Camu i’r Anadnabyddus – Gwasanaeth Ysgol Newydd/Dosbarth Newydd
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Defnyddio hanes y daith gyntaf i’r gofod er mwyn archwilio sut i ffynnu pan fyddwn ni’n cael ein hunain mewn sefyllfaoedd newydd
Paratoad a Deunyddiau
- Tafluniwch rai lluniau o’r dynion yn cerdded yn y gofod oddi ar y wefan www.bbc.co.uk/news/special/2014/newsspec_9035/index.html
- A/neu’r ffilm fer ganlynol:
- Nodwch: Bydd yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain yn lansio arddangosfa bwysig ynghylch llongau gofod ac arteffactau Sofietaidd ym mis Medi 2015. Gwelwch www.sciencemuseum.org.uk/.
Gwasanaeth
- Eglurwch i’ch cynulleidfa, ychydig dros hanner can mlynedd yn ôl, ar 18 Mawrth 1965, fe basiwyd carreg filltir neilltuol iawn yn hanes y ddynoliaeth. Roedd y person cyntaf i deithio yn y gofod, Yuri Gagarin, wedi gwneud hynny bedair blynedd cyn hynny yn y flwyddyn 1961; roedd Valentina Tereshkova, y ddynes gyntaf i deithio yn y gofod, wedi gwneud hynny yn y flwyddyn 1963, ac yn awr tro Alexi Leonov a Pavel Belyayev oedd hi. Ond fe fyddai eu ehediad nhw'n wahanol. Roedd ymgais i wneud rhywbeth hollol newydd ar fin cael ei gweithredu.
- Alexi fyddai'r person cyntaf i adael diogelwch cymharol y Voskhod, y llong ofod i ddau berson, ac fe fyddai’n arnofio'n rhydd yn y gofod.
- Cysylltwyd aerglo arbennig i ochr y llong ofod er mwyn caniatáu iddo adael heb ollwng y cyfan o'r ocsigen, felly arnofiodd i’r twnnel, fe gaeodd orddrws y llong ofod o'i ôl, gadael i'r ocsigen yn y twnnel ddianc ac agor y gorddrws allanol. Arnofiodd Alexi Leonov i wactod y gofod gyda'i wisg-ofod denau yn unig i'w ddiogelu.
- Dangoswch y ffilm os yw hi gennych chi, neu defnyddiwch yr addasiad hwn o’i eiriau fel a ganlyn:
‘Roedd yn deimlad anghyffredin. Doeddwn i erioed wedi teimlo'n debyg i hyn o'r blaen. Roeddwn yn rhydd uwchben y blaned Daear ac roeddwn yn gallu gweld ei bod yn troelli'n fawreddog oddi tanaf.’ - Bu'r fenter yn llwyddiant ysgubol a dychwelodd Alexi a Pavel yn ddiogel i'r Ddaear . . . neu o leiaf dyna sut yr adroddodd yr Undeb Sofietaidd gyfrinachol am y digwyddiad ar y pryd! Mewn gwirionedd roedd y fenter wedi bod yn agos at fod yn drychineb sawl tro.
Fe wnaeth gwisg-ofod Alexi chwyddo fel balwn yng ngwactod y gofod ac ni allai ddychwelyd i'r aerglo yn dilyn ei gerddediad deuddeg munud yn y gofod. Mewn anobaith, fe ollyngodd beth o'r aer o'i wisg er mwyn ei gwneud yn llai swmpus ond yna dechreuodd golli’r teimlad yn ei gorff! Cafodd yr hyn a elwir ‘y benz’, sydd hefyd yn adnabyddus fel salwch datgywasgiad, y mae deifwyr ar y ddaear yn hen gyfarwydd ag ef.
Fe lwyddodd i lusgo'i hun yn ôl trwy fynd â'i ben yn gyntaf i mewn i'r twnnel cul, ond yna roedd yn rhaid iddo droi rownd yn yr aerglo er mwyn cau'r gorddrws. Roedd wedi ymlâdd bron yn llwyr pan gyrhaeddodd o'r diwedd at ei orwedd-fainc.
Ond roedd eu trafferthion ymhell o fod drosodd. Achosodd nam i lefelau ocsigen godi yn y llong ofod, gan gynyddu'r perygl o dân; fe wrthododd y system awtomatig ail-fynediad weithredu, ac ni lwyddodd capsiwl y criw i ddatgysylltu'n iawn oddi wrth weddill y llong ofod, gyda'r canlyniad eu bod yn troelli i wres tanllyd ail-fynediad. Fe wnaethon nhw lanio yn Siberia, ymhell o'r fan lle'r oedden nhw fod i lanio a gorfod treulio dwy noson mewn coedwig rewllyd gyda bleiddiaid ac eirth yn gwmni cyn iddyn nhw gael eu hachub gan gydweithwyr ar sgïau a hofrenyddion.
Ond er gwaethaf yr holl sialensiau roedden nhw wedi llwyddo - roedden nhw wedi wynebu eu trafferthion a'u gorchfygu.
Amser i feddwl
Ceisiodd dau ofodwr dewr wneud rhywbeth newydd a pheryglus.
Roedden nhw’n wynebu llawer o sefyllfaoedd annisgwyl.
Bu’r hyfforddiant yr oedden nhw wedi ei gael, eu meddwl chwim, a’u gallu i beidio â chynhyrfu yn gyfrwng, yn eu hachos nhw, i achub y dydd.
Fe allwn ni ddysgu o'u profiad nhw pan fyddwn ni’n wynebu heriau newydd. Fe allwn ni baratoi yn dda, fe allwn ni fod yn barod, ac fe allwn ni benderfynu y gallwn ni ddod o hyd i ffordd drwodd i lwyddiant pa anawsterau bynnag y byddwn ni’n eu hwynebu.
Cerddoriaeth
‘Thus Spake Zarathustra’ – dewisiad ychydig yn ‘dila’ efallai, ond ysbrydoledig
Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.