Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Waterloo

Pen-blwydd achlysur (18 Mehefin 1815)

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Cofio am ben-blwydd y frwydr hon a myfyrio ar yr achlysur.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch rai delweddau o Frwydr Waterloo a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Fe fydd arnoch chi angen cannwyll hefyd, a modd o’i goleuo.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gerddoriaeth 1812 Overture gan Tchaikovsky neu Wellington's Victory gan Beethoven, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Rhyw 200 mlynedd yn ôl, bu nifer o wledydd yn ymladd yn un o'r brwydrau pwysicaf yn hanes Ewrop. Bu canlyniad Brwydr Waterloo yn fodd o lunio'r Ewrop yr ydym yn byw ynddi heddiw. Bu'n dyst i gwymp un o gadfridogion mwyaf hanes a rhoi diwedd ar gyfres o ryfeloedd rhwng Ffrainc a'r D.U. a oedd yn ymestyn yn ôl i'r Oesoedd Canol.

2. Roedd y Chwyldro Ffrengig yn y flwyddyn 1789 wedi tarfu ar drefn pethau yn Ewrop. Roedd dymchweliad y teulu brenhinol grymus yn Ffrainc yn annisgwyl, a chododd fraw ar frenhinoedd gwledydd eraill Ewrop.

Mewn cyfres o ryfeloedd yn erbyn hen ymerodraethau, gwnaeth yr arweinydd Ffrengig, Napoleon, enillion enfawr gan sefydlu Ffrainc fel y wlad fwyaf pwerus yn Ewrop. Yn dilyn ymgyrch drychinebus yn Rwsia, fodd bynnag, a chwymp Paris, cafodd ei orfodi i ildio'r arweinyddiaeth a chafodd ei alltudio i ynys Elba ym Môr y Canoldir.

Yn y fan honno, cynllwyniodd ei ddychweliad ac adenillodd ei orsedd ym mis Mawrth yn y flwyddyn 1815. Ar unwaith, fe gyhoeddodd ei hen elynion ryfel yn erbyn Ffrainc a daeth wyneb yn wyneb â chlymblaid o fyddinoedd Prydain, yr Almaen a'r Iseldiroedd yng ngwlad Belg, yn agos at dref Waterloo. Roedd y canlyniad, yn ôl Wellington, cadlywydd y fyddin Brydeinig, yn ‘the nearest-run thing you ever saw in your life’. Rhoddodd y fuddugoliaeth derfyn ar arweinyddiaeth hir Napoleon a daeth heddwch i fodoli ledled Ewrop am 50 mlynedd.

3. Llwyddodd y frwydr i ddwyn heddwch hefyd rhwng Prydain a Ffrainc - heddwch na chafodd ei dorri ar ôl hynny. Parhaodd Prydain a Ffrainc yn gynghreiriaid mewn rhyfeloedd Ewropeaidd eraill, ac er gwaethaf llawer o gystadleuaeth gyfeillgar, mae ganddyn nhw berthynas gref a chadarnhaol. Mae llawer o Ffrancwyr yn byw yn Llundain, gan fwynhau ei ffyniant, ac mae llawer o drefi Prydain wedi eu gefeillio â villes (trefi)  yn Ffrainc. Mae'r ddwy wlad yn cydweithio ar faterion hanfodol ynglyn ag amddiffyn.

4. Gwlad Belg oedd lleoliad yr ymryson mawr Ewropeaidd arall hwnnw gan mlynedd yn ôl: sef y Rhyfel Byd Cyntaf. Gadawodd y rhyfel hwnnw – rhyfel mwy ofnadwy nag unrhyw ryfel arall a fu o'i flaen - gannoedd ar filoedd o bobl yn farw a chyfandir oedd ar ei liniau.

Prin 21 o flynyddoedd o ddiwedd y rhyfel hwnnw, roedd y byd yng nghanol rhyfel arall wedyn. Er hynny, ers y flwyddyn 1945, mae'r mwyafrif o wledydd Ewrop wedi cynnal heddwch â'i gilydd.

5. Mae nifer fawr o storïau am arwriaeth unigol ymhlith y milwyr a fu'n brwydro ar y ddwy ochr ym Mrwydr Waterloo, ond y gwir orfoledd yw gallu byw heb ryfel. Yn dilyn yr ymosodiadau gan derfysgwyr ar swyddfa'r cylchgrawn Charlie Hebdoym Mharis, ymysg eraill, roedd arweinwyr gwledydd Ewrop yn gyfan gwbl gefnogol i'r gwerthoedd cyffredin, sef rhyddid, heddwch a brawdgarwch. Ymladdwyd Brwydr Waterloo 200 mlynedd yn ôl a'r fuddugoliaeth yw'r un sy'n dangos ein bod yn byw heddiw mewn byd gwell.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll ac oedwch am foment.

Gadewch i ni feddwl am yr heddwch rydyn ni’n ei fwynhau heddiw a’r gwahanol fathau o ryddid sydd gennym ni:

– rhyddid i lefaru

– rhyddid i bleidleisio

– rhyddid i fod yn ni ein hunain, heb orfod poeni am orfod mynd i ymladd yn erbyn pobl eraill mewn rhyfeloedd.

Gadewch i ni dreulio moment yn awr i gofio am yr holl bobl hynny sydd, dros y blynyddoedd, wedi ymladd dros heddwch, a gadewch i ni fod yn ddiolchgar iddyn nhw am yr hyn sydd gennym ni heddiw.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

1812 Overture gan Tchaikovsky neu Wellington's Victory gan Beethoven

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon