Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Does dim y fath beth yn bod â 'Dalek da'

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Ystyried yr hyn fyddai’n gwneud ‘Dalek da’.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi ddelwedd o Dalek ac, os yw hynny’n bosib, y clip fideo lle mae Clara’n dweud, ‘A good Dalek?’ a Doctor Who’n ymateb iddi, ‘There’s no such thing’ - ym mhennod 2, Cyfres 8, Dr Who, ‘Into the Dalek’ (BBC TV, ar: www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b04grqgx/doctor-who-series-8-2-into-the-dalek, 11.36-12.52) a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. (Dangoswch y ddelwedd o’r Dalek.)Does gen i ddim amheuaeth nad ydych yn gwybod yn union beth yw hwn. Dalek ydyw, o'r gyfres deledu Dr Who. Mae gan y Daleks gip-ymadrodd; oes rywun yn gwybod beth ydyw? Difodwch! (Exterminate!)

  2. Dyma ychydig o hanes am y Daleks i chi. Creaduriaid arallfydol yn debyg i robotiaid yw Daleks, gafodd eu creu gan wyddonydd Kaled o'r enw Davros er mwyn achub ei hil rhag gallu symud o gwmpas ac yn y pen draw beidio â bod. Y rhan a welwn ni yw'r peiriant teithio - mae'r Kaled oddi mewn iddo, yn ei weithredu. Cyfaddasiad olaf Davros oedd tynnu ymaith gallu'r Daleks i deimlo tosturi, trugaredd nac edifeirwch.  Maen nhw'n gweld eu hunain fel yr oruchaf hil yn y bydysawd ac felly ar gwest i gyflawni goruchafiaeth gyffredinol, gan ddifodi unrhyw un sy'n sefyll yn eu ffordd.

    Felly, llofruddion yw'r Daleks. Maen nhw'n difodi pobl. Does ganddyn nhw ddim o'r rhinweddau sy'n gwneud pobl yn sensitif i ddioddefaint a phoen pobl eraill. Maen nhw'n ystyried hiliau eraill yn syml fel pethau i'w diddymu, eu dinistrio.

    Chwaraewch y clip fideo o Dr Who, os byddwch chi’n ei ddefnyddio.

  3. Pan yw Clara'n dweud, ‘Dalek da?’ a'r ymateb gan y Doctor, ‘Does 'na ddim y fath beth‘, mae'n dweud eu bod i gyd yn ddrwg ac felly'n anwrthdroadol.  Fe gawson nhw'u creu heb gydwybod, heb drugaredd, heb ymwybyddiaeth emosiynol.

    Yn y bennod hon, fodd bynnag, maen nhw'n canfod bod un Dalek yn wahanol, yn ymwybodol mai'r Daleks ddylai gael eu difodi o ganlyniad i'w drygioni a'u casineb.

  4. Caiff y Doctor hi'n anodd credu bod y Dalek hwn o ddifrif yn wahanol. Cymaint yw ei brofiad o'r Daleks fel nad oes ganddo ond dirmyg tuag atyn nhw. Iddo ef, mae'n amhosib i Ddalek fod yn dda. Mae'n credu mai camweithred yn ei grombil sydd yn gyfrifol bod y Dalek hwn yn meddwl fel hyn ac, o gael ei wthio, y bydd yn dychwelyd at ei fath - hynny yw, yr angen i ddinistrio a difodi.

  5. Felly, os yw rhywbeth wedi cael ei greu'n ddrwg,a all hwnnw fyth fod yn dda? A oes modd iddo newid byth? A yw llewpard byth yn newid ei smotiau?

  6. Fe ddechreuodd y Dalek hwn fod yn fwy ymwybodol o ganlyniad i ymbelydredd gael effaith ar ei gylchedau a'r ehangu canlynol i'w gydwybod a achosodd hynny fel ei fod wedi gweld seren yn cael ei geni ac yntau'n gallu gwerthfawrogi ei harddwch, rhywbeth na allai'i wneud cyn hynny. Yn yr un modd, felly, mae'n ymddangos fod yn rhaid i ni dderbyn, mewn bywyd, ei bod hi'n bosib i rywbeth drwg allu gael ei newid i fod yn dda.

    Yn wir, un o ddysgeidiaeth allweddol Iesu yw bod pechaduriaid a drwgweithredwyr yn gallu cael maddeuant a chael diwygiad os ydyn nhw'n wirioneddol yn edifarhau. Mae Iesu hefyd yn ein haddysgu os yw rhywun yn drosiadol ar goll ac yna'n cael ei ganfod, fod hynny hefyd yn achos i lawenhau. Fe welwn hyn yn nameg Iesu am y darn arian colledig yn Luc 15.8-10.

    Neu bwriwch fod gan wraig ddeg darn arian, a digwydd iddi goll i un darn; onid yw hi’n cynnau cannwyll ac yn ysgubo’r ty ac yn chwilio’n ddyfal nes dod o hyd iddo? Ac wedi dod o hyd iddo, y mae’n gwahodd ei chyfeillesau a’i chymdogion ynghyd, gan ddeud, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i’r darn arian a gollais. Yr un modd, rwy’n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy’n edifarhau.  

    Mae yna lawenydd yn wastad pan yw rhywun a oedd ar goll yn cael hyd i'w ffordd.

  7. Felly fe welwn y gallDalek fod yn dda os yw'n wirioneddol edifar am yr hyn y mae wedi ei wneud ac yn penderfynu byw mewn ffordd newydd, wahanol gyda thrugaredd ac ymwybyddiaeth.

Amser i feddwl

Tybed fyddwch chi, ambell dro, yn meddwl neu’n ymddwyn fel Dalek – heb drugaredd tuag at bobl eraill, dim ond yn gorfodi’r hyn rydych chi eisiau i ddigwydd?

Tybed fydd adegau felly’n codi yn ystod y dydd heddiw? Sut gallech chi fod yn Dalek da?

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon