Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Frozen 1: Cadw pethau i chi eich hunan

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Edrych ar yr enghraifft o Elsa yn y ffilmFrozen (Disney) a gweld lle yn ein bywydau ein hunain y gallai cadw problemau i ni ein hunain fod yn niweidiol.

Paratoad a Deunyddiau

Chwaraewch y gerddoriaeth ‘Let It Go’ wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Rwy’n hollol siwr eich bod i gyd yn gwybod yn union o ba ffilm y daw’r gân rydych chi newydd ei chlywed heddiw. Mae’r ffilm Frozen gan Disney wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Ond tybed ydych chi wedi ystyried beth allai un o'r negeseuon yn y ffilm fod, sef nad yw cadw problemau ynghudd, a chadw pethau i chi eich hunan, yn beth da bob amser. Nid yn unig bod hynny’n brifo eich teimladau chi eich hunan; fe allai hyd yn oed eich gwneud chi’n sâl, ond fe all hefyd arwain at niweidio eich perthnasoedd â phobl eraill.

  2. Mae Elsa’n cael cyngor i, 'Conceal, don't feel'  ei phwerau, a cheisio’u rheoli. Ond yn hytrach, mae’n dechrau ofni ei phwerau ei hunan fwyfwy, ac felly’n methu â’u cadw dan ei rheolaeth. Am ei bod yn cadw’r pethau hyn ynghudd doedd hi ddim yn deall popeth ynghylch ei phwerau nac at ba ddibenion yr oedd modd eu defnyddio. Fe ddysgodd eu gweld fel pethau a oedd yn gallu niweidio a dinistrio yn hytrach na bod yr un peth a oedd yn ei gwneud hi’n wahanol i bawb arall.

  3. Tybed ydych chi, ryw dro, wedi ceisio dilyn cyngor fel hwnnw: 'Conceal, don't feel'? Mae’n siwr eich bod wedi ymdrechu i wneud hynny ryw dro, ac o bosib wedi llwyddo. Pa un ai achos o ddicter, rhwystredigaeth, neu hyd yn oed ddagrau oedd eich achos chi bryd hynny, rwy’n siwr bod adegau pan wnaethoch chi feddwl mai’r ffordd orau o ddelio â’r sefyllfa oedd peidio â datgelu sut roeddech chi’n teimlo. Mae rhai pobl yn claddu eu hemosiynau am flynyddoedd lawer. Er enghraifft, rwy’n adnabod rhywun a gadwodd deimladau dwfn iawn am dros dair degawd. Yn y pen draw, fe sylweddolodd na allai gadw’r cyfan iddo’i hun ddim mwy, ond doedd hynny ddim cyn iddo fynd yn sâl iawn, iawn. Fe welwch chi, fe y gwyddom ni trwy gyfrwng stori Elsa, bod cuddio ein teimladau, yn enwedig rhai dwfn a chryf iawn, yn golygu na allwn ni fod yn ni ein hunain go iawn.

  4. Yn hanes meddygaeth, roedd pobl yn credu fod y corff wedi ei wneud o wahanol anianau neu hwyliau oedd yn cael eu galw’n ‘humours’. Ac roedd yr anianau hyn yn cael effaith ar dymer yr unigolyn a’r ffordd y byddai ef neu hi’n ymddwyn. Os byddai’r hwyliau’n anghytbwys, yna roedd yn rhesymol credu y byddai elfennau neilltuol o’ch tymer a’ch personoliaeth yn cael eu heffeithio. Y nod oedd cael cydbwysedd iawn yn yr hwyliau ac fe fyddech chi’n iawn wedyn. Erbyn hyn, diolch i ddatblygiad gwyddoniaeth feddygol, rydyn ni’n gwybod nad oes gennym y fath bethau â ‘humours’. Ond rwy’n meddwl bod Nicholas Culpepper, y dyn a wnaeth lawer o waith yn y maes hwn yn y bymthegfed ganrif, wedi bod yn bur agos i’w le – os oes rhywbeth yn anghytbwys ynghylch eich corff, neu os ydych chi’n cadw i mewn rywbeth a ddylai gael ei wneud yn amlwg. Dyma un rheswm pam roedd pobl yn yr hen amser yn gadael i rywfaint o waed y corff redeg allan fel y byddai modd ail greu cydbwysedd yn y corff. Yn eu ffordd syml ac elfennol iawn, roedden nhw’n sylweddoli bod cadw rhywbeth i mewn yn effeithio ar y corff a’r ffordd yr oedd y corff yn gweithio.

  5. Fe ddywedodd Shakespeare, 'Tis the mind that makes the body rich' (yn y ddrama Taming of the Shrew), ac mae hynny’n wir, ond fe all hefyd wneud y corff yn sâl. Yn Guys and Dolls, mae’r cymeriad Adelaide yn canu cân am sut mae annwyd arni’n barhaus am fod Nathan, ei chariad hirdymor yn gwrthod ei phriodi; mae’n dweud bod ganddi symptomau seicosomatig, sy’n anodd eu dioddef - 'psychosomatic symptoms, difficult to endure'. Yn y bôn, mae hi'n sylweddoli bod yr hyn sy'n digwydd yn ei hymennydd yn effeithio ar ei hiechyd. Mae angen iddi hi anghofio am hyn, neu briodi Nathan yn y pen draw. Beth bynnag, y peth y  mae’r ddau ddyfyniad yn ei bwysleisio yw nad yw cadw eich meddyliau i chi eich hunan yn beth da.

  6. Efallai eich bod yn gwybod eich hun, os na fyddwch chi’n gallu crio pan fydd rhywbeth trist yn digwydd i chi, efallai y bydd rhywbeth arall yn gwneud i chi grio maes o law. Efallai y byddwch wedi cadw popeth i chi eich hunan ac yna fe fydd rhywbeth bach sy’n ymddangos yn ddibwys yn tarfu arnoch chi ac yn peri i chi golli rheolaeth. Mae dywediad Saesneg sy’n darlunio hyn, sef 'the straw that broke the camel's back'. Ac felly y mae pethau yn achos Elsa. Mae’n cadw ei theimladau i gyd nes ei bod yn methu eu cadw ddim mwy; mae ei hymdrech fewnol yn dod yn rhywbeth allanol wrth iddi greu gaeaf tragwyddol, anghenfil a storm enbyd.

Amser i feddwl

Beth sydd gan Elsa i’w ddweud wrthym ni, ar wahân i 'Let it go'?

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o sut rydych chi’n teimlo, er mwyn cydnabod eich teimladau, ond peidio â gadael iddyn nhw eich gwneud chi’n garcharor. Wedi’r cyfan, allwn ni i gyd ddim mynd ag adeiladu cestyll rhew enfawr, allwn ni?

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon