Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cerdded yn ôl eu traed

Taith bersonol ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Coffáu’r Holocost

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio dealltwriaeth y myfyrwyr o’r Holocost, a’u hymateb iddo.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a darllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo YouTube Gurs Trip a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.youtube.com/watch?v=160x3Dxdf4w ), gan chwarae o’r pwynt 50 eiliad i mewn i’r fideo a stopio ar 4.39 munud. Mae felly’n para 3.49 munud.
  • Os bydd hynny’n bosib, trefnwch hefyd fod gennych chi gopi o’r manylion sy’n cyflwyno enwau’r bobl neu’r glodrestr (introductory credits) ar gyfer cyfres deledu’r BBC, Who Do You Think You Are?(gwiriwch yr hawlfraint).
  • Addasiad yw’r testun sydd i’w ddarllen gan y darllenydd, ac mae’r rhannau wedi eu cymryd o hunangofiant y Rabi Ernst Steckelmacher a’i wraig, Vera.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Walk a mile in my shoes’ gan Joe South, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Pwy ydych chi’n feddwl ydych chi?

Chwaraewch y glodrestr sy’n cyflwyno enwau’r bobl ar gyfres deledu’r BBC ‘ Who Do You Think You Are?’, os byddwch am ei ddefnyddio.

Mae'r unigolyn ydych chi heddiw yn ganlyniad sy'n rhannol o enynnau a phrofiadau, a hanes teuluol, yr ydych chi wedi eu hetifeddu gan eich rhieni, eich neiniau a'ch teidiau, eich hen neiniau a'ch hen deidiau, ac yn y blaen. Mae'r gyfres hon ar y teledu yn helpu'r bobl enwog i archwilio eu treftadaeth eu hunain, i ganfod mwy am yr aelodau hynny o'r teulu - eu profiadau, eu personoliaethau a lle'r oedden nhw'n byw. Mae'n aml yn gwneud rhaglen sy'n werth chweil i edrych arni.

Fe benderfynodd Ruth Steckelmacher, Saesnes ifanc, wneud yr un modd i gael hyd i wybodaeth am ei hen neiniau a'i hen deidiau. Cafodd ei symbylu i wneud hyn pan ddarllenodd atgofion ei hen nain, a oedd yn dechrau trwy sôn am yr hyn a ddigwyddodd pan oedden nhw'n byw yn yr Almaen yn y flwyddyn 1933.

Darllenydd  Roedd y Rabi Dr Steckelmacher yn byw yn Bad Durkheim, sydd yn nhalaith Wurtemburg, yr Almaen, gyda'i wraig, Vera, a dau o blant ar ddechrau cyfundrefn y Natsïaid. O'r cychwyn cyntaf, fe ddioddefodd erledigaeth wrth-Semitaidd. Ar ddechrau'r flwyddyn 1933, pan oedd rhaid iddo ddewis ysgol uwchradd ar gyfer, Walter, ei fab deng mlwydd oed, fe gymerodd gyngor cadarn dau brifathro yno ac atal ei fab rhag mynychu'r naill ysgol na'r llall.  Yn lle hynny, cafodd le iddo yn yr Ysgol Breswyl Iddewig yn nhref Herrlingen, ger dinas Ulm.

Roedd yr ysgol yn cael ei harwain gan Mrs Anna Essinger, a oedd wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn y flwyddyn 1918, dychwelodd i'r Almaen, lle cynorthwyodd y Crynwyr i drefnu gwasanaeth bwyd i ysgolion yn Ne'r Almaen. Trwy gyswllt agos gyda'r Crynwyr a, gyda chymorth dau o bersonoliaethau Iddewig, yr Arglwydd Samuel a'r Athro Bentwich, llwyddodd yn y flwyddyn 1933 i symud yr ysgol breswyl Herrlingen newydd i Gaint, yn Lloegr.

Rhoddodd Dr Steckelmacher ei fab Walter, oedd yn ddisgybl da a hoffus yn yr ysgol, ar y cludiant plant cyntaf i Loegr, ar yr amod fod ei chwaer ddeuddeg mlwydd oed, Lotte, hefyd yn cael ei derbyn i’r ysgol. Dilynodd Lotte ei brawd ym mis Tachwedd 1933 o Frankfurt. Ymwelodd eu rhieni â'r plant yn rheolaidd yn Lloegr hyd at fis Awst 1938, ond ar ôl hynny nid oedd yn bosib gwneud hynny. Roedden nhw'n meddwl mai eu dyletswydd oedd aros yn yr Almaen.

Arweinydd  Yn y pen draw, carcharwyd Ernst a Vera a'u hanfon i wersyll crynhoi Gurs yn Ffrainc. Yn y fan honno cawsant eu gwahanu, ac fe wnaeth y ddau ddioddef newyn, afiechyd a chaledi, fel y miliynau o ddioddefwyr Iddewig eraill dan y gyfundrefn Natsïaidd. 

Penderfynodd Ruth ei bod eisiau ymweld â Gurs, er mwyn troedio'r un ddaear oedd ei hen nain a'i hen daid wedi eu troedio. Mae'r ffilm fer hon yn ymwneud â'r ymweliad hwnnw.

Chwaraewch y clip fideo YouTube - Gurs Trip.

Amser i feddwl

Arweinydd  A yw eich rhieni ryw dro wedi bod â chi i'r lle y cawson nhw eu magu neu wedi treulio amser ar wyliau? Sut deimlad oedd cerdded y strydoedd yr oedden nhw wedi eu cerdded pan oedden nhw'r un oed â chi, i siglo ar y siglen yr oedden nhw wedi bod yn siglo arni, i fwyta pysgodyn a sglodion tatws o'r un siop ag yr oedden nhw wedi prynu rhai ynddi flynyddoedd ynghynt.

Mae'n rhoi mewnwelediad i chi o'u bywydau. Gall hyn eich helpu i feddwl amdanyn nhw mewn ffordd wahanol, i ddangos empathi â nhw, i ddeall sut y daethon nhw y bobl ydyn nhw heddiw.

Cerddodd Ruth Steckelmacher lle'r oedd ei hen daid a'i hen nain wedi cerdded. Roedd ei hen daid a'i hen nain, fodd bynnag, yn newynu. Roedden nhw'n cael eu curo. Roedd afiechyd yn y gwersyll yn beth cyffredin. Roedd yr amgylchiadau'n annynol, gyda'r gwersyll wedi ei orlenwi, y sefyllfa gyda thoiledau'n annigonol, a'r hylendid yn wael. Gwahanwyd teuluoedd, weithiau byth i weld ei gilydd ar ôl hynny.

Mae'n rhaid bod y profiad wedi bod yn anodd iawn i Ruth, yn emosiynol dros ben. Rhaid bod troedio lle'r oedden nhw wedi troedio wedi dod â hi i gyswllt corfforol â'r dioddefaint yr oedden nhw wedi ei brofi trwy law bodau dynol eraill, a hynny’n unig oherwydd eu bod yn Iddewon.

Y 27ain o Ionawr yw Diwrnod Rhyngwladol Coffáu'r Holocost. Ar y diwrnod hwn, cawn ein hannog i ddychmygu'r digwyddiadau erchyll a gymrodd le yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan geisiodd y Natsïaid gael gwared ar genedl gyfan o bobl, yn ogystal â diddymu dynion, merched a phlant gydag anableddau meddyliol a chorfforol, gwrywgydwyr, pobl o Rwmania ac unrhyw grwpiau oedd yn cael eu hystyried yn gymdeithasol annerbyniol. Cawn ein hannog i droedio, fel Ruth, lle'r oedd y bobl hynny a gafodd eu herlid yn troedio, a gadael i erchyllter y profiad hwnnw ein haddysgu ni.

Saib.

Cawn ein hannog hefyd i gerdded mewn esgidiau pobl eraill. Pobl hefyd oedd Cadlywydd y gwersyll, y gwarchodwyr, y cogyddion a’r gweinyddwyr, yn union fel ein rhieni a'n teidiau a'n neiniau. Cawn ein hannog hefyd i gofio bod ymhob un ohonom ni rywfaint o ragfarn, creulondeb, dymuniad i reoli. Efallai nad ydym yn creu gwersylloedd crynhoi, ond trwy ein mân siarad, beirniadaethau, gwaharddiad, gallwn greu amgylchfyd o erledigaeth yma yn yr ysgol. Yr un ddiod ydyw, dim ond ei bod mewn potel lai.

Mae Diwrnod Coffáu'r Holocost nid yn unig yn ddiwrnod ar gyfer myfyrdod hanesyddol ond hefyd yn ddiwrnod er mwyn edrych arnom ein hunain, yr hyn a feddyliwn, yr hyn y byddwn yn ei ddweud a'i wneud yn awr. Mae'n ddiwrnod i ni ddewis ymddwyn yn wahanol tuag at y naill a'r llall.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ddewrder dynion, merched a phlant a geisiodd wneud bywyd ychydig yn haws ei ddioddef mewn gwersylloedd fel Gurs.
Pan fyddwn ni’n cael ein temtio i feirniadu’r dalwyr, atgoffa ni o’r creulondeb y gallwn ni ei gyflawni hefyd.
Helpa ni i greu cymuned yn yr ysgol hon lle mae pawb yn cael eu cynnwys, a neb yn cael ei eithrio neu ei gau allan.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

 ‘Walk a mile in my shoes’ gan Joe South

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon