Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwrthdaro

‘Mae’n dda siarad’

gan Simeon Whiting

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried datrys anghydfod trwy siarad am y broblem.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y pethau canlynol i chwarae’r gêm yn Rhan 1, ac os gallwch chi, paratowch gyda’r ddau fydd yn cymryd rhan:
    – dau rwymyn pen (headband)
    – dau hambwrdd
    – dau bapur newydd wedi’u rowlio, neu ddau ddarn tua’r un hyd o ddeunydd lagio pibellau
    – pedair maneg rwber
    – dwy falwn (un i’w defnyddio ac un yn sbâr).
  • Fe fydd arnoch chi angen cydweithiwr i chwythu balwn i chi yng Ngham 4.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Between you and me’ gan DC Talk neu ‘Talk’ gan Coldplay, a’r modd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Yn gyntaf, chwaraewch y gêm fel hyn:

    – Gofynnwch i’ch dau chwaraewr ddod ymlaen.
    – Eglurwch eu bod yn mynd i roi cynnig ar y gêm ‘martial art’ hynafol, Tray-Fu.
    – Rhowch rwymyn pen i bob un o’r ddau, gan egluro ei bod yn hanfodol gwisgo rhwymyn pen ar gyfer yr ornest.
    – Rhowch hambwrdd i bob un o’r ddau, a phapur newydd wedi ei rolio neu hyd o ddeunydd lagio pibellau i bob un hefyd.
    – Gofynnwch i’r chwaraewyr sefyll ar un goes.
    – Ar y gair ‘Ewch’, rhaid i bob un o’r ddau geisio curo hambwrdd ei wrthwynebydd oddi ar ei law/ ei llaw, gan ddefnyddio’r papur newydd neu’r deunydd lagio. Y chwaraewr cyntaf i wneud hynny sy’n ennill.
    – Rhaid i’r ddau barhau i sefyll ar un goes trwy gydol yr ornest, a rhaid i’r hambwrdd orwedd ar gledr y llaw – ni chaniateir gafael ynddo â’r bysedd.
    – Unwaith y byddwch wedi egluro rheolau’r gêm, fe allwch chi chwarae sawl rownd gyda myfyrwyr eraill os bydd amser yn caniatáu, a’r myfyrwyr yn mwynhau’r gêm.

  2. Gall pob math o bethau achosi gwrthdaro rhwng pobl. Fe all fod yn rhywbeth o gêm wirion fel hon i rywun yn brifo eich teimladau neu’n eich siomi’n fawr. Y cwestiwn yw sut y dylem ni ddelio â gwrthdrawiadau â rhywun arall?

  3. Pan fydd gwrthdaro’n digwydd, fe allwn ni fynd yn fwyfwy dig gyda’r person arall, ac mae’n teimlo fel pe byddai straen yn codi y tu mewn i ni. Fe allen ni gael ein gwthio i’r pwynt pryd y byddwn ni’n colli ein tymer o ddifrif. Mae’n siwr bod ffordd well o ddelio â phethau na hyn.

  4. Nesaf, gofynnwch i’ch cydweithiwr chwythu balwn i chi’n araf tra byddwch chi’n dal ati i siarad.

    Eglurwch y gall sawl peth gwahanol achosi gwrthdaro. Er enghraifft, gall pethau bach y mae rhai aelodau ein teulu’n eu gwneud fynd ar ein nerfau.

    Rhowch rai enghreifftiau o bethau felly, a gofynnwch i’r myfyrwyr am enghreifftiau hefyd os ydych chi’n eu hadnabod yn ddigon da i wybod y cewch chi ymateb adeiladol. Efallai bod rhieni’n swnian arnyn nhw i gadw eu hystafell yn daclus, neu frawd neu chwaer yn cymryd pethau heb ofyn.

    Os na fyddwn yn ceisio datrys problemau bach fel rhain, ymhen amser, mae posib iddyn nhw dyfu’n broblemau mawr. Yn y pen draw fe all pethau ffrwydro. (Os byddwch chi’n amseru hyn yn dda, fe allai’r falwn mae eich cydweithiwr yn ei chwythu fyrstio ar y pwynt hwn!)

  5. Credwch neu beidio, mae llawer cyfeiriad yn y Beibl ynghylch sut i ddelio â gwrthdaro. Efallai mai’r cyngor enwocaf yw’r geiriau, ‘peidiwch â gadael i’r haul fachlud ar eich digofaint’ (Effesiaid 4.26). Mewn geiriau eraill, os ydych chi’n ddig gyda rhywun, ceisiwch ddatrys pethau mor fuan â phosib. Peidiwch â chymryd arnoch fod popeth yn iawn. Peidiwch â gadael i bethau gorddi y tu mewn i chi. Siaradwch yn bwyllog â’r person arall gan ddweud wrtho ef neu hi sut rydych chi’n teimlo, a gwrandewch ar beth sydd ganddo ef neu hi i’w ddweud hefyd.  Mae’n rhyfeddol pa mor aml y mae’n bosib datrys achos o wrthdaro dim ond trwy siarad am y peth.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r myfyrwyr gau eu llygaid am foment.

Efallai eich bod yng nghanol anghydfod ar yr adeg hon. Efallai bod rhywun wedi brifo eich teimladau a’ch bod yn ddig oherwydd yr hyn maen nhw wedi ei wneud neu wedi ei ddweud.

Sut gallwch chi wneud amser i siarad â’r person hwnnw? Beth allech chi ei ddweud i’w helpu ef neu hi ddeall sut rydych chi’n teimlo?

Efallai eich bod yn gwybod mai chi yw’r un sydd wedi brifo teimladau rhywun arall. Oes rhywun y dylech chi ddweud sori wrtho? Pa bryd y gwnewch chi siarad ag ef neu hi ynghylch hyn?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Between you and me’ gan DC Talk

Talk’ gan Coldplay

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon