Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dod yn ôl i lawr i’r Ddaear

Dringo’r Matterhorn am y tro cyntaf

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog mabwysiadu’r syniad o gynllunio parhaus.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.
  • Chwiliwch am ddelwedd o’r Matterhorn a threfnwch fodd o’i dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Efallai yr hoffech chi chwilio am recordiad o’r gân ‘Reach’ gan Gloria Estefan i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd: Tua 150 o flynyddoedd yn ôl, ar 13 Gorffennaf yn y flwyddyn 1865, cychwynnodd saith o ddringwyr o Zermatt yn y Swistir. Roedden nhw'n paratoi i ddringo i fyny'r Matterhorn (dangoswch y ddelwedd/llun), a oedd bryd hynny, y mynydd olaf o blith mynyddoedd yr Alpau oedd eto heb ei ddringo ac yn her i ddringwyr allu cyrraedd ei gopa.

Darllenydd 1: Roedd y criw hwn o saith - pedwar Sais, yn cael eu harwain gan Edward Whymper, arlunydd a darlunydd papur newydd, ynghyd â thri thywysydd lleol - mewn ras yn erbyn criw arall. Roedd Jean-Antoine Carrel, cyn gymar dringo Whymper, a'i griw wedi cychwyn o ochr y mynydd a wynebai'r Eidal, gyda'r un amcan yn eu meddyliau. Fel brodor o’r Eidal, roedd Carrel eisiau i'r esgyniad cyntaf i ben y Matterhorn fod o ddyffryn ei gartref yn hytrach nag o ochr y mynydd a wynebai'r Swistir.

Darllenydd 2: Fe wnaeth criw Whymper gynnydd cyflym, gan wersylla mewn pebyll yn uchel ar y grib erbyn y prynhawn hwnnw, ac roedd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw archwilio'r llethrau uwch eu pennau, a oedd yn ymddangos i’r criw fel pe na bydden nhw'n achosi fawr o drafferth iddyn nhw.

Ar doriad gwawr ar 14 Gorffennaf, cychwynnodd y dynion unwaith eto ar eu taith, ac ymhen dim amser roedden nhw ar yr ysgwydd eira olaf. Douglas Hadow, yr aelod oedd â lleiaf o brofiad ymhlith y dringwyr, oedd yr unig un i gael unrhyw drafferth gyda'r llwybr.

Darllenydd 1: Yn fuan roedd y cyfan o'r saith dringwr yn sefyll ar y copa. Wrth edrych i lawr, roedden nhw'n gweld eu gwrthwynebwyr o'r Eidal yn parhau i ddringo tua 200 metr oddi tanyn nhw. Ond, mewn ymddygiad hollol groes i ymddygiad chwarae teg, fe ddechreuodd  Whymper a'i gymdeithion daflu cerrig i lawr at y lleill, gan orfodi Carrel a'i griw i gilio i lawr y mynydd.

Darllenydd 2: Cyflawnwyd y nod. Ar ôl treulio awr yn mwynhau'r olygfa, daeth yn amser i'r saith gychwyn i lawr y mynydd yn hamddenol.

Arweinydd: Mae'n deimlad braf gallu cyflawni uchelgais yr ydym wedi bod yn gweithio tuag ati am beth amser. Bydd yr holl dyndra a'r ymdrech yn llithro oddi ar ein hysgwyddau a byddwn yn gallu mwynhau'r cyfan o'r gorfoledd sy'n ynghlwm wrth ddathlu’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni. Rwy'n tybio mai felly roedd Edward Whymper a'i gymdeithion yn teimlo wrth iddyn nhw ddechrau mynd i lawr ar hyd yr ysgwydd eira esmwyth.  Fodd bynnag, yn fuan fe ddechreuodd pethau fynd o chwith.

Darllenydd 1: Doedd y ffordd i lawr yn ddim rhwyddach i Hadow na'r rhannau hynny oedd yn peri trafferth iddo ar y ffordd i fyny. Yn wir, fe ymdrechodd gymaint fel bu’n rhaid i un o'r tywysyddion roi ei gaib eira o'r neilltu, mewn un man, a helpu i osod traed Hadow yn y troedleoedd fesul un.


Darllenydd 2: Yn sydyn, llithrodd Hadow a hyrddiodd i mewn i'r tywysydd, a chafodd hwnnw ei ysgubo oddi ar ei draed ac, wrth gwrs nid oedd ganddo gaib eira i arafu ei godwm. Tynnodd pwysau'r ddau ddringwr a oedd yn cwympo, ddau aelod ychwanegol o'r grwp oddi ar eu traed oherwydd eu bod i gyd wedi eu clymu ynghyd â'r un rhaff, a bwriwyd y pedwar oddi ar y grib. Daliodd Whymper a'r ddau dywysydd oedd ar ôl eu gafael mewn craig yn yr ymgais i ddal pwysau'r pedwar dringwr oedd yn cwympo, ond torrodd y rhaff a oedd yn cadw'r ddau grwp gyda'i gilydd.

Darllenydd 1: Edrychodd Whymper mewn braw wrth i'w bedwar cydymaith gael eu hysgubo ymaith o'r golwg, ac yna ddisgyn i lawr dros fil o fetrau o rew a chreigiau i'w marwolaeth.

Arweinydd: Beth allwn ni ei ddweud am gyflawniad Whymper? Nid oes amheuaeth mai ef oedd Arweinydd y criw cyntaf i ddringo i gopa'r Matterhorn, ond faint o werth sydd i'w lwyddiant? O leiaf, fe oroesodd criw Carrel i ddringo rhyw dro eto.

Gadewch i ni fynd yn ôl am funud at y teimladau yr oeddem yn eu hystyried yn gynharach pan oedd y dringwyr wedi cyrraedd y copa. Mae llwyddiant yn rhywbeth ardderchog, ond mae bob amser yn rhywbeth dros dro. Allwn ni ddim aros am byth ar ben y mynydd. Mae hi'r un fath pan fydd ein tîm yn ennill tlws, pan fyddwn ni'n llwyddo mewn prawf, pan fyddwn yn rhannu ein cusan gyntaf oll, pan fydd cystadleuwyr yn ennill medal aur, neu pan fyddwn yn cwblhau taith gerdded noddedig. Bydd tlws arall ar gael tymor nesaf. Mewn ychydig wythnosau bydd prawf newydd. Efallai y bydd perthynas newydd sydd angen llawer o sylw a gofal. Mae ymgeisydd newydd ar gael bob amser sy’n dymuno bod yn bencampwr a, phan fydd y pothellau wedi gwella, bydd ein traed yn ysu i fynd ymlaen unwaith yn rhagor.

Credir bod dau ffactor i gyfrif am fethiant Whymper i ddwyn y cyfan o'i griw i lawr yn ddiogel. Yn gyntaf, roedd aelod gwan ymysg y dringwyr a gafodd ei gynnwys yn y tîm. Dim ond ar argymhelliad un o'i ffrindiau y gwahoddwyd Hadow ar y ddringfa. Yn ail, roedd y darn o raff oedd yn cysylltu'r ddau grwp o ansawdd israddol na fyddai byth wedi gallu dal y pwysau a roddwyd arni'r diwrnod hwnnw. Ni ddylid bod wedi ei defnyddio o gwbl. Pe na fyddai Hadow wedi bod ar y ddringfa a phe byddai'r rhaff gryfaf wedi cael ei defnyddio, yna fe fyddai Whymper yn arwr y Matterhorn am byth. Yn lle hynny, cafodd ef a'r ddau dywysydd a oroesodd eu beirniadu, a hyd yn oed eu herlyn, yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd.

Amser i feddwl

Arweinydd:Felly, beth mae hyn yn ei awgrymu i ni?

Darllenydd 1:Rydw i’n meddwl y dylem ni fod yn ofalus iawn wrth benderfynu cyngor pwy rydyn ni am ei gymryd. Mae llawer o bobl – ffrindiau, aelodau o’n teulu, athrawon a hyfforddwyr – sy’n fwy na pharod i reoli ein bywyd. Efallai y dylem wrando’n ofalus a boneddigaidd ar bob un, ond, yn y diwedd, ofalu ein bod yn gwneud ein penderfyniad ein hunain.

Darllenydd 2:Rydw innau’n meddwl y dylem ni gynllunio o flaen llaw. Beth ydyn i eisiau ei wneud y tu draw i’n huchelgeisiau presennol? Beth fydd yn ein harfogi yn y ffordd orau ar gyfer cyflawni hynny? A yw rhai pynciau’n fwy perthnasol nag eraill? A yw rhai perthnasoedd yn fwy iach na pherthnasoedd eraill? A yw’r ffordd rydyn ni’n treulio ein hamser yn mynd i fod o fudd i ni yn y dyfodol?

Arweinydd:Gadewch i ni ystyried y syniadau hyn wrth i ni weddïo.

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y profiad o lwyddiannau mawr a bach.
Gad i ni adeiladu ar bob llwyddiant a pheidio â gadael i ni ein hunain lithro’n ôl.
Gad i ni dderbyn cyngor doeth a gwneud cynlluniau da ar gyfer y dyfodol.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Reach’ gan Gloria Estefan

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon