Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud y gorau o amser

Ystyried sut i wneud y gorau o adeg gwyliau’r haf.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried sut i wneud y gorau o adeg gwyliau’r haf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen siart cylch, i’w llunio yn ystod y gwasanaeth.
  • Lluniwch ddelwedd yn dangos y dyfyniad canlynol o’r dewis ‘Fitness’ yn y ddewislen sydd ar gyfer y tab ‘Live well’ ar wefan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (ar: www.nhs.uk) a threfnwch fodd o ddangos y dyfyniad yn ystod y gwasanaeth:
    ‘If exercise were a pill, it would be one of the most cost-effective drugs ever invented.’
  • Trefnwch hefyd fod gennych chi rai sgwariau o ddefnydd a ddefnyddir ar gyfer cwiltio (yr hyn fydd yn cael eu galw’n fat quarters), ond dewisol yw hyn.
  • Adolygwch y wybodaeth sy’n cael ei rhoi ynghylch y manteision a gaiff carcharorion wrth ddysgu cwiltio – gwelwch y wefan:www.finecellwork.co.uk Efallai yr hoffech chi ddangos rhai o’r delweddau sydd ar y wefan yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Naill ai dewiswch unrhyw gân hafaidd, neu trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘In the summertime’ gan Mungo Jerry, a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Ystyriwch pa mor hir yw gwyliau’r haf.

Fel arfer mae’r gwyliau haf cyffredin yn 6 wythnos, neu’n 42 diwrnod, neu’n 1008 awr, gan gynnwys y penwythnosau.

Yr amser a awgrymir sydd ar bobl ifanc yn eu harddegau ei angen o gwsg yw tua 9 awr y noson, sydd, wedi ei luosi â 42 diwrnod o wyliau haf yn 378 awr o gwsg.

Mae’r amser y byddwn ni’n ei dreulio’n bwyta yn gyfanswm o tua awr a hanner bob dydd - wedi ei luosi â 42, dyna 63 awr.

Llenwch y siart cylch i ddangos yr oriau gaiff eu treulio’n bwyta ac yn cysgu.

Mae hynny’n gadael 567 o oriau.

2. Mae’n bosib bod swyddi Sadwrn gan rai ohonoch chi, a fydd efallai’n cymryd tua 48 awr arall.

Ychwanegwch y rhain at y siart cylch.

Efallai bod gan rai ohonoch chi swydd dros y gwyliau a allai fod yn gyfwerth ag oriau ysgol. Ond hyd yn oed os byddwch chi’n gweithio’n llawn amser drwy’r gwyliau fe fydd gennych chi oriau lawer o amser rhydd wedyn. Er hynny, ydych chi erioed wedi teimlo bod gwyliau’r haf yn hedfan heibio’n rhy sydyn o lawer?

3. Mae’r haf yn adeg ardderchog i oedi a gwerthuso a yw’r hyn yr ydym yn ei wneud yn ein hamser sbâr yn ddefnyddiol.

Meddyliwch am yr adeg y byddwch chi’n defnyddio eich amser rhydd mewn ffordd dda.

Meddyliwch am sut byddwch chi’n colli amser neu’n gwastraffu amser – wrth dreulio gormod o amser yn gwylio’r teledu efallai, neu’n treulio gormod o amser ar y cyfrifiadur neu ar eich ffôn symudol.

Meddyliwch am sut byddwch chi’n trefnu eich gwaith cartref, eich aseiniadau, ac ati, pan fyddwch chi yn yr ysgol.

Efallai y gallen ni gymhwyso’r math hwn o sgiliau trefnu – gosod nodau i ni ein hunain ac ati – fel y gallwn ni ddefnyddio ein hamser gwyliau yn y ffordd orau.

4. Yr haf, gyda’i dywydd braf a’i oriau hir o olau dydd yw’r amser perffaith i fynd allan i’r awyr agored ac ymarfer.

Dangoswch y ddelwedd o’r dyfyniad gan y Gwasanaeth iechyd.

Does dim rhaid i’r ymarfer corff y byddwch yn ei wneud fod yn oriau lawer o chwarae pêl-droed neu dennis - fe all cerdded am dro am tua 20 munud fod yn llesol i ni. A hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo fel ymarfer, fe all eistedd allan yn yr awyr iach fod yn dda i chi. Mae’n ffordd rad iawn o wneud i chi deimlo’n dda!

Gadewch i ni edrych eto ar ein siart cylch. Faint o oriau ddylem ni eu neilltuo ar gyfer ymarfer corff?

5. Mae rhai oriau’n dal i fod ar ôl. Beth am hobïau?

Yr haf yw tymor ffeiriau celf a chrefft ledled y wlad, lle mae pobl yn arddangos eu creadigrwydd, o baentio i waith coed i grochenwaith a gwaith gwnïo . . .

Caiff yr hobïau hyn eu mwynhau gan fechgyn a merched fel ei gilydd. Ystyriwch y nifer fawr o chefs sy’n ddynion, a faint o ddylunwyr ffasiwn sy’n ddynion hefyd.

Enwch rai.

Ystyriwch beth yw manteision hobïau:

– maen nhw’n cyfoethogi ein safbwyntiau ynghylch bywyd

– maen nhw’n rhoi pwynt cyswllt i ni â phobl eraill

– mae’n ffordd o leddfu straen, ac os nad yw hyn yn broblem ar hyn o bryd gall fod yn ddefnyddiol wrth i ni dyfu’n hyn 

– fe all hobi helpu i adeiladu hunan-barch

– a rhoi rhywbeth diddorol i ni sgwrsio amdano.

6. Fe allech chi brynu rhai darnau o ddefnydd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cwiltio (fat quarters). Na, nid math newydd o fwyd cyflym yw hwn!

Dangoswch y darnau defnydd sy’n cael eu defnyddio wrth wneud gwaith cwiltio, os oes rhai gennych chi. Y naill ffordd neu’r llall, eglurwch y gelfyddyd o gwiltio.

Mae ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Glasgow wedi dangos bod cwiltio’n gallu gwella ein hiechyd mewn ffordd na all hyd yn oed ymarfer corfforol ei wneud – ‘improves your health in ways that even exercise can’t manage.’

Dyma ffaith ddiddorol arall: mae pobl mewn carchardai fel Brixton, Wandsworth a charchardai eraill wedi cael budd o ymwneud â gwaith cwiltio.

Dangoswch rai o’r delweddau oddi ar y wefan Fine Cell Work, os byddwch yn dymuno eu defnyddio.

Amser i feddwl

Sut byddwn ni’n treulio’r holl oriau ychwanegol hynny o’n gwyliau haf?

Cofiwch y byddan nhw wedi diflannu’n fuan oni bai ein bod yn cynllunio ac yn trefnu ein hamser i wneud y gorau o’r oriau.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Mae pob diwrnod newydd yr wyt ti’n ei roi i ni yn ddiwrnod o bosibiliadau di-ben-draw.
Helpa ni i fod yn ymwybodol o sut i ddefnyddio pob dydd mewn ffordd sy’n cyfoethogi ein bywydau ni a bywydau pobl eraill.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Chwaraewch gerddoriaeth hafaidd o’ch dewis, neu ‘In the summertime’ gan Mungo Jerry

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon