Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyfeillgarwch

Ein hatgoffa pa mor bwysig yw cyfeillgarwch, a gweld sut gallwn ni ddysgu caru ein gelynion.

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ein hatgoffa pa mor bwysig yw cyfeillgarwch, a gweld sut gallwn ni ddysgu caru ein gelynion.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch neu lluniwch rai delweddau gyda’r dyfyniadau sy’n cael eu rhoi yn nhestun y gwasanaeth, a chwestiynau a lluniau perthnasol i thema’r gwasanaeth, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Os dymunwch, fe allech chi ofyn i rai o’r myfyrwyr ddarllen y rhan fwyaf o gynnwys y gwasanaeth.
  • Cyn y gwasanaeth, gofynnwch i’r myfyrwyr baratoi darn byr am yr hyn mae cyfeillgarwch yn ei olygu iddyn nhw, a dod â’r darn gyda nhw i’r gwasanaeth ar y diwrnod.
  • Mae cam ychwanegol wedi ei gynnwys yn y gwasanaeth – Cam 10 – ar gyfer Ysgolion Eglwys. Os byddwch yn ei ddefnyddio, gofynnwch i fyfyrwyr ddarllen y darn allan o Efengyl Matthew 5.43–45.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘With a little help from my friends’ gan y Beatles, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1.Dangoswch yr addasiad hwn sy’n diffinio’r gair cyfeillgarwch:

Emosiwnneuymddygiadffrindiau; y cyflwr o fod yn gyfeillion:hen glymau ogariad a chyfeillgarwch,dyma grwp delfrydol ar gyfer dod o hyd i gefnogaeth a chyfeillgarwch.

2. Gofynnwch i’r myfyrwyr ddarllen y datganiadau byr maen nhw wedi eu paratoi o flaen llaw ynghylch yr hyn mae cyfeillgarwch yn ei olygu iddyn nhw.

3. Mae’n bosib canfod cyfeillgarwch ar sawl ffurf ac mewn llawer o lefydd gwahanol. Fe all fod yn ffrind rydych chi’n ei adnabod ers pan oeddech chi’n blentyn, rhywun rydych chi’n ei weld yn rheolaidd ar y bws, cyfeillgarwch rydych chi’n ei rhannu â’ch brawd neu eich chwaer, neu hyd yn oed gyfeillgarwch rydych chi’n ei rhannu â’ch anifail anwes.

4. Bydd ffrind yn rhywun rydych chi fel arfer yn teimlo’n agos ato ef neu hi, rhywun y gallwch chi siarad ag ef neu hi pan fyddwch chi’n drist, a chael hwyl gydag ef neu hi pan fyddwch chi’n hapus. Rhywun y gallwch chi fod yn onest â’ch gilydd wrth sgwrsio, a rhywun y gallwch chi ymddiried ynddo neu ynddi i gadw cyfrinach.

5. Cael ffrindiau yw un o bleserau gorau’r byd. Gall cymryd amser i ddod i adnabod rhywun, a meithrin cyfeillgarwch a fydd yn para, fod yn anodd. Ond mae’n werth yr ymdrech yn wir.

6. Gyda chyfeillgarwch, mae’n bwysig rhoi eich hunan yn lle’r person arall,  gan fod hyn yn sicrhau eich bod yn ymddwyn tuag at y bobl yn y ffordd yr hoffech chi iddyn nhw ymddwyn tuag atoch chi.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer bod yn ffrind da.

–Byddwch yn ffyddlon ac yn rhywun y gall pobl eraill ymddiried ynddoch chi. Os yw ffrind yn dweud rhywbeth yn gyfrinachol wrthoch chi, mae’n bwysig i chi gadw’r wybodaeth honno i chi eich hunan.

 Dychmygwch pa mor siomedig y byddech chi pe byddai eich ffrind yn dweud eich cyfrinach chi wrth rywun arall yn eich grwp o ffrindiau.

– Byddwch yn barod i wrando. Ambell dro, fe fyddwn ni mor awyddus i gael mynegi ein safbwyntiau a’n meddyliau ein hunain, rydym yn anghofio gwrando ar y person arall. Mae bod yn wrandäwr da yn eich gwneud yn ffrind arbennig, ac mae gallu gwrando yn sgil arbennig ar gyfer bywyd yn gyffredinol ac ar gyfer yr adeg pan fyddwch chi’n gyflogedig ryw ddiwrnod.

– Byddwch yn gefnogol. Mae’n amhosib bod yn anhunanol bob amser, ond fe allwn ni geisio meddwl am eraill yn gyntaf weithiau. Os yw ffrind i chi’n cael anhawster â thasg neilltuol, fe allech chi gynnig helpu. Neu os yw ef neu hi’n teimlo’n drist, beth am i chi drefnu diwrnod o fynd allan am hwyl?

– Byddwch yn barod i faddau. Un o’r rhinweddau mwyaf cymeradwy y gallwch chi ei gael fel ffrind yw’r gallu i faddau. Fe fyddwn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau ac mae’n bwysig ein bod yn gwerthfawrogi ein cyfeillgarwch yn fwy na geiriau sy’n cael eu dweud. Fe allai hyn olygu y byddai pobl yn barod i faddau i chi.

7. Pan fyddwn ni’n ifanc, mae gwneud ffrindiau’n ymddangos yn hawdd iawn. Fe allai cyfeillgarwch ddatblygu o ddim ond rhywbeth fel gofyn am fenthyg pensil gan gyd-ddisgybl. Ond wrth i ni dyfu mae ein disgwyliadau’n newid.

‘You can't stay in your corner of the Forest waiting for others to come to you. You have to go to them sometimes.’
A.A Milne,Winnie-the-Pooh

8. Ambell dro, mae’n rhaid i chi anwybyddu’r llais yn eich pen sy’n dweud wrthych chi am guddio yn y gornel, ac yn lle hynny, fod yn ddigon dewr i siarad â phobl newydd. Cofiwch, mewn bywyd, allwn ni byth gael gormod o ffrindiau. Mae’n bwysig hefyd nad ydyn ni’n rhy feirniadol. Dim ond am fod rhywun yn edrych yn wahanol, neu’n ymddiddori mewn pethau gwahanol i chi, nid yw’n golygu na ddylech chi wneud unrhyw beth â nhw. Yn wir, fe fyddai bod yn gyfeillgar tuag atyn nhw yn gallu bod yn ffordd dda o ddysgu pethau newydd!

9. Fe allai ymuno â chlwb, neu gael hobi newydd, fod yn ffordd dda o wneud ffrindiau. Gallai ymwneud â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau â chi fod yn ffordd dda o ddechrau sgwrsio.

10.Ar gyfer Ysgolion Eglwys
Mae’n nodi yn y Beibl bod eisiau i ni garu ein gelynion, sy’n swnio’n beth od. Ond mae’n beth synhwyrol mewn gwirionedd. Os gallwn ni fod yn ddigon aeddfed i beidio ag ymddwyn yn yr un ffordd ag y mae ein gelynion yn ymddwyn, gan ddweud pethau cas neu fod yn greulon, yna rydyn ni eisoes un cam ar y blaen iddyn nhw. Mae’n golygu ein bod yn ddigon dewr i beidio â dilyn eu hesiampl ddrwg. Cofiwch fod pobl yn ymddwyn mewn ffordd neilltuol ambell waith am reswm penodol. Efallai bod ganddyn nhw broblemau gartref, neu efallai eu bod yn cael eu bwlio. Ein gwaith ni yw gweddïo dros y bobl hyn a bod yn rhai sy’n gosod esiampl dda.

Gofynnwch i’r myfyrwyr sydd wedi paratoi ar gyfer darllen y darn o Efengyl Mathew 5.43–45 wneud hynny ar y pwynt hwn:

“Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.’ Ond rwyf fi’n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid; felly fe fyddwch yn blant i’ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn  peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r cyfiawn a’r anghyfiawn.

11. Felly, er mwyn crynhoi popeth rydyn ni wedi ei drafod heddiw, gadewch i ni gofio’r tri phwynt allweddol hyn:

– mae pawb yn haeddu cyfeillgarwch

– rhaid i ni weithio’n galed i fod yn ffrind da

– rhaid i ni garu ein gelynion.

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am ein ffrindiau ac am bopeth ydyn nhw.
Diolch am eu holl ddoniau, diolch am y caredigrwydd maen nhw wedi ei ddangos i ni ac am yr holl bethau maen nhw wedi eu rhoi i eraill.
Dal ati i fy arwain i, fel y gallaf innau hefyd fod yn ffrind da i eraill.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

With a little help from my friends’ gan y Beatles

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon