Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Garawys – Beth sy’n wirioneddol bwysig?

gan Us (formerly USPG)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o’r Garawys fel adeg i roi’r gorau yn ystod y cyfnod i wneud rhai pethau neilltuol sy’n ein temtio, a myfyrio ar beth yw’r gwir flaenoriaethau mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl am Iesu’n cael ei demtio yn yr anialwch (Mathew 4.1–11) fel y gallwch chi ei hadrodd yn y gwasanaeth yng Ngham 4. Os oes amser gennych chi, fe allech chi baratoi tri myfyriwr i gyflwyno’r stori – un fel storïwr, un i gymryd rhan y Diafol ac un i gymryd rhan Iesu. Os hoffech chi fersiwn ychydig yn wahanol o’r stori, fe allech chi wneud defnydd o’r fersiwn sydd i’w gweld ar y wefan:  www.thebricktestament.com/the_life_of_jesus/satan_tempts_jesus/mk01_13.html
  • Efallai yr hoffech chi ddewis rhai delweddau i gyd-fynd â’r storïau a threfnu modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth. Neu, er mwyn darlunio’r tri phwynt, fe allech chi chwilio am luniau o garreg, man uchel (gyda dibyn mawr) a brenin neu ymerawdwr godidog.

Gwasanaeth

  1. Pwy sydd wedi rhoi’r gorau i wneud rhywbeth dros gyfnod y Garawys?

    Cymerwch rai o'r syniadau a nodwyd gan y myfyrwyr.

  2. Cyfnod yw'r Garawys pan fydd pobl yn draddodiadol yn ymwrthod â rhywbeth y maen nhw'n ei ystyried yn demtasiwn, ond pam, tybed, rydyn ni'n gwneud hyn?

    Eto, cymerwch rai o awgrymiadau’r myfyrwyr.

  3. Mae llawer o resymau dros ymwrthod â'r pethau hyn, ond, beth bynnag yw ein rhesymau personol, mae gwneud hynny’n gyfle i neilltuo amser i fyfyrio ar ein bywydau ac ystyried yr hyn sy'n wirioneddol bwysig - beth yw ein blaenoriaethau, ac ar ba bethau rydym wirioneddol eisiau treulio ein hamser a'n hegni.
  4. Bydd Cristnogion sy'n ymwrthod â rhywbeth yn ystod y Garawys, yn meddwl am yr amser pan gafodd Iesu ei demtio yn yr anialwch. Rhoddwyd tri phrawf arno. Oes unrhyw un ohonoch yn gwybod beth oedden nhw?

    Adroddwch y stori am Iesu'n cael ei demtio yn yr anialwch yn eich geiriau eich hun, neu'r fersiwn amgen yr ydych wedi ei ddewis.

  5. Yn dilyn 40 diwrnod yn yr anialwch, mae'n rhaid bod Iesu'n awchu am rywbeth i'w fwyta, ond fe barhaodd i wrthod troi'r cerrig yn fara. Er ei fod yn ymddiried yn Nuw, fe wrthododd osod prawf ar Dduw mewn ffordd amhriodol. Yn ogystal, er iddo gael cynnig llywodraethu fel brenin nerthol dros yr holl fyd, nid oedd am dderbyn y cynnig hwnnw oddi wrth rywun drygionus.

    Gwnaeth Iesu'r penderfyniadau gofalus a rhyfedd hyn ynghylch yr hyn yr oedd ef ei hun ei angen a'r hyn oedd yn bwysig iddo ef.  Tybed a fydden ni wedi gwneud yr un penderfyniadau . . .
  6. Pa fath o bethau ydyn ni eu heisiau mewn bywyd - pethau sy'n ein temtio, pethau nad oes mo'u hangen arnom? Faint o'n ‘stwff’ ni sy'n wirioneddol bwysig?

    Os oes amser, derbyniwch beth adborth oddi wrth y myfyrwyr.

  7. Beth fyddwn ni eisiau bod pan fyddwn ni’n hyn - yn gyfoethog, yn enwog, yn bwerus? Pam rydyn ni'n meddwl fod y pethau hyn yn dda? Ai oherwydd ein bod yn credu fod rhai pobl yn well na'i gilydd? Fod pobl sy’n meddu ar lawer o bethau yn bwysicach neu'n fwy poblogaidd?

    Os oes amser, derbyniwch beth adborth oddi wrth y myfyrwyr.
  8. Er bod cyfle gennym i ddewisymwrthod â rhai pethau yn ystod y Garawys, nid yw pobl eraill yr un mor lwcus. Efallai bod ganddyn nhw bethau y maen nhw'n eu caru sy’n cael eu cymryd oddi arnyn nhw, a hwythau heb ddewis o gwbl yn y mater.
  9. Ddwy flynedd yn ôl, mewn gwlad ar ochr arall y byd o'r enw Sri Lanka, ysgubwyd y rhan fwyaf o bentref cyfan ymaith gan fflachlif dychrynllyd. Collodd y bobl yno bopeth oedd ganddyn nhw. Efallai y cofiwch i rywbeth tebyg ddigwydd mewn ardaloedd eraill hefyd.

    Rhoddodd y llif yn Sri Lanka gyfle i'r offeiriad feddwl am yr hyn sy'n bwysig mewn bywyd. Fe sylweddolodd, unwaith yr ydych yn cymryd ymaith ein holl feddiannau, mae pawb yn dod yn gyfartal unwaith yn rhagor. Fe ddisgrifiodd hyn fel bod yn debyg i set gwyddbwyll. Mewn gwyddbwyll, mae rhai darnau yn bwysicach a phwerus na'r lleill. Un frenhines sydd, a gall wneud llawer o wahanol symudiadau. Mae, fodd bynnag, lawer o werinwyr, ond nid oes modd iddyn nhw symud mwy nag un sgwâr ar y tro. Mewn cymhariaeth dydyn nhw ddim yn ymddangos yn bwysig iawn. Ar ddiwedd y chwarae, fodd bynnag, mae'r darnau i gyd yn cael eu rhoi yn ôl yn yr un bocs - y frenhines ynghyd â'r gwerinwyr, y marchogion gyda'r esgobion a'r brenin, pawb yn gyfartal.

    Yn yr un ffordd, pan wnawn ni roi'r gorau i feddwl am ein holl bethau, rydyn ninnau’n gyfartal hefyd. Yn y diwedd, mae'n bwysicach cofio bod pawb yn gyfartal na chanolbwyntio ar boblogrwydd pobl, meddiannau neu safle mewn bywyd.

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn meddwl am y pethau a’r bobl rydych chi’n meddwl sy'n bwysig yn eich bywyd.

Pa rai o’r pethau hynny sydd wirioneddol yn bwysig a pha rai rydych chi’n meddwl y gallech chi fyw hebddyn nhw?

Beth wnewch chi yn ystod y Garawys hwn er mwyn ceisio canolbwyntio mwy ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig mewn bywyd?

Gweddi
Arglwydd,
Rwyt ti’n ein herio gyda dy wirioneddau anghysurus ac yn gwneud i ni feddwl eto am y pethau y byddwn ni’n treulio ein hamser yn eu gwneud neu’n gwario ein harian neu’n defnyddio ein hegni arnyn nhw.
Boed i ti ddod â dy oleuni i gorneli tywyll ein bywyd.
Agor ein clustiau, ein llygaid, ein calon a’n meddwl, a rho i ni ddewrder i weithredu ar yr hyn y byddwn ni’n ei ganfod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon