Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Muhammad Ali

Dathlu bywyd a chyflawniad sbortsmon ysbrydoledig.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu bywyd a chyflawniad sbortsmon ysbrydoledig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth hwn yn adrodd llawer o ffeithiau ynghylch bywyd nodedig Muhammad Ali, ac mae’n dyfynnu rhai pethau cofiadwy a ddywedodd. Os bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal fel cyflwyniad dosbarth, fe allech chi rannu’r ffeithiau hyn a chael sawl myfyriwr i’w darllen yn eu tro.
  • Os yw hynny’n bosib, trefnwch fod gennych chi luniau o Ali, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth. Mae rhai delweddau i’w cael ar: www.bing.com/images/search?q=images+of+muhammad+ali&qpvt=images+of+muhammad+ali&FORM=IGRE (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

1. Ewch trwy’r pwyntiau allweddol hyn sy’n ymwneud â bywyd Muhammad Ali heb nodi am bwy rydych chi’n sôn.

– Cafodd ei eni yn 1942 yn y rhan ddeheuol oedd wedi ei arwahanu yn Unol Daleithiau America.

– Fe brofodd hiliaeth a gwahaniaethu pan oedd yn blentyn ac yn ddyn ifanc.

– Pan oedd yn 12 oed, fe wnaeth rhywun ddwyn ei feic, ac fe ddywedodd wrth swyddog o’r heddlu ei fod eisiau rhoi cweir iawn i’r lleidr. Roedd gan y swyddog syniad gwell, mwy adeiladol, ac fe wnaeth ei arwain i gampfa leol.

- Gan weithio gyda’r swyddog, fe ddysgodd y bachgen ifanc un agwedd neilltuol o chwaraeon.

– Yn 1960, fe enillodd fedal aur Olympaidd.

– Aeth yn ei flaen i ddod yn un o sbortsmyn enwocaf ei oes, neu fel y dywedodd ef ei hun, ‘the greatest’.

Fe ddywedodd:

The fight is won or lost far away from witnesses – behind the lines, in the gym, and out there on the road, long before I dance under those lights.

2. Gofynnwch a oes unrhyw un yn gallu dyfalu am bwy rydych chi’n sôn. Y person yw’r bocsiwr enwog Muhammad Ali.

Adroddwch am rai o’i lwyddiannau yn y sgwâr bocsio:

–fel bocsiwr amatur, fe enillodd y wobr anrhydeddus ‘Golden Gloves’  yn 1956

– yn yr 1960au, wnaeth Ali ddim colli unrhyw ornest

– roedd yn bencampwr bocsio pwysau trwm dair gwaith – y tro cyntaf yn 1964, y tro olaf yn 1975

– mae’r gornestau a enillodd ymysg y rhai enwogaf erioed, yn rhai y bu mwyaf o wylio arnyn nhw, ac y mae pobl yn parhau i sôn amdanyn nhw hyd heddiw

– ei ddyfyniad enwogaf yw hwnnw lle mae’n disgrifio’i hun fel hyn, ‘Float like a butterfly, sting like a bee!

3. Dywedwch, fodd bynnag bod ochr arall i stori Ali. Cyfeiriwch at ei waith dyngarol (gweithio ar ran pobl eraill) a’i synnwyr moesol cryf. Hefyd, cyfeiriwch at y ffaith bod Ali wedi troi at grefydd Islam yn1964, gan newid ei enw o Cassius Clay i Muhammad Ali er mwyn adlewyrchu ei gred.

Dywedodd Ali:

The word 'Islam' means 'peace’. The word 'Muslim' means 'one who surrenders to God.' But the press makes us seem like haters.
Muhammad Ali mewn cyfweliad gyda Oprah, 2001

‘Rivers, ponds, lakes and streams – they all have different names, but they all contain water. Just as religions do – they all contain truths.’
Muhammad Ali,Muhammad Ali: His life and times

4. Yn 1966, pan gafodd ei alw gan lywodraeth UDA i wasanaethu yn Fietnam, fe wrthododd fynd. Roedd yn credu bod y rhyfel yn groes i’w egwyddorion crefyddol.

Yn 1967, cafwyd ef yn euog o wrthod ymuno â’r fyddin, ond fe gliriwyd ei enw’n ddiweddarach ar ôl achos llys hir. Dywedodd Ali:

‘He who is not courageous enough to take risks will accomplish nothing in life.’

Tynnodd y Boxing Association ei deitl oddi arno a’i wahardd am dair blynedd a hanner.

Fe ddychwelodd Ali i fyd bocsio yn 1970, gan ennill ei ail deitl pencampwr byd yn 1974.

5. Fe ymddeolodd Ali yn 1981, ond ni wnaeth ddiflannu o lygad y cyhoedd. Fe ddefnyddiodd ei enwogrwydd i gefnogi’r Gemau Paralympaidd, y sefydliad Make a Wish Foundation, a’r Cenhedloedd Unedig, gan deithio’n eang i wneud hynny. Dywedodd Ali:

‘Service to others is the rent you pay for your room here on earth.’

6. Yn 1984, cyhoeddodd Ali ei fod yn dioddef o’r cyflwr Parkinson. Fe sefydlodd y Muhammad Ali Parkinson Center yn Phoenix, Arizona, ac fe gododd arian gwerth miliynau o ddoleri tuag at y ganolfan honno.

7. Pwysleisiwch fod risg i iechyd yn mynd gyda chwaraeon fel bocsio a bod llawer o feddygon yn pryderu am yr agwedd hon. Ond nid yw’n bosib dweud yn bendant mai canlyniad blynyddoedd o focsio yw’r ffaith bod Ali’n dioddef o’r cyflwr Parkinson, er bod llawer o feddygon yn meddwl y gallai fod wedi cyfrannu tuag at hynny.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y pethau hyn a ddywedodd Muhammad Ali:

‘I hated every minute of training, but I said, 'Don't quit. Suffer now and live the rest of your life as a champion.'

‘I am an ordinary man who worked hard to develop the talent I was given. I believed in myself and I believe in the goodness of others.’

‘Silence is golden when you can't think of a good answer.’

‘The man who has no imagination has no wings.’

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon