Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ar bwy rydych chi'n gwrando?

Ystyried yr hyn sy’n ein harwain trwy fywyd.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried yr hyn sy’n ein harwain trwy fywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau, ond efallai yr hoffech chi ddefnyddio eich stori eich hun yn hytrach na’r stori sy’n cael ei rhoi yma yng Ngham 2 y gwasanaeth.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Father and son’ gan Cat Stevens a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Faint ohonoch chi sy'n well am roi cyngor i eraill yn hytrach na derbyn cyngor oddi wrthyn nhw?

    Byddai'r mwyafrif ohonom, rwy'n dychmygu, yn hoffi torri ein cwys ein hunain a dewis ein llwybr ein hunain, hyd yn oed os byddwn ni’n canfod wedyn mai'r cyngor a gawsom yn wreiddiol oedd y cyngor gorau.

  2. Pe byddem yn derbyn punt am bob tro yr oedd yr hyn roedd ein rhieni'n ei ddweud yn gywir, fe fyddem o bosib yn gyfoethog!  Er enghraifft, pan oeddwn i yn 15 oed, fe ddywedodd fy nhad wrthyf, ‘Wyt ti wedi meddwl mynd i addysgu?’ Gan wadu ei fod yn hollol gywir, fel arfer, fe wnes i ddilyn yn ddi-ildio gwrs cyfnewidiol yn y gyfraith ar derfyn fy nghwrs gradd, oherwydd roeddwn yn meddwl fy mod eisiau bod yn gyfreithiwr. Tua hanner ffordd trwy fy astudiaethau fe wnes i ffonio fy nhad mewn dagrau i ddweud nad oeddwn eisiau mynd ymlaen â'r cwrs, ac roeddwn eisiau bod, dyfalwch beth, yn athro astudiaethau crefyddol!

  3. Roedd fy nhad, wrth gwrs, yn llygad ei le, oherwydd roedd wedi byw canran dda o'i fywyd, ac wedi gwneud camgymeriadau a phrofi mwy o newidiadau na’r hyn roeddwn i wedi eu gwneud. Rwy'n ddiolchgar, fodd bynnag y bydd rhieni y rhan fwyaf o'r amser yn osgoi adrodd y geiriau clasurol, ‘Fe ddywedais i yn do’, hyd yn oed os oedden nhw'n eu meddwl!

  4. Felly, pam rydyn ni’n rhai mor wael am dderbyn arweiniad, hyd yn oed er ei fod er ein budd, ac er ein lles?

    O bosib, y gwirionedd yw ein bod yn hoffi cynnal ein hannibyniaeth ein hunain a'n hymreolaeth ein hunain, oddi wrth bobl fel ein rhieni, yn enwedig wrth i ni dyfu.

    Mae'n bwysig i ni i allu gwneud camgymeriadau ein hunain a dysgu oddi wrthyn nhw, ond mae'n fy nharo y byddai’n bosib i lawer o'n pryder a'n straen gael ei ryddhau pe byddem ddim ond yn gwrando ar rai o'r cynghorion sydd ar gael i ni yn hytrach na'u gwrthod ar ein hunion.

  5. I'r rhai ohonoch sydd ym Mlwyddyn 7, fe fyddwch chi wedi cael eich arwain gan nifer o ffactorau pan oeddech yn dewis pa ysgol uwchradd i’w mynychu. Ym Mlwyddyn 9, eich opsiynau TGAU yw'r hyn y byddwch chi'n meddwl amdanyn nhw ac ym Mlwyddyn 11, eich Lefel A fydd ar eich meddwl chi. Bydd y rhai ohonoch sydd yn y chweched dosbarth yn ystyried eich opsiynau ar gyfer pa brifysgol y byddwch yn ei dewis, neu a fyddwch yn cymryd blwyddyn allan ai peidio, neu’n dewis rhwng byd gwaith ac addysg uwch.

    Mae gyrfa academaidd pawb yn frith o'r angen i wneud penderfyniadau. Mae'n bwysig iawn eich bod yn siwr eich bod yn derbyn yr arweiniad priodol wrth i chi wneud y penderfyniadau hynny.  Ceisiwch wrando ar y cyngor a gewch, er mai chi, yn y diwedd, fydd â'r hawl i wneud y penderfyniadau terfynol.

Amser i feddwl

Peidiwch â bod yn ofnus, fodd bynnag, i ystyried opsiynau eraill os byddwch yn teimlo bod yr arweiniad neu'r llwybr posib y cewch ei anfon ar ei hyd ddim yr un yr ydych chi’n hollol gyfforddus yn ei gylch. Weithiau gall y deilliannau gorau mewn unrhyw sefyllfa arwain at ffordd sydd heb ei throedio lawer, ond bydd hynny'n golygu y bydd yn rhaid i chi fod yn ddewr a chymryd siawns. Mae hynny'n iawn a dylid ei annog, ond gwnewch yn siwr eich bod yn cyrraedd at benderfyniad cytbwys, gan ystyried yr arweiniad a roddir i chi yn ogystal.  Pwy â wyr pa lwybr y byddwch yn ei ddilyn efallaipe byddech yn ystyried yr holl  opsiynau'n ofalus.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Father and son’ gan Cat Stevens

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon