Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhyddid

Ystyried y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn meddwl eu bod yn rhydd.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn meddwl eu bod yn rhydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe gynhaliodd y BBC dymor ‘Freedom 2014’ gan ofyn i lawer o bobl ledled y byd beth oedd ystyr rhydid iddyn nhw. Os bydd hynny’n bosib, dangoswch y clip fideo, oherwydd ei fod yn ardderchog (ar gael ar: www.bbc.co.uk/news/magazine-26614481).
  • Trefnwch hefyd bod gennych chi recordiad o’r gân ‘Free’ gan George Michael, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Tybed beth mae’r gair ‘rhyddid’ yn ei olygu i chi?

    Yn ein cymdeithas Orllewinol, mae gennym yn aml fwy o gonsyrn am yr hyn nad oes gennym na'r hyn sydd gennym. Rydym yn ‘rhydd’ ac mae  gennym y ‘rhyddid’ i wneud fel y mynnwn, o fewn rheswm, ac oddi mewn i ffiniau'r gyfraith.

  2. Rwyf eisiau edrych heddiw ar yr hyn y mae rhyddid yn ei olygu i wahanol bobl o gwmpas y byd. Y peth cyntaf yr hoffwn i ni ei wneud, fodd bynnag, yw ystyried beth yw lliw rhyddid. Pa liw all hwnnw fod?

    Derbyniwch atebion gan aelodau o’ch cynulleidfa, ac o bosib eu rhesymau dros ddewis y lliwiau maen nhw’n eu hawgrymu. Fe allech chi gael awgrymiadau bod rhyddid yn wyn neu hyd yn oed yn lliwiau’r enfys.

  3. Darlledodd y BBC dymor o ‘Freedom 2014’. Gofynnwyd i lawer o bobl ledled y byd beth oedd rhyddid yn ei olygu iddyn nhw. Rydym yn mynd i edrych ar fideo sy'n cynnwys rhai o'u hatebion ac, ar y diwedd, rwyf am i chi geisio dewis un person yn unig sy'n amlwg i chi.

    Dangoswch y clip fideo, yna derbyniwch atebion.

    Tybed pa ddarlun y byddech yn ei gymryd neu eiriau y byddech yn eu dweud pe byddech chi’n cael y cwestiwn. Ym mha ffordd y byddech chi’n dangos sut beth yw rhyddid?

  4. Yn aml, pan fyddwn eisiau cosbi rhywun am rywbeth, byddwn yn cyfyngu ar ei ryddid. Felly, os buoch chi ar unrhyw adeg yn ddrygionus neu'n anufudd i'ch rhieni, mae'n hollol bosib i chi gael eich gwahardd rhag gadael y ty. Fe fydden nhw wedi atal eich rhyddid a'ch gallu i fynd a dod fel y mynnech chi, neu efallai y bydden nhw wedi gosod rhai amodau arnoch chi.

    Fe fydden nhw wedi gwneud hyn oherwydd eu bod wedi colli elfen o ymddiriedaeth ynoch a byddech wedi gorfod ymdrechu'n galed i'w adennill a'i adfer.

    Fel cymdeithas, byddwn yn atal rhyddid pobl os ydyn nhw wedi torri'r gyfraith neu niweidio rhywun. Mae cyfyngu ar eu gallu i fynd a dod fel y mynnont, cyfyngu ar eu rhyddid, yn rhywbeth nerthol iawn. Mae'n gyfystyr â dweud os na allwch barchu eraill, fe ddylai eich gallu i fwynhau rhyddid gael ei gwtogi mewn rhyw ffordd.

  5. Mae cyfyngu ar ryddid yn rhoi grym i rywun dros rywun arall. Bydd rhieni yn gosod gwaharddiad ar eu plant er mwyn gosod ac ail-sefydlu ffiniau, ond fe ddylid defnyddio'r grym hwn yn ofalus ac â chryn feddwl. Dyna paham y mae pobl yn mynd trwy achosion llys yn y wlad hon cyn y maen nhw'n cael eu hanfon i garchar.

  6. Fel bodau dynol, mae gennym 'ewyllys rydd'. Gallwn wneud dewisiadau clir ynglyn â'n bywydau, ein safiad moesol a'r hyn a wnawn. Gyda'r rhyddid hwnnw, fodd bynnag, daw cyfrifoldeb. Ydym, rydym yn rhydd i wneud dewisiadau, ond a ydym hefyd yn rhydd i wneud yr hyn a ffynnwn ni pe byddai'r dewisiadau hynny'n niweidiol i rywun arall?

    Mae'n werth ystyried, bob amser, a fydd y dewisiadau a wnewch yn cael effaith neu'n niweidio rhywun arall ai peidio. Mae'r un peth yn wir am y rhyddid i ddweud yr hyn a fynnwn, Ydi, mae'n bwysig i bobl gael dweud yr hyn sydd ar eu meddyliau a gosod her i awdurdod os oes raid, i anghytuno â llywodraethau a phleidiau gwleidyddol a'r hierarchaeth os dymunant. Ond, os yw eich rhyddid i ddweud eich dweud yn niweidio teimladau rhywun a dinistrio'u hunan-barch a chymryd nemor ddim sylw o'r rhai fydd yn ei glywed, yna nid ydych wedi ystyried eich geiriau'n ddoeth. Felly, mewn ffordd, rydych chi wedi bod yn annoeth yn y defnydd o ryddid a roddwyd i chi. Dydych chi ddim wedi defnyddio eich rhyddid yn gyfrifol.

  7. Mae rhyddid yn rhan hanfodol o'r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol - gan hynny caiff ei gynnwys ym mhob cyfansoddiad, cyfreithiau a statudau - a phan gymerir ef ymaith, gall yr effeithiau fod yn wanychol a niweidiol.

  8. Felly, byddwch yn wyliadwrus o ba mor rhydd yr ydych mewn gwirionedd. Ystyriwch bwysigrwydd eich rhyddid a meddyliwch am y rhai hynny sydd ddim yn gallu siarad yn rhydd neu sy'n byw mewn perygl o golli eu rhyddid heb unrhyw reswm dilys. Cymerwch gyda chi eich lliw a'ch delwedd o ryddid i mewn i weddill eich diwrnod.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio ychydig funudau yn meddwl am enghreifftiau yr ydym wedi eu gweld yn ddiweddar ar y cyfryngau o bobl sydd â'u rhyddid wedi ei gyfyngu neu wedi ei golli, o bosib oherwydd eu bod wedi torri'r gyfraith neu o ganlyniad i aflonyddwch neu afiechyd yn yr ardal lle maen nhw'n byw.

Sut byddech chi'n gallu cefnogi mudiadau dros ryddid a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar y bobl hynny?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Free’ gan George Michael

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon