Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Siomedigaeth

Ystyried siomedigaeth a sut i ymdopi â siom pan fydd yn digwydd.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried siomedigaeth a sut i ymdopi â siom pan fydd yn digwydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen anrheg wedi ei lapio’n ddeniadol. Fe allech chi ddewis bocs deniadol, bocs mawr, nifer o focsys i’w rhoi y naill yn y llall, bocs cyfarwydd fel bocs ffôn symudol, efallai, ond rhowch rywbeth di-nod i mewn ynddo, neu hyd yn oed ei adael yn wag. Y bwriad yw rhoi siom wirioneddol i’r un sy’n agor yr anrheg - siom oherwydd nad yw’r addewid ar y tu allan yn cyfateb i’r hyn sydd y tu mewn. Ond byddwch yn ofalus rhag gwirioneddol frifo teimladau’r un sy’n ei agor i chi.
  • Fe fyddai’n syniad da pe byddech chi’n paratoi gwirfoddolwr sy’n fodlon eich helpu gyda hyn, neu aelod o staff o bosib, fel y byddwch chi’n gallu cyflwyno’r anrheg iddo ef neu iddi hi yn ystod y gwasanaeth.
  • Gallwch baratoi ddelwedd o hafaliad siomedigaeth:

    siomedigaeth = disgwyliadau – realiti

    a threfnwch fodd o ddangos y ddelwedd, neu ysgrifennwch yr hafaliad ar fwrdd gwyn, ond dewisol yw hyn.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân 'Hey Jude' gan y Beatles, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1.Rhowch  yr anrheg i’r gwirfoddolwr a fydd yn eich helpu, a gofynnwch iddo ef neu hi ei agor o flaen pawb. Bydd y gwirfoddolwr yn gwneud sylw mawr o ba mor hyfryd yw’r anrheg, ac wedyn yn cyfleu ei siom enfawr wrth weld beth sydd yno.

2. Yr hyn rydych chi wedi ei weld yma yw siomedigaeth ar waith - y codi gobeithion, a’r disgwyliadau wedyn yn cael eu chwalu.

Gall siomedigaeth weithiau wneud i chi deimlo fel pe byddai rhywun yn llythrennol yn tynnu’r mat o dan eich traed. Go brin fod unrhyw un yn yr ystafell hon sydd heb gael ei siomi ryw dro mewn un ffordd neu’r llall.

3. Efallai, pan oeddech chi’n blentyn, eich bod chi wedi disgwyl cael rhywbeth neilltuol ar eich pen-blwydd neu yn anrheg Nadolig, ond na chawsoch chi’r peth arbennig hwnnw. Efallai na fu eglurhad pam na chawsoch chi’r anrheg neilltuol honno. Mae’n bosib nad oedd yr arian gan eich rhieni i brynu’r anrheg, neu efallai eu bod wedi camddeall yr hyn roeddech chi’n ei ddeisyfu.

Rwy’n adnabod rhywun oedd wrth ei fodd, pan oedd yn fachgen bach, yn edrych ar fapiau ac yn chwarae â theganau Brio a blociau Lego. Ar gyfer ei ben-blwydd, fe brynodd ei rieni ddillad cowboi iddo. Fe wisgodd y dillad cowboi a dweud diolch, ond yr hyn yr oedd wedi dymuno’i gael oedd set trên bach.

4. Mae siomedigaeth yn canolbwyntio’n hollol ar yr hyn sy’n deillio o sefyllfa neilltuol. Fe welais i lun diddorol oedd yn cyfleu siomedigaeth fel hafaliad.

Dangoswch y ddelwedd, os byddwch chi’n ei defnyddio, neu ysgrifennwch y geiriau neu, yn syml, fe allwch eu dweud:

siomedigaeth = disgwyliadau - realiti

Hynny yw, doedd yr hyn oeddech chi’n disgwyl iddo ddigwydd a realiti’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd ddim yn cyfateb - ac roedd hynny’n hafal i siom. Efallai eich bod wedi meddwl y byddai One Direction yn para gyda’i gilydd am byth. Efallai eich bod wedi gweithio’n galed ar gyfer prawf neu arholiad ac fe fuoch chi’n aflwyddiannus er gwaethaf eich holl waith paratoi, ac rydych chi’n siomedig iawn ac yn teimlo eich bod wedi ‘methu’ rywsut. Efallai mai dim ond 9 A* gawsoch chi ac nid 10. Neu, efallai bod rhywun roeddech chi’n ymddiried ynddo neu ynddi wedi eich siomi.

5. Felly, mae pob un ohonom wedi wynebu amgylchiadau, sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau siomedig ryw dro. Mae siomiant yn un o deimladau mwyaf anghyfforddus bywyd. Mae rhai seicolegwyr wedi awgrymu bod siomiant, yn achos rhai pobl, yn debyg iawn i’r galar y mae rhywun yn ei deimlo ar ôl iddyn nhw golli rhywun maen nhw’n ei garu.

6. Mae’r ffordd y byddwn ni’n delio â siom yn dibynnu ar sut mae’n effeithio arnom ni. Mae’n bwysig, er hynny, i ni ddangos ein teimladau – peidiwch â’u cadw i chi eich hunan a throi’n fewnblyg gan nad yw hynny’n gwneud lles i unrhyw un, yn enwedig chi eich hunan. Os byddwch chi’n teimlo fel crio ychydig, yna gwneud hynny. Rhowch gyfle i chi eich hunan fod yn drist – mae’n ymateb digon naturiol. Ond ceisiwch beidio ag ymateb yn ddig oherwydd eich bod yn rhwystredig – fe allech chi wneud rhywbeth y byddech chi, yn ddiweddarach, yn difaru ei wneud.

Fe allai fod yn fuddiol hefyd i roi pethau mewn persbectif. Mae’n anodd gwneud hyn pan fyddwch chi newydd gael siom fawr, neu’n teimlo eich bod wedi methu mewn ffordd neilltuol. Ond ceisiwch feddwl a yw hyn yn drychineb go iawn?

Mae achosion fel damwain awyren, neu gael diagnosis o afiechyd fel lewcemia(gofalwch eich bod yn defnyddio enghreifftiau sydd ddim yn digwydd ym mywyd myfyrwyr neu athrawon sy’n bresennol yn y gwasanaeth), yn drychinebau yng ngwir ystyr y gair. Sut mae eich siom chi yn cymharu â thrychineb felly? Mae’n debyg nad yw’n ddim o’i gymharu, ac felly fe allwch chi roi eich siom mewn rhyw fath o bersbectif. Wrth gwrs, i chi, mae eich profiad yn siom ac yn gwneud i chi deimlo’n drist, ond a fydd unrhyw wahaniaeth am hynny ymhen blwyddyn, neu ymhen mis, neu hyd yn oed ymhen wythnos?

Amser i feddwl

Yn y cyfamser, rhowch gyfle i chi eich hunan, a gofalwch eich bod yn canolbwyntio ar yr hyn sydd gennych chi i fod yn ddiolchgar amdano - yr hyn sydd gennych chi yn eich bywyd sy’n peri llawenydd i chi. Efallai mai anifail anwes fyddai’r peth hwnnw, neu frawd neu chwaer, neu eich ffrindiau. Mae’n bosib y gwnewch chi sylweddoli bod gennych chi fwy i fod yn ddiolchgar yn ei gylch nac i fod yn siomedig yn ei gylch.

Felly, pan fydd eich disgwyliadau ddim yn cyfateb i realiti, ceisiwch beidio â gadael i hynny eich poeni’n ormodol a pheidiwch â meddwl gormod am eich siom. Byddwch yn ymwybodol o’r ffaith bod siomedigaeth yn digwydd i bawb, ond manteisiwch ar y cyfle i ddysgu oddi wrth yr hyn sydd wedi digwydd a rhowch bopeth mewn persbectif. Yna, efallai y byddwch chi’n canfod nad ydych chi mor siomedig ag roeddech chi’n meddwl eich bod chi. Mae rhodfeydd eraill a ffyrdd eraill i’w dilyn.

Cerddoriaeth

'Hey Jude' gan y Beatles

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon