Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rwy'n amau!

Ystyried y syniad o amheuaeth, a hanes un amheuwr enwog yn neilltuol.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried y syniad o amheuaeth, a hanes un amheuwr enwog yn neilltuol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r darlunThe Incredulity of Saint Thomasgan Caravaggio, a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Ymgyfarwyddwch â’r darn allan o Efengyl Ioan 20.24-29, a threfnwch fod gennych chi gopi i un o’ch darllenwyr i’w ddarllen yn y gwasanaeth. Fe allech chi drefnu i grwp o fyfyrwyr actio’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio os hoffech chi.

Gwasanaeth

Darllenydd 1:Wyt ti’n mynd i barti Jeni?

Darllenydd 2:Dwi’n amau, mae’n bosib fydda i ddim yn mynd.

Darllenydd 1:Wyt ti’n mynd i basio dy arholiad piano Gradd 8?

Darllenydd 2: Efallai, ond dwi’n amau rywsut – dydw i ddim wedi bod yn ymarfer digon.

Darllenydd 1:Wnaiff y crys hwn dy ffitio di? Dydw i ddim eisiau hwn eto.

Darllenydd 2:Dwi’n amau.

Darllenydd 1:Ydi Duw’n bodoli?

Darllenydd 2:Dwi’n amau.

Arweinydd:Mae thema gyffredin yn rhedeg trwy’r sylwadau hyn. Pan oedd y cwestiwn yn cael ei ofyn, yr ymateb oedd, ‘Dwi’n amau.’ Mae’r un sy’n ymateb yn ansicr ynghylch yr ateb i’r cwestiwn, ac mae tinc o amheuaeth ynghylch pa mor debygol fyddai canlyniad yr hyn sy’n cael ei awgrymu yn y cwestiwn.

Efallai nad yw’r un sy’n ateb wedi gofyn i’w rieni/ ei rhieni a gaiff fynd i barti Jeni. Efallai ei fod/ ei bod yn credu mai, ‘Na chei’, fyddai eu hateb, felly doedd ddim wedi trafferthu gofyn. Ond ar y llaw arall, efalla i y byddai’r rhieni’n dweud, ‘Cei’, ond oherwydd profiad blaenorol mae wedi penderfynu peidio â gofyn beth bynnag. Yn ogystal, efallai nad yw eisiau mynd i’r parti, ac mai dyna pam mae’n defnyddio ymateb tebygol y rhieni fel esgus dros beidio â mynd.

Efallai nad yw’r pianydd wedi ymarfer digon, ond mae’r arholiad yn arholiad Gradd 8 wedi’r cyfan, ac mae’n paratoi ei hun ar gyfer y ffaith y gallai rhywbeth fynd o’i le. Mae hyn yn golygu ei fod ef, neu hi, yn amddiffyn ei hun rhag y siomedigaeth o fod yn aflwyddiannus. Felly, os bydd yn pasio, fe fydd hynny’n fonws. Yn yr un modd, gyda’r dilledyn, pe byddai’n ffitio ac yn edrych yn dda fe fyddai hynny’n wych, ond trwy ddweud, ‘Dwi’n amau’, efallai bod hynny’n ffordd o arbed teimladau . Hefyd os nad yw’n hoffi’r dilledyn mewn gwirionedd, yna fe fyddai’n well dweud hynny na dweud rhywbeth fel, ‘Na, dim diolch, mae’n hyll! Pam byddwn i eisiau gwisgo’r fath beth?!’

Ac yn olaf, dyna’r cwestiwn, ‘Ydi Duw’n bodoli?’ ‘Dwi’n amau.’ Pam fod yr un sy’n ateb yn amau? Ai oherwydd nad oes tystiolaeth?

Mewn llys barn, mae tystiolaeth yn erbyn y diffynnydd yn gorfod dangos iddo ef neu hi fod yn euog 'y tu hwnt i amheuaeth resymol'. Mae hyn yn golygu, os oes posibilrwydd nad yw’r diffynnydd yn euog, yna mae angen i hyn gael ei ymchwilio ymhellach.

Felly, pam rydyn ni’n amau? Mae'n rhyw fath o 'ardal lwyd' i ni. Hynny yw, mae’n fan rhwng credu a pheidio â chredu. Mae'n fan lle mae ansicrwydd ynghylch rhywbeth yn ormod i ni allu penderfynu y naill ffordd na'r llall. Gallai hyn fod oherwydd ein bod yn drwgdybio ffynhonnell y wybodaeth, neu ein bod yn syml eisiau cael tystiolaeth empirig yn gyntaf. Hynny yw, oherwydd na allwn ddefnyddio ein synhwyrau neu oherwydd ein bod yn methu clywed, gweld na chyffwrdd rhywbeth, yna'n syml ni all fod yn wir, ac mae lle i amau.

Mae un amheuwr enwog iawn. Ei enw oedd Thomas. Yn wir, mae dywediad adnabyddus wrth gyfeirio at rywun sy'n betrus neu sy'n amheus o rywbeth, gan gyfeirio ato fel Thomas yr amheuwr neu ‘doubting Thomas’.

Dangoswch y llun o ddarlun Caravaggio yn portreadu Thomas, os byddwch yn ei ddefnyddio.

Darllenydd 1:
  yn darllen y darn allan o Efengyl Ioan 20.24-29.

Gofynnwch i’r grwp o fyfyrwyr ddod i’r tu blaen i actio’r sefyllfa, hefyd, os gwnaethoch chi drefnu hynny.

Arweinydd:
  Mae Thomas, yn ddifrifol, yn teimlo'r angen i gyffwrdd clwyfau Iesu mewn gwirionedd. Mae'n teimlo'r angen i weld a chyffwrdd pethau drosto ei hun cyn y gall gredu bod Iesu, o ddifrif, wedi atgyfodi o farw’n fyw.

Efallai mai dim ond angen gwybod i sicrwydd drosto ei hun y mae, neu fel arall fe fyddai’n ymddwyn fel y cerddor Gradd 8 - mae'n amddiffyn ei hun rhag ofn i bethau fod yn wahanol. Mae Thomas angen y cadarnhad y bydd gweld â'i lygaid ei hun, a chyffwrdd â'i fysedd ei hun, yn ei roi iddo.

Mae Iesu’n rhoi cerydd ysgafn i Thomas gan ryfeddu mai'r unig reswm ei fod yn credu yw am ei fod yn gallu cyffwrdd a gweld â'i lygaid ei hun.

Y pwynt allweddol yma yw na fyddai cenedlaethau o Gristnogion ar ôl Thomas yn y sefyllfa i allu ‘gweld’ Iesu, ond eto a fyddai’n credu.

Nid Thomas yw’r unig un sy’n llawn amheuon - mae llawer ohonom angen gweld pethau drosom ein hunain. Mae'r ymadrodd 'gweld yw credu - seeing is believing’ yn un cyffredin. Roedd hyd yn oed Winnie the Pooh yn teimlo fel hyn - bu'n rhaid i’r arth fach ddringo i fyny i ben y goeden i weld sut roedd y gwenyn yn gwneud mêl.

Amser i feddwl

Yr unig broblem yw, trwy ganiatáu i amheuaeth ddylanwadu ar ein safbwyntiau a’n barn ar bethau, mae'n aml yn golygu ein bod nid yn unig yn amau pobl eraill, ond hefyd yn amau ein hunain. Os gallwn ni geisio peidio ag amau, fodd bynnag, a pheidio â dod o hyd i'r bylchau, neu ganiatáu i amheuon ac ansicrwydd ddylanwadu ar ein meddyliau, yna efallai y bydd yn bosibl i ni weld pethau ychydig yn gliriach.

Efallai y gallech chi heddiw roi cynnig ar fyw gyda darn o amheuaeth,  a pheidio â meddwl gormod am y peth nes i chi benderfynu pa ffordd yr ydych am fynd gyda’r amheuaeth. Efallai heddiw fe allech chi ddod yn fwy agored i gwestiynau sy'n bodoli gyda chi, yn hytrach na mynnu cael eu datrys, gan mai dyna’r ffordd y mae ein bywydau ysbrydol yn aml yn symud ymlaen - trwy fyw gydag amheuaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon