Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rwy'n dymuno ....

Ystyried beth allai ein dymuniadau fod, a thybio a fydden nhw’n dod yn wir ryw dro.

gan H. Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried beth allai ein dymuniadau fod, a thybio a fydden nhw’n dod yn wir ryw dro.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen teisen pen-blwydd fechan (neu fodel o un), a chanhwyllau a matsis.
  • Fe allech chi chwarae’r rhan o ffilm Disney, Aladdin,lle mae’r ‘genie’ yn sôn am ganiatáu tri dymuniad. Mae’r rhan yn dod yn union ar ôl y gân ‘Never had a friend like me’, yng Ngham 5 y gwasanaeth, ond dewisol yw hyn.

Gwasanaeth

  1. Tybed a oes rhywun yma sy’n cael ei ben-blwydd heddiw  . . .?

    Y tebygolrwydd yw bod o leiaf un plentyn yn cael ei ben-blwydd, neu aelod o’r staff efallai.

    Gwych! Dewch ymlaen yma.

    Gwahoddwch bawb i ganu ‘Pen-blwydd hapus’. Yna, goleuwch y canhwyllau ar y gacen, a gofynnwch i’r unigolyn chwythu arnyn nhw i’w diffodd a gwneud dymuniad wedyn.

  2. Nawr, gofynnwch iddo ef neu hi am beth y gwnaeth ddymuno.

    Gobeithio na fydd yn dweud, gan ei fod yn draddodiad peidio â dweud, neu ddaw’r dymuniad ddim yn wir.

    Wyt ti ddim am ddeud wrthym ni? Popeth yn iawn, ond rwy’n siwr y byddi di’n gobeithio y daw dy ddymuniad yn wir?

    Eto, rydych chi’n gobeithio y byddwch chi’n cael ateb cadarnhaol.

  3. Beth wyt ti’n feddwl fydd y siawns y bydd dy ddymuniad yn dod yn wir – ar raddfa o un i ddeg, gydag un yn annhebygol a deg yn debygol iawn?

    Arhoswch am ymateb.

    Wel, rwy’n gobeithio y daw dy ddymuniad yn wir, ac yn gobeithio y cei di ben-blwydd hapus iawn. Diolch yn fawr.

    Anfonwch ef neu hi yn ôl i’w le i eistedd.

  4. Oni fyddai’n wych pe bai ein dymuniadau i gyd yn dod yn wir? Fe fyddai bywyd mor braf a chyffrous. Fe fyddai pob eiliad yn ddiddorol, a byth yn ddiflas.

    Ond tybed fyddech chi byth yn stopio dymuno pethau, neu a fyddai rhywbeth arall bob amser y byddech chi’n hoffi ei gael?

  5. Os meddyliwch chi am y ffilm Disney, Aladdin, sy’n seiliedig ar un o storïau’r Nosweithiau Arabaidd (The Arabian Nights), mae’r ‘genie’ wedi ei gyfyngu i ganiatáu dim ond tri dymuniad. Ac ymhellach, mae cyfyngiadau ar y dymuniadau hynny hefyd.

    Chwaraewch y clip o’r ffilm Aladdin, os byddwch am ei ddefnyddio.

    Yn achos y ‘genie’, does ganddo ddim hawl lladd neb, Ni all ychwaith wneud i rywun syrthio mewn cariad â rhywun arall. Rhaid i gariad gael ei roi’n rhydd, does dim modd ei orfodi, Nid yw’r ‘genie’ yn gallu dod â neb marw’n ôl yn fyw – fe fyddai hwnnw’n ddymuniad gan lawer un, yn siwr. Ac yn olaf, ni all ganiatáu’r dymuniad o gael gwneud rhagor o ddymuniadau. Mae hyn yn dangos felly bod cyfyngiadau hyd yn oed ar ddymuniadau. Y rheswm am hyn, mae’n debyg, yw pe byddai popeth rydych chi’n ei ddymuno’n dod yn wir, sut byddech chi’n gwybod pryd i stopio dymuno?

  6. Credai seicolegydd o’r enw Sigmund Freud bod crefydd yn seiliedig ar rywbeth y cyfeiriai ato fel ‘cyflawni dymuniad’ , sef rhywbeth sydd wedi ei greu gan y seice dynol er mwyn cyflawni ein hawydd a’n chwenychiadau. Fe ddywedodd Freud bod credu yn y bywyd tragwyddol, ac mewn nefoedd, lle byddwn ni’n cwrdd â’n ffrindiau ac aelodau ein teulu eto ar ôl i ni farw, yn ddim ond dynoliaeth yn ‘dymuno’ bod rhywbeth arall yn bodoli ar wahân i’r bywyd yn y byd hwn, ac nad marwolaeth yw’r diwedd.

    Tybed ai rhywbeth yn ein meddyliau neu ffantasi gennym ni yn aml yw'r hyn y byddwn ni’n ei ddymuno, a tybed ai nodau y gallwn ni eu cyrraedd neu ddeisyfiadau neu ddeilliannau posib y gallwn ni eu cyflawni yw ein dymuniadau?

  7. Fe glywais ddywediad Saesneg sawl tro yn cael ei roi fel ateb wrth i rywun ddweud y geiriau, ‘I wish’. Yr ateb, ‘If wishes were horses, beggars would ride.’ Ystyr y dywediad yw, fe allwn ni ddymuno pethau, ond fyddwn ni ddim bob amser yn cael y pethau rydyn ni’n eu dymuno. Pe byddem yn gallu cael ein holl ddymuniadau, yna fe fyddai bywyd yn hawdd iawn. Mewn geiriau eraill, fyddai dim angen i ni ymdrechu i gael unrhyw beth na mentro wrth wneud unrhyw beth, na hyd yn oed weithio’n galed tuag at unrhyw nod.

  8. Tybed hefyd, pe byddai ein dymuniadau’n cael eu caniatáu, fydden nhw bob amser yr union beth roedden ni wedi dymuno amdano, neu’n union yr un fath ag yr oeddem wedi credu y bydden nhw?

    Mewn bywyd go iawn, yn bendant, nid yw popeth rydyn ni’n dymuno amdano’n digwydd yn union fel y byddem wedi gobeithio. Os meddyliwn ni eto am stori Aladdin Disney, yn y ffilm yr hyn yr oedd y ‘genie’ ei hun eisiau yn fwy na dim oedd cael bod yn rhydd. Roedd hynny am ei fod yn gaethwas i bwy bynnag fyddai’n rhwbio’r lamp. Felly, roedd wedi ei gaethiwo nes byddai rhywun yn ei ryddhau. Wrth gwrs, doedd neb yn gwneud hynny.

    Mae pobl yn hunanol, ac oherwydd hynny roedden nhw’n cadw’r tri dymuniad iddyn nhw’u hunain.

  9. Felly, mae’n bosib na fydd ein dymuniadau bob amser er lles pobl eraill. Fel rheol, yn gyffredin, fe fyddwn ni’n tueddu i wneud dymuniadau ar ein cyfer ein hunain. Yr hyn y byddwn ni’n ei ddymuno yw’r canlyniad y byddem yn hoffi iddo ddigwydd, neu’r hyn sy’n rhoi mwyaf o fwynhad i ni. Felly, efallai y tro nesaf y byddwch yn gwneud dymuniad wrth chwythu’r canhwyllau ar eich teisen pen-blwydd, fe allech chi ddewis dymuno rhywbeth ar ran rhywun arall.

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am yr hyn y byddech chi’n ei ddymuno ar gyfer pobl eraill pe byddai’n ddiwrnod eich pen-blwydd chi heddiw.

Nawr, sut byddech chi’n gallu gwneud i’r dymuniad hwnnw ddod yn wir?

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon