Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Deuchrau eto

Ystyried a yw stopio gwneud rhywbeth ar ei ganol, a newid, yn beth da ai peidio.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried a yw stopio gwneud rhywbeth ar ei ganol, a newid, yn beth da ai peidio.

Paratoad a Deunyddiau

Dim angen paratoi deunyddiau, ond trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Rip it up and start again’ gan Orange Juice, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Tybed a oes rhywbeth tebyg i hyn wedi digwydd i chi erioed?

    Roeddwn i'n addysgu'r diwrnod o'r blaen. Doedd y wers ddim yn mynd yn ei blaen yn dda iawn - roedd y myfyrwyr yn ddryslyd braidd a minnau hefyd i raddau. Roedden nhw wedi ysgrifennu ychydig o bethau yn eu llyfrau, ond doedd yr un ohonyn nhw'n gwneud rhyw lawer o gynnydd (ac rwy'n cynnwys fy hun yn hyn). Felly, mi wnes i ddweud wrthyn nhw am stopio, tynnu'r dudalen o'u llyfrau gwaith ac fe aethom ymlaen i wneud rhywbeth llawer gwell ac, fel y dywedodd un ferch, ‘A oedd yn llawer mwy o hwyl hefyd’.

  2. Fe wnes i egluro i'r myfyrwyr - tra roeddwn i'n eu calonogi ei bod hi'n iawn iddyn nhw dynnu tudalen o'u llyfrau gwaith a, na, doedden nhw ddim yn mynd i fod mewn trafferth – dyna sut mae pethau weithiau mewn bywyd, sef bod yn rhaid i ni sylweddoli nad yw rhywbeth yn gweithio ambell dro, ac felly'n aml mae'n well anwybyddu'r cyfan a symud ymlaen. Dydy hynny ddim yn achos o gyfaddef methiant, ond, yn hytrach, bod yn ymwybodol o ba bryd i roi'r gorau i wneud rhywbeth mewn ffordd neilltuol a mynd ati i'w wneud mewn ffordd wahanol.

  3. Pan fyddwn yn ‘gadael i bethau fod’, gall yn aml olygu eich bod yn cerdded i ffwrdd oddi wrth rywbeth ac yn eich gadael heb ddim i ddangos am eich ymdrech. Ond dydw i ddim yn hollol siwr bod hynny'n wir, oherwydd rydych wedi cael y profiad, y gallwch feddwl amdano. Er enghraifft, fydda' i ddim yn cyflwyno'r wers neilltuol honno eto yn y ffordd yn y ffordd y gwnes i. Fe fydda i'n newid pethau a sicrhau y byddaf yn ei chyflwyno mewn modd gwahanol y tro nesaf.  Nid gadael yn waglaw fyddai hynny, ond dysgu trwy brofiad.

  4. Gadewch i ni edrych ar un neu ddwy o enghreifftiau eraill. A yw'n well aros mewn perthynas â rhywun sy'n eich trin yn wael, neu ddiweddu'r berthynas oherwydd nad yw'n wir yn gwneud unrhyw ffafr â'r naill na'r llall ohonoch? A yw'n well i rieni fyw ar wahân yn hytrach nag aros gyda'i gilydd ‘er mwyn y plant’, ac yna treulio'r nosweithiau yn dadlau a chweryla, gan achosi i bawb fod yn anhapus?

  5. Un o'r rhesymau pam na fyddwn yn aml yn dueddol o ‘adael i bethau fod’ yw oherwydd ein bod yn credu os y gwnawn ni hynny, ein bod rywfodd wedi methu. Yn aml dydyn ni ddim eisiau cyfaddef bod rhywbeth yn anghywir neu ein bod heb wneud cystal ag yr oeddem yn credu ein bod yn gallu, neu nad ydym cystal wrth wneud rhywbeth ag yr oeddem wedi gobeithio.

    Fe wnes i roi cynnig ar geisio rhwyfo yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Roedd gen i bob math o ddelweddau a syniadau ynghylch sut beth fyddai’r profiad. Roedd yn wastraff amser llwyr. Roedd hi'n arllwys y glaw, fe fu bron i mi ddisgyn i'r dwr ac roeddwn yn casáu'r holl beth. Fe wnes i adael i bethau fod. Fe benderfynais i nad rhywbeth fel yna oedd yn gweddu i mi. Fe allwn i fod wedi parhau i wneud fy hun yn ddiflas a bod yn boen i bobl eraill oedd yn ceisio fy helpu, ond roedd yn well i bawb fy mod i wedi dewis defnyddio fy amser i wneud rhywbeth amgenach. Rwy'n tybio eich bod chi wedi cael profiadau tebyg yn eich bywyd gyda chwaraeon a hobïau...

  6. Mae'r un peth yn wir pan fyddwn yn sylweddoli ei bod hi'n amser i ni ddilyn llwybr gwahanol os yw perthynas neu gyfeillgarwch wedi chwalu. Gall yr un peth fod yn wir am ddewis pynciau TGAU sydd ddim yn gweddu'n iawn, yn yr un modd Lefel A neu yrfa. Efallai eich bod wedi treulio rhai miloedd o oriau, ac o bosib dipyn go lew o arian, ar gael eich hyfforddi a'ch bod yn credu rheidrwydd arnoch i barhau. Byddwn yn edrych ar yr hyn y byddwn wedi ei fuddsoddi yn y pethau hyn fel pethau fydd yn golledig os y gwnawn ni roi'r gorau iddyn nhw, yn hytrach nag ystyried y profiad yr ydym wedi ei ennill. Byddwn hefyd yn anghofio edrych ar y niwed y byddwn yn ei wneud i ni'n hunain os gwnawn ni barhau gyda sefyllfa sy'n peri straen i ni neu sy'n ein gwneud yn anhapus.

    Pa gyngor fyddech yn ei roi i rywun arall sydd yn yr un sefyllfa â chi? Y siawns yw y byddech yn dweud wrthyn nhw am ystyried y cyfan yn rhan o brofiad a symud ymlaen. Mae'n well canolbwyntio ar beth fyddai manteision symud ymlaen a gwneud pethau'n wahanol neu beth fyddwch yn ei ennill, yn hytrach na meddwl am yr hyn yr ydych wedi ei golli.

  7. Felly, cofiwch fod tynnu'r dudalen o'r llyfr a dechrau o'r dechrau eto'n rhywbeth anodd, ond gall fod, yn y pen draw,yn well er lles pawb.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y rhannau o’ch bywyd sy’n ymddangos yn anodd ar hyn o bryd . . .

Sut gallwch chi benderfynu beth sy’n werth dyfalbarhau ag ef, a beth ddylech chi ei adael   . . .

Faint o berthnasoedd sy’n anodd oherwydd bod gennych chi gyfrifoldeb dros eraill? Pe byddech chi’n cerdded i ffwrdd o sefyllfa, beth fyddai’n digwydd i’r bobl hynny? Beth am sefyllfaoedd eraill lle mae pobl eraill yn gyfrifol amdanoch chi?

Faint o wersi sy’n anodd, ond yn wir yn werth yr ymdrech? Sut byddwch chi’n gwybod?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Rip it up and start again’ gan Orange Juice.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon