Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Athro Syr Alec Jeffreys ac adnabod olion DNA

Dangos y gwahaniaeth y gall un person ei wneud.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos y gwahaniaeth y gall un person ei wneud.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ddelwedd o Syr Alec Jeffreys a delwedd o DNA, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Oxygène’ gan Jean Michel Jarre a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Dychmygwch olygfa droseddol – y math sydd wedi dod yn boblogaidd gyda rhaglenni teledu am yr heddlu, fel CSI.

Bydd swyddogion mewn lifrau yn diogelu'r safle a bydd cwn yn ffroeni am gliwiau. Heddiw, fodd bynnag, mae delwedd arall yn gyffredin: y gwyddonwyr, yn dadansoddi'n ofalus bob manylyn lleiaf am dystiolaeth DNA, a all bwyntio at un sydd dan amheuaeth a chau pen y mwdwl ar yr achos wedyn, gobeithio.

Mae'r dulliau sy'n cael eu defnyddio gan y gwyddonwyr yn deillio'n bennaf o waith un dyn – Yr Athro Syr Alec Jeffreys. Ef ddatblygodd y technegau i ddefnyddio DNA i adnabod pobl.

2. Roedd Jeffreys bob amser wedi cael ei swyno gan wyddoniaeth. Pan oedd yn blentyn, fe roddodd graith barhaol iddo'i hun wedi iddo sblasio asid sylffwrig yn ddamweiniol ar ei wyneb. Roedd hefyd yn hoff o ddadelfennu anifeiliaid bychain. Un tro, fe achosodd i arogl drwg ledaenu trwy'r ty wrth iddo fynd ati i ddadelfennu cath oedd wedi marw, yr oedd wedi dod o hyd iddi ar ei ffordd adref. Mae’n debyg na ddylai fod wedi gwneud hynny ar fwrdd yr ystafell fwyta! Ond fe dalodd y diddordeb oedd ganddo mewn gwyddoniaeth ar ei ganfed, oherwydd fe aeth ymlaen i astudio yn Rhydychen cyn mynd i weithio ym Mhrifysgol Caerlyr wedi hynny.

3. Yng Nghaerlyr, bu'n gweithio ym maes geneteg - cangen newydd iawn o wyddoniaeth yn y dyddiau hynny.  Un diwrnod, yn ystod arbrawf, dangoswyd yr hyn a oedd yn gyffelyb a'r hyn a oedd yn wahanol mewn DNA teulu un o dechnegwyr y labordy. Arweiniodd hyn iddo sylweddoli y gallai'r gwahaniaethau mewn DNA unigolyn gael ei ddefnyddio i'w hadnabod - roedd adnabod olion DNA wedi cael ei ddyfeisio.

Yn y flwyddyn 1987, fe ddefnyddiodd yr heddlu'r dull hwn i adeiladu achos yn erbyn Colin Pitchfork, a oedd, fel yr oedden nhw'n gallu profi, wedi treisio a llofruddio dwy wraig leol. Fe brofwyd yr achos a chyffesodd Pitchfork. Yn fwy na hynny, cafodd  drwg-dybiwr diniwed, Richard Buckland, ei ryddhau oherwydd y dystiolaeth DNA. Heb y dystiolaeth honno, o bosib y byddai ef er ei fod yn ddieuog wedi wynebu carchar am oes, a byddai'r gwir lofrudd wedi cael ei draed yn rhydd.

4. Cafodd achos arall anarferol ond iasol ei wneud trwy ddefnyddio dull Jeffreys. Roedd y gwyddonydd Natsïaidd drwgenwog, Dr Josef Mengele, a oedd wedi gwneud arbrofion erchyll ar garcharorion y gwersylloedd crynhoi, wedi dianc i Dde America ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Credid ei fod wedi marw, ond yn y flwyddyn 1992 cafwyd cadarnhad bod y DNA o asgwrn o'i gorff honedig a DNA o ddau aelod o'i deulu yn cyfateb yn agos, a hynny’n profi mai'r corff hwnnw oedd un Mengele.

5. Er hynny, nid yn unig roedd dulliau Syr Alec yn cael eu defnyddio i adnabod llofruddion ond hefyd i ddod â theuluoedd at ei gilydd. Daeth y prawf cyntaf o'r dull hwn yn y flwyddyn 1985, cyn yr achos o lofruddiaeth, pryd y defnyddiwyd DNA i gadarnhau adnabyddiaeth o fachgen Prydeinig oedd â'i deulu yn dod o Ghana yn ystod achos o fewnfudiad. Dangosodd canlyniadau'r DNA fod y bachgen yn cyfateb yn agos i DNA ei deulu, ac felly cafodd aelodau'r teulu eu haduno.

Amser i feddwl

Tra bod ein genynnau yn dweud llawer wrthym am bwy ydym ni, mae llawer mwy bob amser i berson na chyfres o gemegau'n unig. Gall ein DNA nodi pwy ydyn ni, ond gall ein gweithredoedd hefyd wneud hynny.

Cawn ein geni â phroffil DNA, ond mae'n gyfrifoldeb arnom ni i ddefnyddio'r galluoedd a'r doniau y cawsom ein geni gyda nhw mewn ffordd dda – ac er mwyn gwneud daioni, gobeithio. Cafodd Alec ei eni â chwilfrydedd, ac roedd wedi ei swyno gan wyddoniaeth. Fe anogodd ei rieni iddo ddilyn ei ddiddordeb, er gwaethaf yr anifeiliaid a ddadelfennwyd a’r llosgiadau i'w wyneb.

Beth yw eich doniau a'ch galluoedd chi? Sut gallech chi ddefnyddio'r rhain er budd y ddynoliaeth?

Cerddoriaeth

Oxygène’ gan Jean Michel Jarre

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon