Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nadolig DIY

Herio’r myfyrwyr i feddwl yn ddwys am yr hyn y byddan nhw’n ei roi y Nadolig hwn.

gan Ali Campbell

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Herio’r myfyrwyr i feddwl yn ddwys am yr hyn y byddan nhw’n ei roi y Nadolig hwn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un arweinydd a phedwar darllenydd.
  • Dewiswch un hoff gân Nadoligaidd a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Ym mis Rhagfyr 1944, Hyd yn oed ar ôl llwyddiant y Cynghreiriau i wthio trwy Ewrop ers mis Mehefin y flwyddyn honno (achlysur y bu coffa amdano ledled y D.U. eleni, sef 70 mlwyddiant y glanio ar D-Day (D-Day landings), roedd pethau’n dal i fod yn bur enbydus, a llawer o golledion a marwolaethau ar bob ochr y brwydro.

Er hynny, roedd y bygythiad o gyrchoedd awyr rheolaidd dros y D.U. ar ben, ac eglwysi erbyn hyn yn cael caniatâd i adael eu golau ymlaen yn ystod Nadolig 1944. Disgleiriai’r golau trwy’r ffenestri lliw am y tro cyntaf ers pedair blynedd. 

Rhywbeth oedd wedi dod yn fath o arwyddair trwy gydol amser y rhyfel oedd y dywediad Saesneg ‘make do and mend’ - trwsio rhywbeth a pheri iddo wneud y tro.  Felly, wrth i gyfnod y Nadolig nesu, ymddangosai erthyglau a syniadau mewn llawer o gylchgronau ynghylch sut i fynd ati i wneud anrhegion eich hunan.

Dyma ddyfyniad o’r cylchgrawn Woman, dyddiedig 9 Rhagfyr 1944, a oedd yn awgrymu, 'One of the nicest presents to give (or to receive) is a half-pound of home-made sweets', ac yn y llyfr Rag-Bag Toys roedd cyfarwyddiadau ynghylch gwneud anrhegion fel, 'Chubby pink pig from an old vest' neu doli wedi ei gwneud allan o hen sanau, ‘doll made from old stockings’.

Roedd bwyd yn brin - parhaodd y dogni bwyd (rations) ar ôl hynny - ond roedd pethau’n wirioneddol wael yn 1944. Fe fyddai pobl yn gweini ‘mock turkey’ neu ‘mock goose’. Nid cig yr adar go iawn oedd hwn ond beth bynnag oedd ar gael ar y pryd, unrhyw gig y gallen nhw gael gafael arno.

Mae llawer ohonom wedi hen arfer gallu prynu a chael beth bynnag y byddwn ni ei awydd - yn aml yn trefnu’r pryniant wrth bwyso botwm yn ddibryder - dydyn ni ddim hyd yn oed yn gorfod gwneud unrhyw ymdrech i fynd allan i’r siop i brynu dim oherwydd bod yr hyn rydyn ni eisiau ei brynu’n cael eu gludo at ddrws ein ty! A’r dyddiau hyn, fe allai mynd ati i wneud anrheg i rywun ymddangos fel ein bod y gybyddlyd yn hytrach nag yn feddylgar!

Efallai bod gennym ormod o bethau. Beth bynnag yw’r achos, hyd yn oed os nad ydych yn ysgrifennu rhestr ar gyfer Sïon Corn mwyach, rwy’n tybio bod gennych chi restr yn eich meddwl, er hynny, o’r hyn yr hoffech chi ei gael!

Ond, meddyliwch am hyn. Beth am i chi ddewis un person a gwneud rhywbeth ar ei gyfer ef neu hi, eleni?

Does dim rhaid i chi fod yn grefyddol, nac yn rhywun sy’n gwneud ffws mawr o’r Nadolig, fe allai fod yn gyfle i chi ddangos eich gwerthfawrogiad i rywun. Mae anrheg sydd wedi ei wneud yn hytrach nag wedi ei brynu yn ...

Darllenydd 1   ... rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud (mae’n golygu ymdrech)

Darllenydd 2  ... rhywbeth sy’n unigryw (does dim byd arall sy’n union yr un fath)

Darllenydd 3  ... rhywbeth personol (rydych chi’n adnabod yr un rydych chi’n rhoi’r anrheg iddo ef neu hi yn well nag y mae cwmni Amazon neu WHSmith neu ble bynnag arall y byddech chi wedi bod yn siopa ynddo).

Arweinydd  Rydyn ni’n byw mewn gwlad lle mae gennym ni ddigon o bethau, ac felly fe allai hyn ymddangos fel ymdrech fawr nad oes yn rhaid i ni ei gwneud, ond methu’r pwynt fyddai hynny. Mae gwreiddyn traddodiad Siôn Corn â rhywbeth i’w ddysgu i ni.

Darllenydd 4  Cafodd Nicholas ei eni yn ystod y drydedd ganrif. Roedd ei rieni’n gyfoethog, a chafodd Nicholas ei fagu’n Gristion. Yn anffodus, bu ei rieni farw mewn epidemig pan oedd Nicholas yn fachgen bach. Ond pan oedd Nicholas yn hyn fe geisiodd ufuddhau i eiriau o eiddo Iesu, sef ‘Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.’ (Mathew 19:21)

Defnyddiodd Nicholas yr arian a etifeddodd i helpu rhai anghenus, y cleifion a rhai oedd yn dioddef. Cafodd ei wneud yn esgob tra roedd yn dal yn ddyn ifanc, ac fe ddaeth yn enwog am ei haelioni tuag at rai oedd mewn angen, am ei gariad tuag at blant, ac am ei bryder dros forwyr a’u llongau. Yn ôl y traddodiad, fe fyddai’n gadael anrhegion bach i rai oedd mewn angen - yn aml wedi eu taflu i mewn i’w cartrefi trwy’r ffenestri neu wedi eu gadael ar garreg y drws!

Amser i feddwl

Efallai nad oes gennych chi gyfoeth mawr i’w rannu, ac efallai na fydd raid i chi beri i rywbeth wneud y tro (make do and mend) yn ystod y Nadolig, ond beth allech chi ei wneud i rywun arall? Beth fyddai’n gwneud y peth hwnnw’n unigryw ac yn bersonol?

Treuliwch foment yn bod yn ddiolchgar am bopeth sydd gennych chi.

Cerddoriaeth

Eich dewiswch o un hoff gân Nadoligaidd boblogaidd

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon