Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Argyfwng hunaniaeth

Gwrthdrawiad teyrngarwch yn y byd go iawn

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried sut maen nhw’n dewis rhwng eu gwahanol berthnasoedd a’u cyfrifoldebau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr y clip fideo True Tube, "Faith on the front line" [3 munud 30 eiliad]
  • Chwiliwch am enghreifftiau o weithgareddau’r Llu Arfog Prydeinig sydd wedi cael sylw yn ystod yr wythnos cyn y gwasanaeth

Gwasanaeth

Arweinydd: Mae Lluoedd Arfog Prydain bob amser yn ymwneud â rhyw fath o weithgaredd, rywle yn y byd. Weithiau gall hynny fod mewn rôl brwydro, ond gall hefyd fod yn ymwneud â gwaith cymorth, arddangosfa seremonïol, hyfforddiant a chyfarwyddyd, ar batrôl neu mewn gwaith cysylltiadau cyhoeddus a recriwtio.

[Rhowch enghreifftiau o weithgareddau o’r fath sydd wedi cael sylw’r cyfryngau yn ystod yr wythnos flaenorol]

Mae Caplaniaid yn rhan annatod o adran adnoddau dynol y lluoedd arfog. Cynrychiolwyr crefyddol ydyn nhw sydd â rôl mewn cynghori, cefnogi a rheoli argyfyngau ym mywydau'r dynion a'r merched cyffredin sy'n gwasanaethu yn y Fyddin, y Llynges a'r Llu Awyr.

Yn groes i ddisgwyliadau llawer o bobl, nid yw caplaniaid o reidrwydd yn Gristnogion. Mae'r fideo canlynol yn ymwneud ag Imam Mwslimaidd, caplan sy’n gyflogedig yn Lluoedd Arfog Prydain.

[Dangoswch y clip fideo True Tube "Faith on the front line"]

Darllenydd: Pan fydd person yn ymuno â Lluoedd Arfog Prydain rhaid iddyn nhw addo bod yn deyrngar i'r Frenhines a'r Wlad. Ond beth y mae hynny'n ei olygu i rywun sydd â ffydd yn Nuw? Onid hynny ddylai fod eu teyrngarwch cyntaf?

Arweinydd: Mae'n ddiddorol ystyried y cwestiwn hwn o safbwynt Mwslimaidd. Wnaethoch chi sylwi bod yr Imam wedi egluro bod gan filwr, morwr, neu aelod o'r llu awyr, nifer o hunaniaethau ar gyfer eu teyrngarwch. Mae'n disgrifio'r teyrngarwch i Dduw, i'r Frenhines ac i'r wlad, i deulu ac i'r hunan. Mae'n dweud bod y rhain yn lefelau gwahanol y maen nhw'n ymarfer eu crefydd arnyn nhw. Ar adegau gwahanol mae'r flaenoriaeth gyntaf ar un lefel, ar adegau eraill gall fod ar lefel wahanol. Duw sy'n dod yn gyntaf pan yw'n berthnasol, ond gall teulu fod yn berthnasol ar adegau eraill.

Darllenydd:  Oni wnaeth Iesu ddweud rhywbeth tebyg?

Arweinydd: Soniodd Iesu am roi i Dduw'r hyn oedd yn perthyn i Dduw ac i roi i Gesar, a oedd yn rheolwr Palestina bryd hynny, yr hyn oedd yn perthyn i Gesar. Mewn geiriau eraill: mae'n dibynnu’n gyfan gwbl ar yr hyn sy'n berthnasol ar y pryd.

Darllenydd:  Ond beth os yw un teyrngarwch yn gwrthdaro yn erbyn un arall?

Arweinydd: Yn awr, dyna'r cwestiwn mawr yr hoffwn ei ofyn i'r Imam yn ogystal ag i Iesu.

Amser i feddwl

Arweinydd: Dydyn ni ddim yn wahanol iawn i'r milwyr neu i'r bobl yr oedd Iesu'n siarad â nhw. Mae gennym ninnau hefyd ein teyrngarwch amrywiol, ein blaenoriaethau gwahanol. Mae gennym deyrngarwch tuag atom ni'n hunain. Rydym eisiau cael yr hyn sydd orau i ni ein hunain. Mae gennym deyrngarwch tuag at ein teulu. Fel y noda’r hen ddywediad: ‘Mae gwaed yn dewach na dwr’. Mae gennym deyrngarwch tuag at ein ffrindiau oherwydd maen nhw'n berthnasoedd yr ydyn ni’n byw gyda nhw o ddydd i ddydd. Efallai bod gennym deyrngarwch tuag at yr ysgol hon, a dyna paham yr ydym yn awyddus i'n timau ennill. Yn olaf, mae gan rai ohonom deyrngarwch tuag at Dduw, er y gall hynny gael ei fynegi trwy gredoau crefyddol gwahanol. Yn ymarferol, rhoddwn flaenoriaeth i wahanol deyrngarwch ar wahanol adegau. Rydyn ni’n dewis teulu yn lle ffrindiau ar rai achlysuron. Rydyn ni’n dewis ni ein hunain yn lle ffrindiau pan fyddwn yn dymuno gwneud rhywbeth ar ein pen ein hunain. Os oes gennym deyrngarwch tuag at Dduw, fe allwn ni efallai ddewis ufuddhau i'r rheolau a rydd crefydd ar ein cyfer er mwyn ein helpu ni i benderfynu rhwng yr hyn sy'n gywir a'r hyn sy'n anghywir.

Darllenydd:  Ond beth am yr adeg pan fydd un teyrngarwch yn gwrthdaro yn erbyn teyrngarwch arall?

Arweinydd:  Yn awr, mae hynny'n dod â ni'n ôl at y cwestiwn mawr, a bydd yr ateb bob amser yn wahanol. Weithiau fe allwn ni aberthu'r hyn yr ydym ei eisiau ar gyfer ein hunain, er mwyn ein teulu neu ein ffrindiau. Weithiau fe fyddwn yn fodlon ildio ein cyfeillgarwch oherwydd ei fod yn ein harwain tuag at sefyllfaoedd annoeth. Bydd ysgol ac addysg yn dod yn flaenaf am gyfnodau yn ein bywyd. Mae pob un yn ddewis y bydd raid i ni ei wneud. Bydd y rhai ohonom sydd â ffydd grefyddol yn dweud, o bosib, ei bod hi'n angenrheidiol bob amser i rannu ein dewisiadau gyda Duw. Dyna beth yw ystyr gweddi.

Weithiau bydd gan filwyr ar y rheng flaen ddewisiadau anodd i’w gwneud. Fe allan nhw hyd yn oed fod yn golygu dewis rhwng bywyd a marwolaeth. Nid yw'r dewisiadau a wnawn ni'n ymddangos yn ddifrifol, ond maen nhw'n parhau i fod yno i'w gwneud gennym ni, ac angen cael eu gwneud yr un mor ofalus ac ystyriol.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y gwahanol bobl a’r gwahanol grwpiau rydyn ni’n gysylltiedig  â nhw.
Atgoffa ni o’r rhan y maen nhw’n ei chwarae yn ein bywyd.
Helpa ni i wahaniaethu rhwng yr achlysuron pryd y gallai pob teyrngarwch gymryd blaenoriaeth dros y lleill.
Boed i ni wneud dewisiadau cadarnhaol sy’n helpu i adeiladu ein bywydau ni a bywydau’r rhai sydd o’n cwmpas.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

There are more questions than answers’ gan Johnny Nash

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon