Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhowch amser iddo

Cymynrodd y Magna Carta (a seliwyd 15 Mehefin 1215)

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio sut gall egwyddor syml, fel y Magna Carta, gydag amynedd a dyfalbarhad, fod â pherthnasedd parhaol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r fideo Magna Carta: An introduction gan Claire Breay a Julian Harrison, yr hanes wedi’i adrodd gan Terry Jones, i’r Llyfrgell Brydeinig, a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.bl.uk/magna-carta/articles/magna-carta-an-introduction). Mae’n para 3.32 munud.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Don't give up’ gan Peter Gabriel, a Kate Bush, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd: Rhyw 800 mlynedd yn ôl, bu digwyddiad arwyddocaol iawn ar ynys yng nghanol yr Afon Tafwys. Mae effeithiau'r digwyddiad hwnnw'n berthnasol hyd heddiw. Y digwyddiad oedd gosod sêl (ni fyddai brenhinoedd byth yn ‘arwyddo’ dogfennau yn y dyddiau hynny) ar ddogfen sydd bellach yn cael ei galw yn Magna Carta. Dyma sut y digwyddodd hyn.

Dangoswch y fideo Magna Carta: An introduction.

Arweinydd: Mewn gwirionedd, roedd y Magna Carta yn dipyn o fethiant, o feddwl am y peth. Ei fwriad oedd sefydlu cytundeb heddwch rhwng y Brenin John a'r barwniaid, ond, y gwirionedd yw, yn fuan iawn ar ôl hyn bu rhyfel cartref a thaflwyd y wlad i anrhefn fawr. 

Yna, roedd y mater ynghylch cynnwys y siarter. Roedd yn ymwneud yn bennaf â threthi canol oesol, coredau pysgod ar yr Afon Tafwys, a materion eraill yn perthyn i'r cyfnod hwnnw o hanes.  Yn fuan iawn anghofiwyd am y pethau hynny.

Yn olaf, roedd y rhan a oedd yn ymwneud â'r fargen fawr: roedd pob dyn a oedd yn rhydd â'r hawl i gyfiawnder ac achos llys teg. Ni fyddai hawl gan lywodraethwr ddefnyddio'i rym yn fympwyol. Noder, fodd bynnag, mai at ‘ddynion rhydd’ yr oedd yn cyfeirio, felly nid oedd yn berthnasol i'r mwyafrif o'r bobl gyffredin. Roedden nhw'n parhau i gael eu cam-drin.

Os felly, beth sydd yn gwneud y Magna Carta mor arbennig?

Dros y canrifoedd, gan bwyll, cafodd y Magna Carta ei ddiwygio. Diddymwyd y rhannau amherthnasol ohono ac ehangwyd y brif egwyddor, nid yn unig ym Mhrydain ond hefyd yn rhyngwladol.

Darllenydd 1: Yn y flwyddyn 1679, pasiwyd Deddf 'Habeas Corpus'. Mae'r ddeddf hon yn amddiffyn pobl ym Mhrydain rhag cael eu cadw dan glo heb awdurdod cyfreithiol. Mae'r ddeddf yn weithredol hyd heddiw.

Darllenydd 2: Yn y flwyddyn 1689, daeth y Bil Cyfiawnder Prydeinig i fodolaeth. Cafodd iawnderau dynol eu hadnabod fel rhywbeth oedd yn bwysig i bawb.

Darllenydd 1: Yn y flwyddyn 1776, pan wrthryfelodd America yn erbyn cael ei llywodraethu gan Brydain, cafodd Datganiad Annibyniaeth America ei seilio ar egwyddorion y Magna Carta. America fyddai cartref y rhyddion.

Darllenydd 2: Yn y flwyddyn 1948, darparodd y Magna Carta'r sylfaen ar gyfer Datganiad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol, ar yr hwn y mae pob cyfraith ryngwladol yn seiliedig.

Arweinydd: A ydych eisiau llwyddiant cyflym? Pan fyddwch yn gwneud penderfyniad, a ydych eisiau gweld effaith hynny ar unwaith? A ydych chi'n siomedig os nad ydych yn gweld gwahaniaeth amlwg ar y dechrau? Gall fod yn newid yn ein dewis o ffordd i fyw - dilyn diet, rhoi'r gorau i ysmygu, dilyn trefn ffitrwydd. Gall fod yn berthynas yr ydych yn ceisio ei meithrin. Efallai eich bod yn taclo modiwl newydd yn eich astudiaethau gwyddonol, neu'n defnyddio cyfrwng newydd mewn arlunio a bod y canlyniadau'n aflwyddiannus.

Rwy'n siwr fod rhai o'r barwniaid oedd yn cymryd rhan wrth gynllunio'r Magna Carta yn teimlo fel yna ychydig flynyddoedd ar ôl iddyn nhw berswadio'r Brenin John i roi ei sêl arno. Mae'n ymddangos na roddodd y siarter gychwyn i lawer o newidiadau yn y gymdeithas. Mae'n ymddangos fod eu prosiect mawr yn dipyn o fethiant. Doedd ganddyn nhw ddim unrhyw syniad pa fath o gymynrodd y bydden nhw’n ei adael i ni wrth greu'r ddogfen hon.

I Iesu, y prosiect mawr oedd teyrnas Dduw. Ei genhadaeth mewn bywyd oedd cyflwyno'r amser pryd y byddai Duw, y tad, yn dwyn i fod ei drefn o heddwch, cyfiawnder a chariad gerbron holl bobl y byd. Fe osododd hynny'n rhan o'r weddi enwog a addysgodd i ni:

deled dy deyrnas, gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.

Dangosodd Iesu i ni awgrymiadau o sut beth y gallai hyn fod, a'i deimlo trwy'r gweithredoedd o iacháu, rhyddhau a derbyn, a wnaeth ymhlith y dynion, merched a phlant yn y cyfnod a dreuliodd ar y ddaear, ond fe wyddai y byddai hynny'n cymryd amser.

Amser i feddwl

Yn ein bywydau, fe fyddwn yn aml yn gweld ein hunain ar ddechrau prosiect. Fe wnes i grybwyll rhai enghreifftiau'n gynharach – prosiectau personol, perthnasoedd, uchelgeisiau. Weithiau gallwn weld ymateb ar unwaith, ond yn aml bydd y cynnydd yn araf. Mae hynny'n neilltuol wir pan fyddwn ni’n ceisio dwyn eraill i mewn i'r hyn yr ydym yn dymuno'i wneud.

Efallai y byddai o gymorth i ni edrych ar ein profiad yng ngoleuni'r Magna Carta a chenhadaeth Iesu. Rydym yn rhoi cychwyn i brosiect, rydym yn ei ddiwygio wrth i ni ddod wyneb yn wyneb â rhwystrau a chael gwared ar yr hyn sydd ddim o reidrwydd yn angenrheidiol tra byddwn yn cadw at yr hyn sy'n dod yn bwysicaf. Gall fod angen amynedd a dyfalbarhad gyda’r prosiect, gall ddefnyddio llawer o egni, ond yr hyn sy'n cyfrif fwyaf yw'r canlyniad ar y diwedd. Hyd yn oed wedyn, gall fod datblygiadau i ddod, yn union fel yn achos y Magna Carta.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr iawnderau dynol rydyn ni’n eu mwynhau heddiw sy’n deillio o’r ddogfen hanesyddol hon.
Atgoffa ni o’r gymynrodd a dyfodd, bob tro y byddwn ni’n cael ein temtio i roi’r gorau i’n prosiectau ein hunain.
Amen.

Cerddoriaeth

Don't give up’ gan Peter Gabriel a Kate Bush.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon