Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Disgwyl gweithredol

Adfent – tymor o edrych ymlaen

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio amynedd, gan ddefnyddio gwyl yr Adfent fel canolbwynt.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, 'Keep the car running’ gan Arcade Fire a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Pa mor ddiamynedd ydych chi, tybed? Ydych chi yn debyg i unrhyw un o'r myfyrwyr hyn?

Daw Darllenydd 1 i mewn, sefyll gyda'i freichiau ymhleth, gan daro'i droed yn ddiamynedd. Daw Darllenydd 2 a 3 i mewn wedyn, gan weithredu yn yr un modd.

Darllenydd 1
Rydw i’n casáu disgwyl. Pam mae rhaid i mi sefyll fan hyn pan allwn i fod yn gwneud cymaint o bethau eraill? Pam na fedraf gael beth rydw i ei eisiau, pan fyddaf i ei eisiau? Rydw i ei eisiau ’nawr, y funud hon!                                                           

Darllenydd 2 [Yn edrych ar ei wats.]  Pa bryd mae’r lle ma’n mynd i agor? Does gen i ddim trwy'r dydd. Rydw i eisiau hyn nawr, ac rwy’n anhapus cael fy ngorfodi i aros. Pwy sy’n poeni os oes ciw? Rydw i wedi diflasu gorfod aros!

Darllenydd 3 [Yn edrych ar ei ffôn symudol.] Pa bryd y mae'n mynd i gysylltu. Mae bum munud yn hwyr yn barod. Os na fydd yn ffonio o fewn y funud nesaf, yna bydd pob dim drosodd! Allwch chi ddim dibynnu ar rai pobl.

Arweinydd  Rydym yn byw mewn cymdeithas ‘instant’, gyda phopeth yn barod. Mae gennym goffi parod, mynediad parod, credyd parod a phrydau bwyd parod. Mae ein ffôn symudol yn canu ac mae'n rhaid i ni ei hateb, ar unwaith. Rydym yn gweld y dillad ffasiynol diweddaraf, teclynnau, cerddoriaeth, gemau ac rydym eu heisiau ar unwaith. Mae hysbysebion yn ein hannog i ymateb yn y ffordd hon, hefyd. Mae'r cynnig yn parhau am ddim ond dau ddiwrnod .... Pam aros? Beth sydd i'w ennill?

Rydym yn nesu at dymor Cristnogol yr Adfent. Mae'n dechrau eleni (2014) ar 30 Tachwedd ac yn dod i ben ar Noswyl y Nadolig.

I Gristnogion mae'n dymor o ddisgwyl. Yn gyntaf, mae'r Adfent yn edrych yn ôl ar y canrifoedd o ddisgwyl a brofodd yr Iddewon wrth iddyn nhw aros am ddyfodiad y Meseia - yr arweinydd a addawodd Duw fyddai'n dod, yng ngeiriau ei broffwydi.

Mae Cristnogion yn credu mai Iesu oedd  y Meseia hwnnw, felly, yn ystod yr Adfent, maen nhw'n treulio cyfnod o bedair wythnos yn rhagweld genedigaeth Iesu ar Ddydd Nadolig. Nid yw thema’r Adfent, o ddisgwyl, yn dod i ben fan honno, fodd bynnag. Mae Cristnogion yn credu fod Iesu yn mynd i ddod unwaith yn rhagor, y tro hwn i reoli dros y bydysawd cyfan. Mae'r Adfent felly yn amser o edrych ymlaen at yr achlysur pwysig iawn hwnnw.

A ydych erioed wedi ystyried efallai ei fod yn  beth ddefnyddiol  i ni ddisgwyl?

Un o'r materion mawr i lawer o bobl y dyddiau hyn yw dyledion ariannol. Er mwyn prynu rhywbeth yn syth, bydd pobl yn cymryd benthyciadau ac yn ymgymryd â chytundebau credyd sy'n gallu mynd allan o reolaeth yn hawdd. Mae benthycwyr diegwyddor yn cymryd mantais ar y meddylfryd o ‘gael pethau'n syth’ ac yn dal prynwyr anwyliadwrus sydd ddim yn gallu disgwyl. 

Mae disgwyl, fodd bynnag, yn rhoi'r cyfle i ni gynilo ar gyfer cael y pethau rydyn ni eu blysio. Gall gymryd wythnosau neu fisoedd neu hyd yn oed gyfnod hirach i gynilo, ond mae'r rhyddid o allu prynu gydag arian mewn llaw yn rhoi teimlad o ryddhad. Does dim amodau.  Does dim dyledion i'w talu.

Hefyd, mae disgwyl yn rhoi cyfle i ni gynllunio. Fe all gweithredoedd digymell a phryniadau digymell fod yn gyffrous, ond weithiau ar ôl hynny deuwn i gydnabod nad oeddem wedi meddwl yn llawn am y canlyniadau. Mae cael anifail anwes yn enghraifft dda o hyn. Ymhle y byddwn yn ei roi? Faint o amser y mae'n ei gymryd i roi iddo'r sylw y mae ei angen? Beth am filiau'r milfeddyg? Gall disgwyl a chynllunio ein helpu i fwynhau llawer mwy na phe na byddem wedi cael yr amser hwnnw i ystyried yr holl beth yn fanwl, ac yn gwneud camgymeriad mawr.

Gall aros am rywbeth gynyddu ein syniad o ddisgwyliad hefyd. Mae'r Nadolig yn well i ni yn hollol am ein bod yn gallu ei fwynhau am gyfnod ymestynnol. Rydyn ni’n gwneud ein rhestrau. Rydyn ni’n paratoi ac yn cynllunio. Yn yr un modd, gyda gwyliau, rydyn ni’n adeiladu yn ein dychymyg y gwyliau rydyn ni’n edrych ymlaen ato. Rydyn ni’n teimlo ein bod yn methu aros bron, ond fe wyddom fod yn rhaid i ni, fel pan ddaw'r diwrnod o'r diwedd, mae'r cyfan yn fwy o fwynhad.

Yn olaf, ac o bosib yn bwysicach na dim, mae disgwyl yn ein gorfodi i sylweddoli nad ni yw canol y bydysawd. Pan fyddwn yn disgwyl, byddwn yn cymryd cyfrif o ffactorau eraill sy'n bodoli yn y byd o'n cwmpas. Efallai mai'r dymuniadau cystadleuol sy'n perthyn i eraill yn ein teulu neu ein cymuned yw’r rheini. Gall y ffaith ein bod ni’n aros, a disgwyl, ganiatáu i rywun arall gael y cyfle i elwa ar y funud hon. Pan fydd arian yn brin, gall disgwyl ganiatáu i eraill gymryd eu tro o'n blaenau.

Mae disgwyl yn ein hannog i edrych o gwmpas, ystyried pwy, beth a phryd. Mae disgwyl yn help i ni sylweddoli bod yr amser a'r cyfleoedd yn ymestyn i ddyfodol hir. Mae disgwyl yn rhoi persbectif gwahanol i ni.

Amser i feddwl

Fel y gwelwch, mae'r Adfent yn amser o ddisgwyl sydd â phwrpas defnyddiol iddo. Gall Adfent myfyriol, o bosib, greu Nadolig mwy pleserus.

Yn draddodiadol, roedd yr Adfent yn gyfnod o ympryd - sy'n anodd i ni ei ddychmygu'n awr, gyda'r holl bartïon a'r dathliadau cyn y Nadolig! Dychmygwch, fodd bynnag, pa mor flasus y byddai cinio Nadolig da wedi bod ar ddiwedd Adfent darbodus iawn!

Ymysg y cynlluniau ar gyfer anrhegion, bwyd ac adloniant, cofiwch, hefyd, am Iesu.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr wythnosau o ddisgwyl sy’n arwain at y Nadolig.
Wrth i bob un ohonom ysgrifennu ein rhestr Nadolig, boed i ni feddwl am y rhai sydd o’n cwmpas, am eu hanghenion a’u deisyfiadau.
Boed i’n cynlluniau ymestyn ymhellach, i gynnwys pobl anghenus ledled y byd, a boed i ni gynllunio mewn ffordd hael.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

'Keep the car running’ gan Arcade Fire

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon