Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mor ddoeth â ... Rhan 1

Y Brenin Solomon yn dangos ei ddoethineb

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dangos nad yw gwybodaeth yr un peth â doethineb.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Os byddwch chi’n defnyddio’r delweddau o bobl sy’n enwog am yr hyn y gwnaethon nhw ei gyflawni, dangoswch y rhain ar y pwynt hwn.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr, ‘Sawl un o'r bobl hyn allwch chi eu henwi? Ydych chi'n gwybod am beth maen nhw'n enwog?’

  2. Mae llawer o bobl yn adnabyddus am fawredd eu deallusrwydd a'u gallu. Efallai eu bod wedi cyflawni pethau mawr ac felly, yn aml, fe gaiff eu henwau eu cofio am amser hir ar ôl iddyn nhw farw.

  3. Er y gall pobl gyflawni pethau mawr, dydyn nhw ddim bob amser yn dangos doethineb yn y ffordd y maen nhw'n byw eu bywydau. Efallai eu bod yn ymddiried mewn pobl sy'n awyddus i gymryd mantais arnyn nhw; efallai eu bod yn gwastraffu eu harian, neu’n gwneud penderfyniadau busnes gwael. Gall pobl ddeallus iawn weithiau weithredu'n annoeth ac, yn drist, mae doethineb yn rhywbeth na ellir ei addysgu.

  4. Tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, Solomon oedd brenin Israel. Cyn iddo ddod yn frenin, gweddïodd Solomon y byddai'n gallu barnu'n dda fel ei fod yn gallu rheoli ei bobl yn ddoeth, ac yn gallu gwahaniaethu rhwng gau a'r gwir a rhwng gwirionedd ac anwiredd. Roedd Duw mor falch nad oedd wedi gofyn am gyfoeth mawr a grym, nac am farwolaeth ei elynion, felly fe roddodd Duw ddoethineb iddo ynghyd â chyfoeth, anrhydedd a hir oes.

  5. Rhoddwyd doethineb Solomon ar brawf yn gynnar iawn yn ei deyrnasiaeth. Dygwyd dwy wraig ato, y naill a'r llall yn honni eu bod yn fam i faban gwryw. Roedd y ddwy yn byw yn yr un ty ac wedi rhoi genedigaeth tua'r un adeg i faban gwryw. Honnodd un o'r gwragedd bod y wraig arall un noson yn ddamweiniol wedi troi drosodd yn ei chwsg ac wedi mygu ei baban.

    ‘Fe wnaeth y wraig hon,’ plediodd, 'o ddarganfod bod ei baban wedi marw, sleifiodd i'm llofft i tra roeddwn yn cysgu a chyfnewid ei phlentyn marw hi am fy mhlentyn i.’

    ‘Naddo, wnes i ddim,’ llefodd y wraig arall. ‘Hi ddygodd fy mhlentyn annwyl i oherwydd bod ei baban hi wedi marw. Fuaswn i byth yn gwneud peth mor ddrygionus.’

    Er gwaethaf holi ymhellach, nid oedd y naill wraig na'r llall yn fodlon newid ei stori - roedd y ddwy yn honni bod yn fam i'r baban.

    Yn sicr, roedd hwn yn achos anodd i Solomon.

    Wrth edrych ar y baban, nid oedd yn gallu gweld tebygrwydd i'r naill wraig na'r llall - ac nid oedd y fath beth â phrawf DNA'r dyddiau hynny, felly roedd yn ofynnol iddo feddwl yn greadigol.

    ‘Does ond un ateb i'r broblem hon,’ dywedodd Solomon. ‘Warchodwr!’ llefodd ‘Torrwch y baban yn ddau a rho hanner yr un iddyn nhw.’

    Wedi ei bradychu gan y datganiad hwn, taflodd un o'r gwragedd ei hun at draed Solomon a llefain, ‘Na! Os gweli di'n dda, paid â niweidio'r plentyn! Gad iddi hi gael y baban.’

    ‘Warchodwr,’ dywedodd Solomon yn dawel, ‘Rho'r plentyn i'r wraig hon. Mae'n amlwg ei bod yn ei garu gymaint fel na all hi ganiatáu iddo dderbyn unrhyw niwed.’

    Fyddai Solomon byth o ddifrif wedi caniatáu i'r baban gael ei dorri'n ei hanner. Roedd yn gwybod na fyddai'r fam go iawn byth yn caniatáu i beth fel yna ddigwydd. Roedd yn ddigon doeth i sylweddoli sut y byddai'r fam go iawn yn ymateb i orchymyn o'r fath.

    Yn yr ysgol, mae eich athrawon yn ceisio addysgu llawer o bethau i chi, ond yr un peth na allan nhw ei addysgu i chi yw doethineb. Does gan ddoethineb ddim i'w wneud ag addysg neu fod yn ddeallus gyda gwaith ysgol; mae a wnelo doethineb â barnu'n dda, meddwl yn eglur a gwybod beth i'w wneud mewn sefyllfaoedd anodd.

Amser i feddwl

Tybir bod Solomon wedi ysgrifennu dros 3,000 o’r diarhebion neu’r dywediadau doeth sydd i’w cael yn y Beibl. Fe allai rhai fod yn neilltuol o addas i’w hystyried heddiw, fel:

Glyn wrth addysg, a hynny’n ddi-ollwng; dal d’afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.
(Diarhebion 4.13).

Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl, oherwydd oddi yno y tardd bywyd. Gofala osgoi geiriau twyllodrus, a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.
(Diarhebion 4.23-24)

Rho sylw i lwybr dy droed, i’th holl ffyrdd fod yn ddiogel.
(Diarhebion 4.26)

Roedd diarhebion yn arfer bod yn bethau a oedd yn cael eu hystyried yn hanfodol yn addysg pob plentyn, a rhaid oedd eu dysgu ar y cof. Mae llawer mwy o ddiarhebion modern a chyfarwydd i’w cael, y byddai’n bosib eu trafod neu eu hegluro, sy’n rhoi cyngor doeth.

Gweddi
Dduw, Dad,
Boed i ni dyfu mewn doethineb, fel y gwnaeth Solomon.
Helpa ni i ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n iawn a’r hyn sydd ddim yn iawn, a gwybod beth sy’n wir a beth sydd ddim yn wir.
Gweddïwn y gwnei di oleuo ein ffordd, fel y byddwn ni’n gwneud dewisiadau doeth a gwneud ein gorau bob amser.
Amen

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon