Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Dyn Pedwar - Munud

Bywyd Roger Bannister

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o uchelgais trwy gyfrwng stori’r ras filltir a redwyd am y tro cyntaf mewn pedwar munud, gan Roger Bannister.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘I am the one and only’ gan Chesney Hawkes a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Beth allwch chi ei wneud mewn pedwar munud?

Darllenydd 1  Fe allwch chi ferwi wy yn galed.

Darllenydd 2  Fe allwch chi wrando ar gân.

Darllenydd 1  Fe allwch chi fod yn ciwio wrth y til yn yr archfarchnad.

Darllenydd 2  Fe allwch chi gerdded i ... (enwch leoliad sydd heb fod ymhell).

Darllenydd 1  Fe allwch chi gymryd cawod.

Darllenydd 2  Fe allwch chi ateb cwestiwn rydych chi wedi ei gael yn eich gwaith cartref mathemateg.

Arweinydd  Nid yw pedwar munud yn gyfnod hir o amser, ond nid yw chwaith yn gyfnod  neilltuol o fyr. Gall ymddangos yn rhy hir pan ydych yn gwneud rhywbeth sy'n cymryd tipyn o ymdrech.  Gall ymddangos yn gyfnod rhy fyr os ydych eisiau cyflawni rhyw dasg o fewn yr amser hynny. Er enghraifft, rhaid i redwr pellter sy'n ceisio torri record gadw at ei gyflymder neu ei chyflymder hyd yn oed pan yw'r corff eisiau rhoi'r gorau iddi, o wybod bod yr eiliadau yn prysur fynd heibio. Mae Roger Bannister yn athletwr sy'n deall i'r dim  beth y mae pedwar munud yn ei olygu.
Darllenydd 1  Yn achos athletwyr gwrywaidd yng nghanol yr ugeinfed ganrif, fe ddaeth y syniad o redeg milltir - pedwar lap o gwmpas trac athletaidd - o fewn pedwar munud, yn obsesiwn.                                                                                                                                                                                                                                                             

Darllenydd 2  Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe gymerodd dau athletwr o Sweden - Gunder Hägg and Arne Andersson - fantais o niwtraliaeth eu gwlad i ostwng record y byd. Fe lwyddon nhw i ostwng yr amser o 4 munud a 6.4 eiliad i 4 munud ac 1.4 eiliad, ond fe wnaethon nhw fethu â thorri'r ffin rithiol o 4 munud.

Darllenydd 1  Am gyfnod o naw mlynedd, fe arhosodd y record honno yn ddi-dor. Roedd hi fel pe byddai rhyw ffin seicolegol yn bod. Roedd rhai hyd yn oed yn credu nad oedd y gamp yn gorfforol bosib.

Ceisiodd gwahanol athletwyr dorri'r record.  Honnodd o leiaf un athletwr ei fod wedi ei thorri yn ystod sesiwn hyfforddiant, ond nid oedd neb yn gallu cyflawni'r gamp mewn ras gyhoeddus nes i Roger Bannister, gyda'i ffrindiau Chris Chataway a Chris Brasher, ddod at ei gilydd i redeg ras ar drac Iffley Road yn Rhydychen ar noson wyntog y 6ed o Fai yn y flwyddyn 1954.

Darllenydd 2  Brasher oedd yn arwain am y ddwy lap gyntaf, gan gyrraedd y cymal  hanner ffordd mewn 1 munud a 58 eiliad. Yna daeth Chataway i'r blaen, gyda Bannister ar ei ysgwydd nes iddo, gyda hanner y lap i'w rhedeg, sbrintio ar y blaen, ei ben yn rowlio a'i freichiau'n chwifio yn ei arddull unigryw ei hun o redeg, a dal i fynd hyd at y llinell derfyn ac yn syth drwy'r tâp cyn cwympo'n lluddedig i freichiau ei gefnogwyr.

Arweinydd  Cofnodwyd amser yr enillydd fel 3 munud 59.4 eiliad. Roedd y record wedi ei thorri a’r ffin 4 munud wedi ei threchu!

Amser i feddwl

Wrth gwrs, gall unrhyw un dorri record y byd. Yn syml, yr hyn sydd yn ofynnol i chi ei wneud yw dewis y gystadleuaeth gywir, fel sy'n amlwg yn rhai o'r recordiau od sydd i'w gweld yn y gyfrol y 'Guinness Book of Records'.  Yn achos Roger Bannister, roedd rhedeg milltir mewn pedwar munud yn gymwys iddo ef. Ganddo ef oedd y record Brydeinig am redeg y filltir a'r ras 1,500 metr. Roedd e'n gwybod bod y gallu ganddo, y cyfan oedd ei angen oedd miniogi ei raglen hyfforddiant a chanfod yr amgylchiadau cymwys ar gyfer rhoi cynnig arni. Yn hanfodol hefyd, roedd angen iddo gael tîm o bobl gymwys o'i gwmpas i'w helpu i gyflawni ei uchelgais. Wrth weithio gyda Chris Brasher a Chris Chataway, roedd ganddo'r tîm cymwys. Fe wnaethon nhw ei arwain trwy gymalau cynnar y ras, gan gadw'r cyflymder perthnasol, a'i gysgodi rhag hyrddiadau'r gwynt. A dyna sut y daeth i fod yn un a dorrodd record y byd.

Gall rywun dorri record y byd  . . .

Gall hynny swnio’n beth anodd iawn, amhosib bron, ac i'r mwyafrif ohonom, mae'n debygol o fod yn wir. Ond chi yn unig all sicrhau eich safon bersonol orau.

Mae recordiau'r byd yn ymwneud â chi yn gosod eich hun yn erbyn y byd cyfan. Mae cyrraedd eich safon bersonol orau yn ymwneud â chyrraedd eich potensial. Fydd hynny ddim yn beth cyhoeddus oni bai eich bod chi'n dewis eu gwneud yn gyhoeddus. Os nad yw'n rhywbeth neilltuol amlwg, dydy hynny ddim yn golygu eich bod wedi methu. Mae’r ‘personal best’ yn ymwneud â'r gorau y gallwch chi fod a gwneud y gorau y gallwch chi ei wneud. Mae’n ymwneud â'ch uchelgeisiau personol chi a'ch syniad o gyflawniad. Fe allan nhw gael eu dangos gydag ychydig welliannau neu ambell gam achlysurol ymlaen, ond, pan fyddan nhw’n digwydd, maen nhw'n gwneud i chi deimlo'n dda.

Mae safonau personol gorau yn digwydd pan gymerwn ni'r un camau â'r rhai a gymerodd Roger Bannister. Yn gyntaf, rydym yn dewis yr hyn yr ydym yn dymuno'i wella. Mae'n syniad da i hwnnw fod yn rhywbeth y credwn fod gennym ni rywfaint o botensial ynddo. Mae'n gweddu i'ch bywyd chi.  Nid oes raid iddo fod yn bwnc ysgol. Gall fod yn ymwneud â pherthnasoedd, hobi, eich personoliaeth, eich gwybodaeth, neu â sgil. Yn nesaf, mae'n ofynnol i chi roi rhywfaint o ymdrech i'r hyn ydych chi’n dymuno ei gyflawni. Dyna'r rhan anoddaf, ynte? Eto, mae unrhyw uchelgais yn sicr o fod yn werth yr ymdrech. Dim ond mewn geiriadur y mae llwyddiant yn dod o flaen ymdrech, meddai rhywun! Yn olaf, yn aml mae'n werth bod eraill yn rhan o'r cyfan, er mwyn cael eu cefnogaeth, eu cyngor a'u cwmni. Fe fyddan nhw hefyd yno i'ch llongyfarch pan fyddwch chi’n cyflawni eich safon bersonol orau newydd!

Gofynnwyd i Syr Roger Bannister a oedd yn ystyried mai rhedeg y filltir mewn llai na phedwar munud oedd y cyflawniad yr oedd fwyaf balch ohono. Ei ateb oedd, ‘Na’. Roedd yn gosod mwy o werth ar ei gyfraniad fel niwrolegydd yn ei ymchwil i system nerfau dynol yn llawer mwy. Felly mae hi gyda safonau personol gorau, hefyd. Rydym yn cyflawni un, ond mae yna bob amser rhai eraill i ymgyrraedd atyn nhw.  Nid yw uchelgeisiau byth yn dod i ben.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y potensial sydd o’n mewn ni i gyd.
Atgoffa ni am yr holl bethau rydyn ni’n dda am eu gwneud, a helpa ni i fod yn llawn dychymyg yn ein huchelgais.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

‘I am the one and only’  gan Chesney Hawkes

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon