Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sul y Fam

Meddwl am wir ystyr Sul y Fam.

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Meddwl am wir ystyr Sul y Fam.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch rai geiriau a delweddau sy’n gysylltiedig â Sul y Fam, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.
  • Os hoffech chi, fe allech chi ofyn i rai myfyrwyr ddarllen rhan helaeth o’r gwasanaeth.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Mama’ gan y Spice Girls, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Yn Saesneg mae Sul y Fam yn cael ei alw’n Ddiwrnod y Fam mewn sawl lle yn y byd - Mother’s Day. Mae hefyd yn cael ei alw mewn rhai llefydd yn Refreshment Sunday, Pudding Pie Sunday, Simnel Sunday neu Mid Lent Sunday, sef Sul Canol y Garawys.

    Caiff ei alw wrth yr enwau hyn am ei fod yn digwydd ar ddiwrnod yng nghanol cyfnod y Garawys, ac roedd y diwrnod hwnnw, yn yr hen ddyddiau, yn ddiwrnod pan fyddai pobl yn cael caniatâd i dorri’r rheol ympryd y bydden nhw’n cadw ati yn ystod cyfnod y Garawys ers talwm. Fe fydden nhw’n cael gwneud hynny er mwyn cofio am hanes Iesu’n porthi’r pum mil, stori sydd i’w chael yn y Beibl.

  2. Am lawer o flynyddoedd cyn dyddiau’r ceir modur a chyn i’r cyhoedd yn gyffredin fod yn berchen ar eu ceir eu hunain, fe fyddai’r bobl yn mynd i’w heglwys leol ar y Sul, yr eglwys oedd agosaf at ble bynnag roedden nhw’n byw neu’n gweithio ar y pryd. Ond roedd yn bwysig yn eu golwg, fodd bynnag, eu bod yn cael ymweld â’u ‘mam eglwys’ un waith y flwyddyn  - sef y brif eglwys neu’r eglwys gadeiriol yn yr ardal, a’r eglwys y bydden nhw o bosib wedi cael eu bedyddio ynddi. Felly, ar y pedwerydd Sul yn y Garawys, fe fyddai pobl yn dod ynghyd yn eu mam eglwys i gyflawni’r ddyletswydd hon. Roedd yn ddiwrnod  o ddathlu, yn enwedig i’r plant fyddai’n gorfod gweithio i ffwrdd o gartref ac yn cael diwrnod rhydd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

    Ar eu taith ar hyd heolydd y wlad ar y diwrnod hwnnw, fe fyddai’r plant yn casglu blodau gwylltion i’w rhoi i’w mamau, a dyna pam mae cennin Pedr yn flodyn sy’n cael ei ystyried yn symbol ar gyfer Sul y Fam.

  3. Erbyn heddiw, diwrnod i anrhydeddu ein mamau a’n neiniau yw Sul y Fam trwy roi cardiau, anrhegion a help llaw iddyn nhw. A hoff anrheg ar gyfer Sul y Fam hyd heddiw yw tusw o flodau’r gwanwyn.

  4. Mae’n hawdd anghofio gwir ystyr Sul y Fam. Nid dim ond achlysur i roi cardiau ac anrhegion ydyw, ond hefyd mae’n gyfle i ddiolch i’n mamau am yr holl bethau maen nhw’n ei wneud i ni.

  5. Ar Sul y Fam eleni, meddyliwch am rywbeth y gallech chi ei wneud er mwyn rhoi gwên ar wyneb eich mam neu’r person sy’n gofalu amdanoch chi gartref. Fe allai hynny fod yn rhywbeth fel helpu gyda’r gwaith ty, gwneud brecwast iddyn nhw, dylunio neu brynu cerdyn, neu hyd yn oed ddim ond dweud wrthyn nhw gymaint yr ydych chi’n eu caru.

  6. Fel y soniwyd eisoes, ambell dro fe fyddai Sul y Fam yn cael ei alw’n Sul Simnel. Math o deisen ffrwythau yw teisen Simnel sydd â haen o farsipán ar ei hwyneb a dwsin o beli marsipán ar ben honno i gynrychioli deuddeg disgybl Iesu (neu Iesu a’r disgyblion heb Jwdas). Roedd y deisen arbennig hon yn cael ei pharatoi ar gyfer y teulu i’w bwyta ar y diwrnod hwnnw, ond fe fydden nhw’n dal ati â’u hympryd wedyn tan y Pasg. Beth am i chi roi syrpreis i aelodau eich teulu trwy baratoi’r deisen draddodiadol hon ar eu cyfer?

    Pa syrpreis bynnag y byddwch chi’n ei gyflwyno i aelodau eich teulu ar Sul y Fam eleni, rwy’n siwr y byddan nhw wrth eu bodd os rhowch chi ychydig o feddwl a chariad yn eich ymdrech.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio moment neu ddwy yn meddwl am yr holl bethau mae ein rhieni, a phobl eraill sy’n gofalu amdanom,yn ei wneud i ni bob dydd.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y rhieni a’r gofalwyr yn ein byd sydd wedi ein caru a’n meithrin i fod yr unigolion gorau y mae’n bosib i ni fod.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Mama’ gan y Spice Girls

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon