Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Trychineb

Grymoedd natur a chwestiynau heb eu hateb

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y difrod a achosir o ganlyniad i drychinebau naturiol, a’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn eu cylch.

Paratoad a Deunyddiau

Casglwch ddelweddau o ddinistr a achoswyd gan drychinebau naturiol enbyd - daeargrynfeydd, tsunamis, llosgfynyddoedd, corwyntoedd ac ati – a delweddau o asiantaethau cymorth wrth eu gwaith mewn sefyllfaoedd o'r fath, a threfnwch fodd o arddangos y delweddau yn ystod y gwasanaeth (dewisol).

Gwasanaeth

1. Rydym yn byw mewn byd rhyfeddol - byd o wrthgyferbyniadau ac eithafion. Mae rhai ardaloedd mor boeth fel bod modd i chi ffrio wy ar greigiau neu balmant, tra bo ardaloedd eraill mor oer fel bod eich anadl yn rhewi. Mewn rhai lleoedd gallwch nofio mewn llynnoedd naturiol poeth, tra bod eira o'ch cwmpas ym mhob man. Mae gennym fynyddoedd mor uchel fel bod angen ocsigen i'w dringo ac maen nhw bob amser wedi eu gorchuddio ag eira. Mae gennym ffos yn y Môr Tawel sydd mor ddofn fel byddai Mynydd Everest yn diflannu iddi. Mae gennym un môr, sef y Môr Marw, y mae'n amhosib i chi suddo ynddo, waeth faint bynnag y ceisiech chi eich gorau i wneud hynny. Mae gennym goedwigoedd gwyllt dwys lle mae coed a phlanhigion yn cystadlu am oleuni, ac anialdiroedd lle nad oes nemor ddim yn tyfu, bryniau llyfn a mynyddoedd geirwon, llynnoedd llonydd ac afonydd troellog, moroedd rhuadwy a rhaeadrau ysblennydd sydd â’u twrw'n swnio fel taranau wrth i’r dwr blymio i lawr.

2. Mae'n fyd, mewn sawl ffordd, nad oes gennym reolaeth drosto. Yn ddwfn yng nghrombil y Ddaear mae grymoedd na allwn eu dirnad yn llawn, grymoedd sy'n gallu cynhyrchu digwyddiadau trychinebus fel daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd, a systemau tywydd sy'n datblygu i fod yn gorwyntoedd a thornados.

Bob tro y bydd natur yn ei llawn nerth yn cael ei rhyddhau, mae potensial o drychineb. Gall lafa o losgfynyddoedd lifo ac amlyncu cartrefi a threfi wrth wneud hynny. Gall daeargrynfeydd yrru cryniadau nerthol sy'n ddigon cryf i ddymchwel adeiladau. Gall glaw monswn achosi i afonydd orlifo, gan ddifetha cartrefi a bywoliaeth pobl sy'n byw ger eu glannau.  Bydd tornados yn rhwygo adeiladau a threfi oddi er eu seiliau a dod â thrallod i bawb wrth iddyn nhw deithio dros dir a môr.

3. Weithiau, a dim ond unwaith yn ein bywydau gobeithio, byddwn yn clywed am drychineb ofnadwy iawn, ac yn gweld y lluniau ar y teledu, trychineb mor ddirfawr fel bod y byd i gyd yn synnu. Digwyddodd un achos felly ar 26 Rhagfyr yn y flwyddyn 2004.

Tra roedd pobl ym Mhrydain yn ymlacio ar Wyl San Steffan, daeth y newyddion am drychineb o ochr arall y byd. Achosodd daeargryn oddi tan y môr gyfres o 'tsunami dinistriol' ar hyd arfordir Indonesia, Sri Lanka, India a Gwlad Thai. Trawodd tonnau enfawr, rhai gymaint â 30 metr o uchder, yn ddidrugaredd yn erbyn cymunedau arfordirol, a bu farw mwy na 225,000 o bobl. Dyma un o'r trychinebau naturiol mwyaf difäol a gofnodwyd erioed.

4. Ar adegau o’r fath, mae'n naturiol i ni ofyn paham y mae digwyddiadau fel hyn yn digwydd a pham bod cymaint o ddioddefaint yn y byd? Mewn gwirionedd, ni all unrhyw un egluro'n llawn ddirgelwch y cyfryw ddioddefaint. Bodau dynol sy'n gyfrifol am achosi rhywfaint o ddioddefaint:

– newyn – mae digonedd o fwyd yn y byd, ond mae miliynau'n newynu

- rhyfel - gall eiddigedd, uchelgais, a thrachwant rhai, ddod â diflastod a dioddefaint i lawer o bobl ddiniwed

– llygredd – nwyon o egsost cerbydau, llygredd ffatrïoedd, dinistrio'r fforestydd glaw am lawer iawn o resymau, caiff y pethau hyn effaith ar ei hamgylchfyd a'n hinsawdd.

Mae'r dioddefaint a achosir gan drychinebau naturiol yn symlach i'w egluro. Mae grymoedd enfawr natur yn gweithredu yn ein byd ac mae'r grymoedd hynny'n gwneud nerth bodau dynol yn ddi-nod. Fe roddodd y daeargryn gychwyn i'r tsunami yn y flwyddyn 2004, sydd ddim yn anarferol ynddo'i hun, ond beth oedd yn anarferol oedd maint y daeargryn a sut yr effeithiodd hynny ar y cefnfor uwch ei ben.

5. Ar adegau fel hyn, bydd pobl weithiau'n holi pam fod Duw yn caniatáu i hyn ddigwydd? Allwn ni ddim ateb y cwestiwn yna â hyder cyflawn, ond mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi creu' byd sy'n cydymffurfio â deddfau natur, er mor anghredadwy a llym y mae’r rheini’n ymddangos ar adegau.

6. Pan fydd trychinebau fel hyn yn digwydd, gwelwn ddioddefaint, ond rydym hefyd yn gweld rhai enghreifftiau o’r priodweddau dynol gorau. Gwelwn weithredoedd o ddewrder ac aberth enfawr, gweithredoedd mawr o dosturi. Bydd gweithwyr cymorth o bob cwr o'r byd yn gadael cysur a diogelwch eu cartrefi er mwyn helpu'r rhai hynny sydd wedi cael eu hanafu neu sydd mewn profedigaeth, ac fe fydd arian yn llifo i mewn oddi wrth bobl gyffredin i gronfeydd ariannol sy'n ymwneud â gwaith achub ac ailadeiladu.

Heb ddioddefaint, fe fyddai gennym lai o wybodaeth ynghylch sut beth yn union fyddai’r priodweddau dynol hynny o ofal, tosturi, cydymdeimlad a chariad.

Amser i feddwl

Pan fydd trychineb yn digwydd, rydyn ni’n cydymdeimlo â’r bobl sydd wedi colli aelodau o’u teulu neu anwyliaid, ac mae’n iawn i ni wneud hynny. Mae’n hawdd i ni fod â mwy o gydymdeimlad pan fydd nifer enfawr o bobl wedi eu lladd neu wedi eu niweidio, fel yn nhrychineb 2004. Ond mae angen i ni gofio nad yw galar un person sydd wedi colli gwr neu wraig, mab neu ferch, brawd neu chwaer, mewn amgylchiadau trasig yn ddim llai nac yn fwy, nac ychwaith yn dibynnu ar a oedd y person hwnnw wedi marw ar ben ei hun neu gydag eraill. Nid yw’r tristwch yn llai, mae’n syml yn cael ei rannu â mwy o bobl os yw’r un annwyl wedi marw o ganlyniad i drychineb.

Gweithgaredd dilynol

1. Dysgwch am rôl asiantaethau cymorth a sefydliadau anllywodraethol mewn ardaloedd lle mae trychineb wedi digwydd.

2. Trafodwch y risgiau sylweddol sy'n wynebu pobl sy'n byw mewn rhai rhannau o'r byd, a'r ffaith eu bod yn aros mewn ardaloedd o'r fath er gwaethaf y risgiau hynny.

3. Trafodwch sut y gall trychineb ennyn y gorau a'r gwaethaf mewn pobl - mae rhai yn peryglu eu bywydau i achub pobl eraill, tra bod pobl eraill yn dwyn o siopau a chartrefi.

4. Ystyriwch y problemau y mae asiantaethau cymorth yn eu canfod yn eu hymdrechion i helpu, problemau fel llygredigaeth mewn rhai cyfundrefnau, bygythiadau corfforol a pherygl mewn ardaloedd rhyfel, gwrthod caniatáu mynediad iddyn nhw i ardaloedd sy’n gyfrinachol neu’n sensitif, a pheidio â chyfaddef graddfa'r argyfwng mewn rhai gwledydd sydd heb fod yn wledydd democrataidd.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon