Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth all Coeden Nadolig ei ddysgu i ni?

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio rôl y goeden Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r garol, ‘O Goeden Hardd’/ Oh Christmas tree’ [O Tannenbaum], a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Faint ohonoch chi sy’n dechrau teimlo’n gyffrous ynghylch gosod eich coeden Nadolig? Efallai bod rhai ohonoch eisoes wedi ei gosod.

    Fe allech chi holi ar y pwynt hwn pwy sy’n gosod coeden Nadolig yn eu cartrefi, a pha bryd.

    Yn draddodiadol, roedd pobl yn gosod y goeden yn eu cartrefi ar noswyl Nadolig, ac yn eu gadael yno tan Nos Ystwyll, sef 6 Ionawr. Ond erbyn heddiw mae rhai pobl yn eu gosod mor gynnar â dechrau mis Rhagfyr.

  2. Roeddwn i’n meddwl; am y goeden Nadolig, ac yn sydyn fe ddechreuais i deimlo’n drist. Rwy’n siwr eich bod  yn meddwl, ‘Sut gall coeden Nadolig wneud i rywun deimlo’n drist?’ Wel, fe ddyweda’ i wrthych chi.

  3. Tybed ydych hi, ryw dro, wedi ystyried beth sydd wedi digwydd yn hanes y goeden cyn i chi gyrraedd y ganolfan arddio neu ble bynnag y byddwch chi’n prynu un.

    Er mwyn tyfu coden Nadolig - o hedyn i goeden 2 metr neu 7 troedfedd - mae’n cymryd rhwng 8 a 12 mlynedd. Felly, o bosib, os byddwch chi’n cael coeden Nadolig naturiol, fe allai honno fod yr un oed â chi bron, neu'r un oed â rhai o’ch brodyr neu chwiorydd. 

    Yn gyntaf, mae’r hadau’n cael eu casglu o’r moch coed sydd wedi eu cynaeafu oddi ar goed hyn. Mae’r hadau wedyn yn cael eu plannu er mwyn iddyn nhw egino a thyfu’n blanhigion bach mewn meithrinfeydd. Yna, fe fydd y planhigion yn cael eu gwerthu i ffermydd sy’n tyfu coed Nadolig ar ôl tua thair neu bedair blynedd. Wedyn, fe fyddan nhw’n cael tyfu nes byddan nhw wedi cyrraedd y maint delfrydol, ac yna’n cael eu torri a’u cludo i’r canolfannau garddio a mannau tebyg er mwyn i ni allu eu prynu.

  4. Fe fyddwn ni’n dewis ein coeden yn ofalus, ac yn mynd â hi adref. Yno, fe fyddwn ni’n ei gosod yn gadarn a diogel ac yn ei haddurno â goleuadau, sêr disglair a pheli lliwgar. Rydyn ni’n eu gosod yn ein tai er mwyn i ni gael eu mwynhau. Wedyn , ar ôl yr Ystwyll (6 Ionawr), byddwn y eu tynnu i lawr ac yn eu gadael y tu allan i’r ty iddyn nhw gael eu hailgylchu - eu llifio a’u carpio. Maen nhw’n bethau darfodedig yn ein bywyd, ac yn cael eu tyfu’n unswydd ar gyfer bod yn goed Nadolig i ni.

    Rwyf bob amser yn pryderu ychydig am y coed hynysydd ar ôl heb eu gwerthu yn y canolfannau. Beth sy’n digwydd i’r rhai hynny? Mae’n well gen i beidio â meddwl am y peth.

  5. Fe allwn ni, wrth gwrs, brynu coed Nadolig synthetig y gallwn ni eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn os byddwn ni’n gofidio bod defnyddio coed naturiol yn beth gwastraffus. Ond, wedyn, fydden ni ddim yn cael y teimlad a’r arogl arbennig sy’n perthyn i goeden Nadolig go iawn ac sy’n gwneud y Nadolig yn arbennig i gymaint o bobl.

  6. Yr hyn sy’n wir am y ddau fath o goed Nadolig yw eu bod yn dod â llawenydd i bobl – ac nid yn gymaint mewn ffordd faterol fel sy’n digwydd gyda’r Nadolig y dyddiau hyn.

  7. Meddyliwch am eich coeden Nadolig chi, pa un a ydych chi wedi ei gosod eisoes neu am aros ychydig eto cyn ei chael. Pwy sy’n ei gosod? Mae nifer o bobl yn hoffi gwneud hyn gyda’i gilydd, fel teulu.

  8. Mae coeden Nadolig yn dod â llawenydd a goleuni i unrhyw gartref. Un o’r pethau gorau am y nosweithiau tywyll, pan fyddwch chi’n teithio o gylch y lle, yw y byddwch chi’n gallu gweld coed Nadolig pobl yn ffenestri eu tai yn disgleirio trwy’r tywyllwch. Mae’r dail bythwyrdd yn awgrymu natur dragwyddol y traddodiad hwn. Fe fydd teuluoedd yn rhoi anrhegion o gwmpas y goeden a, thrwy roi a derbyn anrhegion, man nhw’n mynegi eu cariad tuag at ei gilydd.

  9. Felly, er y byddwn ni’n teimlo’n drist efallai wrth dynnu’r goeden a’i hailgylchu, neu ei chadw, gadewch i ni ei chofio a’i gwerthfawrogi ychydig mwy oherwydd y llawenydd y mae wedi ei roi i ni.

Amser i feddwl

Yn dawel, meddyliwch am foment am eich coeden Nadolig, a byddwch yn ddiolchgar.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Bydd gyda’r bobl hynny fydd ddim yn cael coeden Nadolig eleni.
Boed i ni fod yn ddiolchgar bob amser am y pethau arbennig rydyn ni’n eu mwynhau ar adeg y Nadolig.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

‘O Goeden hardd’ (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’)

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon