Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth mae’n ei olygu i fod yn gymuned?

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae cymunedau’n cydweithio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Clapping Music' gan Steve Reich neu 'Geographical Fugue' gan Ernst Toch
  • Chwaraewch y gerddoriaeth hon wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Tybed oeddech chi’n gwrando ar y gerddoriaeth wrth i chi ddod i mewn i’r gwasanaeth? Roedd y band neu’r gerddorfa’n cyd weithio ac yn chwarae eu holl rannau ar yr adeg iawn yn y drefn iawn. Gwrandewch ar y darn hwn o gerddoriaeth (chwaraewch naill ai’r gerddoriaeth gan Toch neu’r gerddoriaeth gan Reich).

  2. Beth fyddai’n digwydd pe byddai un o’r cerddorion yn penderfynu canu eu hofferynnau mewn ffordd wahanol, neu’n colli curiad, neu’n peidio am sbel? Fe fyddai’r darn yn dod i stop efallai, neu’n methu’n llwyr. Mae’r bobl hyn yn gweithio gyda’i gilydd er lles pawb. Maen nhw’n gweithio fel ‘cymuned’.

  3. Caiff cymuned ei diffinio fel grwp o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd er diddordeb cyffredinol, ac felly fe fyddai cerddorfa, band ac, ie, ysgol yn gymunedau. Mae pawb, gobeithio, i gyd yn gweithio gyda’i gilydd ac yn gweithio tuag at nod cyffredin.

  4. Meddyliwch am dîm pêl-droed, neu unrhyw fath o dîm chwaraeon. Fe fydd aeloda’r tîm yn gweithio gyda’i gilydd i ennill eu gêm. Ni fyddai o unrhyw werth pe bai un o’r tîm yn penderfynu peidio â chwarae oherwydd eu bod heb amynedd i wneud hynny, neu hyd yn oed pe bydden nhw’n gweithio yn erbyn cyd-aelodau eu tîm. Mae’n rhaid i’r ‘gymuned’, sef y tîm, weithio gyda’i gilydd os am amcanu i ennill neu hyd yn oed i chwarae’r gêm yn iawn. Yn yr un modd, mae’r ysgol yn gymuned, gyda phawb, gobeithio, yn gweithio tuag at gyflawniad ac addysg y naill a’r llall, pa un ai a ydyn nhw’n athrawon neu’n ddisgyblion. Y syniad yw y dylai pawb allu dibynnu ar y naill a’r llall i wneud eu rhan, gwneud eu gwaith yn y gobaith o allu cyrraedd y canlyniad gorau bosib i’r cyfan.

  5. Gyda’r grefydd Sikhiaeth, mae’r gymuned Sikh yn cael ei galw’n Khalsa. Mae ffurf y gymuned yn ffordd ddiddorol o feddwl ynghylch beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r gymuned, a hefyd am yr hyn mae pobl yn barod i’w wneud ac i’w roi er budd eu cymuned. (Fe allech chi drefnu i rai o’r plant actio’r senario a ganlyn.) Guru Gobind oedd arweinydd y Sikhiaid ar y pryd ac, yn ystod cyfarfod mawr pwysig ar gyfer gwyl, fe safodd Guru Gobind ar lwyfan gan ofyn a oedd unrhyw un yn barod i farw dros ei ffydd. Fe gamodd un dyn ymlaen, fe’i harweiniodd i babell ac ymhen ychydig fe ddaeth Guru Gobind allan o’r babell gyda gwaed ar ei gleddyf. Fe ofynnodd eto am rywun a oedd yn barod i farw dros ei ffydd, a phedair gwaith wedyn fe ddigwyddodd yr un peth, fe ddaeth rhywun ymlaen o’i wirfodd ato. Bob tro yr aeth pob un i mewn i’r babell ddaeth neb allan wedyn gyda’r guru, a phob tro y byddai’r guru’n dod yn ei ôl ar y llwyfan fe fyddai gwaed yn diferu oddi ar ei gleddyf. Roedd pawb a oedd yn bresennol, ac yn gweld hyn, yn credu bod y guru wedi lladd y pum dyn dewr. Ond fe ddatgelodd y guru'r pum dyn iddyn nhw - yn fyw ac yn iach, wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd lliw oren, ac fe alwodd y pump yn ‘pans piare’, y pump bendigaid. Y dynion arbennig hyn oedd dechrau’r Khalsa, y gymuned Sikhaidd. O’r adeg honno, fe fyddai pob Sikh gwryw yn cael ei alw’n Singh, sy’n golygu llew, a phob benyw yn cael ei galw’n kauri neu dywysoges. Roedd Guru Gobind wedi creu’r Khalsa, y gymuned o Sikhiaid.

  6. Roedd Guru Gobind Singh wedi creu cymuned a oedd wedi ei huno ynghyd, ond roedd yn seiliedig ar ddewrder ychydig rai, a dyna oedd sylfaen y Khalsa. Fe luniodd Guru Gobind Singh ei gymuned o bobl oedd yn fodlon marw dros eu ffydd. Nawr, mae hon yn enghraifft go eithafol. Ond i raddau fe allai hyn fod yn wir am unrhyw gymuned heddiw - bod angen i bobl roi’r cyfan, gwneud eu gorau a chydlynu er mwyn i’r gymuned fod yn wir abl i weithio gyda’i gilydd.

Amser i feddwl

Sut rydych chi’n meddwl y gallech chi wneud eich gorau yn eich cymunedau chi? Eich timau, eich grwpiau, a hyd yn oed gyda’ch ffrindiau ac aelodau eich teulu?

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon