Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn rhydd i ddewis

Pwy yw eich Ffolant? (Diwrnod Sant Ffolant, 14 Chwefror)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio dealltwriaeth o fater priodas orfodol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy ferch i ddarllen, un o blith y myfyrwyr ac un sy’n oedolyn.
  • Trefnwch fod y clip fideo TrueTube, Forced Marriage Is Not Part of My Culture gennych chi, a’r modd o ddangos y fideo yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.truetube.co.uk/film/forced-marriage). Mae’n para 7.35 munud.
  • Trefnwch hefyd bod gennych chi recordiad o’r gân ‘Crazy little thing called love’ gan Queen, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd  Mae’n ddydd Sant Ffolant heddiw. Tybed faint ohonoch chi sydd wedi dewis anfon cerdyn Sant Ffolant, neu efallai rosyn coch, heddiw?

Yn achos rhai ohonoch, mae’n debyg y byddai rhywun neilltuol yn disgwyl i chi wneud hynny. Efallai y byddai’n ddrwg arnoch chi pe baech chi heb wneud! Fodd bynnag, hyd yn oed os oedd ychydig bach o bwysau arnoch chi i wneud hyn, eich dewis chi oedd anfon y cerdyn, neu’r rhosyn, mewn gwirionedd.

Beth sy'n hyfryd dros ben yw pan fyddwch chi’n gwneud dewis hollol bersonol i anfon cerdyn. Rydych yn hoffi rhywun ac rydych chi’n dymuno iddyn nhw gael awgrym o'r ffordd rydych chi’n teimlo tuag atyn nhw. Efallai eich bod yn dymuno bod yn hollol ddidwyll, ac yn arwyddo eich enw'n eglur. Efallai eich bod yn dymuno anfon cerdyn yn ddienw, ag ychydig o embaras efallai, neu hyd yn oed yn bryderus o'r canlyniadau pe byddech yn cael eich adnabod. O bosib rydych wedi rhoi cliw i'r person, fel bydd y sawl sy'n derbyn yn gallu ymateb pe byddai ef neu hi'n dymuno. Mae'r dewis i chi a'r dewis iddyn nhw.

Weithiau, fodd bynnag, nid oes unrhyw ddewis o gwbl.

Dangoswch y clip fideo TrueTube Forced Marriage Is Not Part of My Culture.

Darllenydd  Diolch nad fel yna mae pethau i mi, yma, yn y rhan hon o (enw lleoliad yr ysgol). Nid wyf yn debygol o gael fy herwgipio a'm gorfodi i briodi rhywun nad wyf erioed wedi ei gyfarfod yn fy mywyd. Rwyf fi yn hollol rydd i wneud fy mhenderfyniadau fy hun. Rwy'n dewis gyda phwy yr wyf eisiau mynd allan - a pha bryd rydw i eisiau eu ‘dympio’! Yr unfed ganrif ar hugain yw hon, wedi’r cyfan, ac rydym yn byw ym Mhrydain. Mae merched a genethod wedi cael eu rhyddid.

Mae hynny'n wir, yn dydi?

Amser i feddwl

Arweinydd  Gadewch i ni feddwl am funud am yr hyn sy'n digwydd o ddifrif pan fyddwch chi’n ffurfio perthynas gyda chariad. Tybed a ydych chi wedi cael eich hunan yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn ryw dro?

Darllenydd  (myfyriwr) Dydyn ni ddim eisiau i ti fod yn teimlo dy fod yn cael dy adael allan, felly rydyn ni wedi gwahodd rhywun i fynd efo ti. Rydyn ni i gyd yn gyplau ac fe fyddet ti ar ben dy hun fel arall.

Darllenydd (oedolyn) Pam nad ewch chi i lawr i Glwb Ieuenctid yr Eglwys er mwyn ymuno â'r bobl hyfryd yno yn hytrach na sefyllian ar gornel y stryd?

Darllenydd (myfyriwr) Dydyn ni ddim yn cymysgu gyda nhw.  Dydyn ni ddim yn hoffi eu cerddoriaeth, dydyn ni ddim yn hoffi'r ffordd y maen nhw'n gwisgo, a dydyn ni ddim yn hoffi eu steil. Felly dy ddewis di yw rhyngom ni neu nhw.

Darllenydd (oedolyn) Yn ein diwylliant ni, mae'n arferol i briodi rhywun o deulu gyda rhagolygon da, rhywun a fydd yn darparu ar gyfer ei wraig a'i deulu.

Darllenydd (myfyriwr) Pam nad wyt ti eisiau cariad? Mae pawb arall yn dymuno cael un. Wyt ti’n od neu rywbeth?

Arweinydd  Gall y pwysau i gydymffurfio â disgwyliadau pobl eraill fod yn gryf iawn pan fydd yn ymwneud â'r berthynas ganolog ein bywyd - y person gyda phwy yr ydym yn cynllunio i dreulio gweddill ein bywyd neu'r ychydig fisoedd nesaf, o leiaf. Gallwn gytuno i anghytuno â'n ffrindiau, ein rhieni neu ein gofalwyr ynghylch gyrfaoedd, gwisg, sut rydyn ni’n treulio ein hamser hamdden, ond mae anghytundebau ynghylch perthynas bersonol fel arfer yn llawer anoddach.

Yn aml, mae rhieni a gofalwyr eisiau cael dweud eu dweud, oherwydd eu bod nhw wedi cael profiad tebyg o'r blaen efallai. Maen nhw wedi profi poen sydd ynghlwm wrth wneud dewisiadau gwael, ac yn ceisio eich helpu i beidio â gwneud yr un camgymeriadau. Yn ychwanegol, mae ganddyn nhw uchelgeisiau ar eich cyfer, a dim eisiau eich gweld yn cael eich troi o'r neilltu, neu fynd ar eich pen i sefyllfaoedd nad oes gennych reolaeth drostyn nhw. Y broblem yw bod y rheolaeth drostyn nhw weithiau yn gallu bod braidd yn gryf. Ar adegau, fe fydd ganddyn nhw eu hagendau eu hunain efallai, fel y fideo y gwnaethon ni edrych arni.

Gall ffrindiau hefyd fod yn gymysglyd iawn yn eu cymhellion. Mae eich ffrindiau gorau eisiau i chi gael amser da a pheidio â bod yn unig. Bydd eraill, fodd bynnag, yn gallu teimlo ychydig dan fygythiad pan fyddwch chi’n camu oddi allan i'r hyn sy'n arferol.  Efallai nad oes ganddyn nhw gryfder cymeriad i fod mor annibynnol. Ar y llaw arall, mae rhai sy’n benderfynol o gael hwyl  . . .  Ar hynny’n aml am eich pen neu ar eich traul chi.

Rwy'n gobeithio y byddwch yn cael amser da heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd rhai carwriaethau newydd yn cael eu sefydlu. Rwyf hefyd yn gobeithio na fydd unrhyw galonnau yn cael eu torri.  Mwynhewch hwyl yr wyl hon. Peidiwch â gadael i chi eich hunan gael eich gorfodi, naill ai i mewn neu allan o berthynas. Cofiwch mai chi biau'r dewis.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am bleser perthynas agos newydd, gan ddod i rannu profiadau newydd a dod i adnabod ein gilydd.
Atgoffa ni bod perthnasoedd iach nid yn unig er ein lles ni ein hunain ond er lles y person arall hefyd ac, yn y pen draw, yn gwneud ein perthnasoedd ehangach yn well hefyd.
Amen.

I orffen, dyma gerddoriaeth i’ch cael chi mewn hwyl i fod yn gariadus!

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Crazy little thing called love’ gan Queen

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon