriaeth ‘Oxygène (rhan II)’ neu ddewis arall o gerddoriaeth gan y cerddor Jean Michel Jarre, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Mae’n nos Wener yn Tokyo, ac i lawer o bobl yno does dim ond un lle i fod ynddo. Ewch i orsaf fawr Shibuya (sy’n cael ei ynganu’n ffonetig gyda’r un pwyslais ar bob sill) ac ymunwch â’r dyrfa anghyffredin wrth i bawb anelu tua’r groesfan ganolog enfawr. Mae tyrfaoedd mawr tebyg o bobl ar bob ochr i’r gyffordd siâp X. Mae’r goleuadau’n troi’n wyrdd (neu, fel mae’n digwydd bod, yn las, i bobl Japan) ac i bob pwrpas mae pedair torf fawr yn cerdded yn union tuag at ei gilydd. Mae’r llanw mawr o bobl a ddaw o bob ochr yn cwrdd yn fôr mawr yn y canol wrth iddyn nhw groesi dros y ffordd i’r ochr gyferbyn. Dynion busnes mewn siwtiau tywyll gyda’u hambaréls a’u bagiau dogfennau, hefyd y gyaru (merched) sef yr arweinwyr ffasiwn, y twristiaid syfrdan, a’r myfyrwyr achlysurol, i gyd yn gwau trwy ei gilydd wrth iddyn nhw frysio i groesi i’r ochr draw.
Eto, rywsut rywfodd, mae’r gweithio. Mae pawb yn llwyddo i groesi’r groesfan enfawr hon. Trwy gyfuniad o gwrteisi tuag at bobl eraill a phenderfyniad i fynd i’r fan y maen nhw’n mynd iddo, mae pawb yn llwyddo i gyrraedd yr ochr draw yn ddianaf. Does neb yn taro yn erbyn y naill a’r llall na neb yn lletchwith wrth geisio pasio’i gilydd. - Croesfan sebra anferth yw croesfan Shibuya, fodd bynnag mae’r amgylchedd anhrefnus ond rheoledig hwn wedi dod yn un o’r mannau hynny y mae’n rhaid i dwristiaid ddod i’w weld. Yn wir, mae mor enwog fel y sylfaenwyd y groesfan siâp X sydd yn Oxford Circus yn Llundain ar batrwm y gyffordd enwog hon yn Tokyo.
- Ond mae’n dod yn fwyfwy anodd croesi cyffordd Shibuya, bob dydd. Ymysg pobl ifanc Japan, mae cynnydd mawr wedi bod yn y defnydd o ffonau clyfar ac mae wedi dod yn beth cyffredinol bron. Peth arferol yw gweld pobl ifanc Japan yn cerdded ar hyd y stryd fawr gan syllu ar eu ffonau. Ac mewn dinas fel hon, sydd â phobl yn tyrru drwyddi draw, nid yw’n syniad da iawn cerdded heb edrych i ble rydych chi’n mynd!
- Wedi dweud hynny, mae’r defnydd a wneir o ffonau clyfar yn Tokyo yn groesebol mewn sawl ffordd. Er bod pobl Japan yn defnyddio’u ffonau wrth gerdded ar hyd y strydoedd, mae’n gamsyniad cymdeithasol difrifol siarad arnyn nhw neu chwarae cerddoriaeth arnyn nhw pan fydd eu perchnogion yn teithio ar y trenau. Dydi hynny ddim yn beth i’w wneud ar y trên am ryw reswm a does neb yn gwneud. Mae’r trenau’n aml yn llawn iawn, a theithio arnyn nhw’n brofiad chwyslyd, ond o leiaf does dim rhaid i’r teithwyr ddioddef diffyg chwaeth yr un sy’n eistedd yn ei ymyl! Er hynny, mae’r hyn maen nhw’n ei alw’n gerddediad ffonau clyfar, neu’r 'smartphone walk' yn dod yn fwyfwy cyffredin.
- Fe fyddwch chi’n gwybod yn union sut beth yw cerddediad y ffonau clyfar, rwy’n siwr – mae’r unigolyn yn cerdded â’i ben i lawr, heb edrych o gwbl i ble mae’n mynd, mae’n ymddangos! Ac ar groesfan Shibuya, fe allai hynny fod yn broblem.
Dychmygwch bedwar grwp mawr o bobl yn cerdded o bedwar cyfeiriad tuag at ei gilydd ar y groesfan. Dychmygwch hefyd nad ydyn nhw’n edrych i ble maen nhw’n mynd. Amcangyfrifir mai dim ond traean y bobl hyn sy’n croesi mewn pryd cyn i’r goleuadau newid. - Yn achos llawer ohonom, mae’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn bethau rydyn ni’n edrych arnyn nhw, nid yn achlysurol ar ein cyfrifiaduron, ond yn hytrach maen nhw’n rhan fawr o’n bywyd bob dydd. Gall neges fod mor werthfawr â sgwrs go iawn. Mae tag 'like' neu dag mewn post yn rhyngweithio gwirioneddol ymysg pobl.
Mae’n amlwg fod i hyn lawer o fanteision ac, mewn ffordd, rydyn ni’n fwy cymdeithasol nag erioed. Eto, mewn ffordd arall, a yw’r amser rydyn ni’n ei dreulio’n syllu ar sgrin fach o ddifrif yn werth ei gofio. Mae’n dod ag ystod ein golwg i lawr i tua 5 y cant o’r hyn a luniwyd i ni ei weld.
Fe ddylem gofio, waeth pa mor glyfar yw ein technoleg, fe allwn ni ein hunain fod yn fwy clyfar. - Mae’n ddiddorol sylwi, heb fod ymhell o groesfan Shibuya, ym mharc hardd a hyfryd Yoyogi Park, mae grwpiau rhyngwladol a chyplau ifanc fel ei gilydd yn mwynhau'r haf yno. Hyd yn oed mewn dinas mor dechnolegol â Tokyo, mae amser o hyd i bobl ryngweithio o ddifrif a mwynhau pleserau naturiol symlaf byd natur, cyfeillgarwch ac yfed te gwyrdd drud!
Amser i feddwl
Faint o amser ydych chi’n ei dreulio’n gwneud y cerddediad ffonau clyfar, y ‘smartphone walk’, bob dydd?
Allai’r amser hwnnw, neu beth ohono, gael ei dreulio’n well trwy ryngweithio â phobl eraill wyneb yn wyneb?
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol
‘Oxygène (part II)’ neu ddewis arall o gerddoriaeth gan Jean Michel Jarre
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.