Anogaeth
Ystyried yn fanwl y syniad o anogaeth, a sylwi ar sut mae anogaeth yn rhoi dewrder i ni.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried yn fanwl y syniad o anogaeth, a sylwi ar sut mae anogaeth yn rhoi dewrder i ni.
Paratoad a Deunyddiau
Dim angen paratoi deunyddiau.
Gwasanaeth
- Dechreuwch trwy fynd ar daith ddychmygol.
Caewch eich llygaid, bawb, a dychmygwch yr olygfa.
Mae hi'n Ddiwrnod y Mabolgampau ac rydych chi ar fin cymryd rhan mewn ras. Cewch chi ddewis pa ras, ond fe wyddoch chi fod eich rhieni wedi dod i'ch gweld chi, felly rydych eisiau ceisio gwneud eich gorau glas.
Ydych chi'n hyderus eich bod yn mynd i ennill? Neu a ydych chi'n arswydo wrth feddwl am y peth, oherwydd rydych yn gwybod y byddwch mewn gwirionedd yn dod yn olaf, a byddai'n well o lawer gennych fynd i guddio yn rhywle?
Pa feddyliau sy'n troi yn eich pen? Ydych chi'n nerfus, neu a ydych chi’n hyderus?
Ar eich marciau, barod, EWCH!!
Dychmygwch y ras - rydych chi’n hedfan, yn gwneud yn wirioneddol dda . . . neu rydych bron yn llwyddo i gael eich coesau i weithio dipyn bach cyflymach na'r hyn y maen nhw'n ei wneud fel arfer. Os ydych chi’n rhedeg yn dda, efallai eich bod wedi ennill, tra bo'r rhai ohonoch sydd ychydig bach yn arafach yn dal i redeg lawr y trac. Y naill ffordd neu'r llall, rydych yn mynd draw wedyn at eich rhieni.
Dychmygwch y sgwrs rhyngoch. Dychmygwch eich bod wedi ennill a bod rhywun wedi dweud, ‘Doedd eich amser ddim cystal ag un llynedd’ neu ‘Fe fethoch chi dorri record yr ysgol unwaith eto’. Sut ydych chi'n teimlo?
Yna dychmygwch mai chi oedd yr un araf, o bosib yr olaf, ond mae rhywun yn dweud wrthych, ‘Ymdrech dda, Rwy'n gwybod nad ydych yn cael rhedeg yn beth hawdd, felly da iawn am ymdrechu.’ - Rhowch foment i’r myfyrwyr addasu, a meddwl.
- Pa berson dybiwch chi fyddai'n teimlo'n fwy calonogol?
Derbyniwch ymateb y myfyrwyr.
Y tebygrwydd yw y bydd y person a oedd yn olaf yn y ras, ond y dywedwyd wrtho, ‘Da iawn am ymdrechu’, yn teimlo'n well na'r un y dywedwyd wrtho, ‘Doedd eich amser ddim yn dda.’ - Heddiw, fe hoffwn i ni edrych ar yr hyn y mae'r gair ‘anogaeth’ yn ei olygu.
Mewn geiriadur ar-lein, mae'n cael ei ddiffinio fel, ‘y weithred o roi cefnogaeth, hyder, neu obaith’ i rywun. Mae'n weithred o galonogi rhywun, eu dyrchafu. Trwy annog pobl eraill, rydym yn rhoi ‘dewrder’ iddyn nhw. Rydym yn cynnal hunan-barch pobl eraill a'r gred sydd ganddyn nhw yn eu hunain fel modd i ddal ati a brwydro ymlaen. Bydd rhedwyr mewn rasys marathon yn dweud yn aml mai anogaeth a chymeradwyaeth gan y dyrfa sy'n eu cadw i ddal i redeg pan fydd hi’n anodd iawn gwneud hynny. - Trwy roi anogaeth i rywun, rydym yn rhoi mwy o hyder iddyn nhw ac yn eu grymuso wrth iddyn nhw wybod eu bod yn gwneud gwaith da neu eu bod ar y llwybr cywir a bod eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi. Meddyliwch pa mor ddigalon fyddai enillydd y ras y gwnaethom ei dychmygu ar y dechrau, oherwydd yn lle cael ei longyfarch am wneud job dda iawn ohoni ac ennill y ras, doedd yna ddim anogaeth, dim geiriau i'w ddyrchafu, dim ond y disgwyliad y dylai ef neu hi fod wedi gwneud hyd yn oed yn well.
- Mae pawb yn ffynnu ar ganmoliaeth ac o gael gwybod eu bod yn gwneud job dda o bethau, maen nhw’n sylweddoli eu bod yn dda am wneud rhywbeth. Pwy sydd ddim yn hoffi cael wyneb hoffus neu sylw cadarnhaol ar eu gwaith, neu hyd yn oed 'sticer'?
Yr hyn sydd o'i le, felly, yn amlach na dim, yw mai’r peth cyntaf a ddywedwn ni wrth gael ein canmol yw gair negyddol neu feirniadaeth? Os gwnewch chi gynnwys eich geiriau eich hun yn hyn, yna nid oes gennyf amheuaeth mai chi yw'r beirniad halltaf arnoch chi eich hunan. Pam y byddwn, mor aml, wrth dderbyn canmoliaeth yn dueddol o'i hanwybyddu, ac yn hytrach yn dod o hyd i rywbeth negyddol i'w ddweud amdanom ni ein hunain neu am ein perfformiad. Mae geiriau o gadarnhad ac anogaeth yn bwysig iawn - yn y ffordd y byddwn yn siarad amdanom ein hunain, ac am y modd y byddwn yn siarad ag eraill hefyd.
Amser i feddwl
Felly, eich tasg ar gyfer heddiw - ac, os gallwch chi geisio ei ddatblygu ychydig yn fwy, y diwrnod canlynol - a'r diwrnod, yr wythnos, a’r misoedd ar ôl hynny - yw siarad yn glên â chi eich hunan, ac annog eich hun.
Pan dderbyniwch ganlyniad prawf yn ôl ac mae'r radd yn uchel, peidiwch â meddwl, ‘Rwyf mor anobeithiol, fe ddylwn fod wedi cael y radd uchaf’, ceisiwch feddwl am rywbeth cadarnhaol. Cofiwch, gall fod rhywun sy'n eistedd wrth eich ymyl sydd ddim â'r gallu i ennill y radd a gawsoch chi, heb sôn am y radd uchaf.
Ceisiwch annog eich brodyr a'ch chwiorydd os gallwch chi, neu ddweud wrth eich rhieni pa mor dda yw'r gwaith y maen nhw'n ei wneud (hyd yn oed os nad ydyn nhw bob amser yn llwyddo i wneud hynny). Rwy'n siwr eu bod o bosib yn gallu bod yn ddigon negyddol amdanyn nhw'u hunain, felly nid oes angen i chi fod felly hefyd!
Ceisiwch rwydo'r meddyliau negyddol hynny cyn eu bod yn achosi i chi ymdroelli i ddiwrnod llawn o negyddiaeth.
Os yw popeth arall yn methu, cymerwch anadl ddofn a chanolbwyntiwch ar yr un peth da y gallwch ei weld. Os nad chi ydyw, efallai mai eich ffrind ydyw. Os mai hynny yw'r achos, dywedwch hynny wrtho ef neu wrthi hi. Rhowch ychydig o anogaeth i'ch ffrind.