Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
Wedi eu huno ag angerdd cyffredin
gan Helen Gwynne-Kinsey
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Dod i well dealltwriaeth o rai agweddau ar addoliad Cristnogol drwy eu cymharu â chamau gweithredu ac emosiynau a deimlir gan chwaraewyr Undeb Rygbi a chefnogwyr yn ystod gemau prawf rhyngwladol.
Paratoad a Deunyddiau
- Nodwch fod y gwasanaeth hwn wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa Gymreig, ond gellir ei addasu'n hawdd i weddu i unrhyw un o'r gwledydd cartref.
- Trefnwch eich bod yn gallu dangos pobl yn canu anthem genedlaethol Cymru yn ystod gêm rygbi. Er enghraifft: www.youtube.com/watch?v=AM4mIlYKG9s
- Cynlluniwch o flaen llaw i grwp o ddisgyblion ddod â sgarffiau rygbi i’r gwasanaeth, a byddwch yn gofyn i’r disgyblion ddal y sgarffiau i fyny a’u chwifio yn ôl ac ymlaen.
Gwasanaeth
- Fe ddylai'r disgyblion sydd â sgarffiau eu dal i fyny uwch eu pennau a'u chwifio'n ôl ac ymlaen wrth ganu geiriau gwladgarol. Dylai hyn fod yn anogaeth i ddisgyblion eraill ymuno yn y canu hefyd. Pan fydd y myfyrwyr wedi eistedd yn eu seddau, dechreuwch y gwasanaeth.
Fe ddylai fod yn eithaf amlwg i lawer ohonoch fod un o'r digwyddiadau chwaraeon pwysicaf a gynhelir yn flynyddol yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon ar fin (neu wedi) dechrau. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gyfle i brif chwaraewyr Rygbi'r Undeb o Gymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal i chwarae yn erbyn ei gilydd er mwyn dangos pwy yw'r tîm gorau.
Pan fydd pobl yn dod ynghyd i gefnogi eu tîm cenedlaethol maen nhw ynghlwm wrtho ag angerdd cyffredinol, gan ddangos hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Byddwch wedi sylwi fod rhai o'ch ffrindiau wedi dod â'u sgarffiau heddiw, sydd yn cael eu chwifio â balchder fel arwydd o'u ffyddlondeb i dîm Cymru.
Yn yr un modd, pan fydd y tîm cartref yn sgorio cais neu’n cael cic gosb bydd eu cefnogwyr yn codi ar eu traed, yn codi eu dwylo i fyny, ac yn dathlu. Dyna fendigedig yw'r teimlad y mae rhywun yn ei gael o fod yng nghwmni rhai sydd â'r un meddylfryd â chi, ac sy'n gallu synhwyro llawenydd yr achlysur, a theimlo angerdd dros yr achos. - Mae canu'n rhan bwysig iawn mewn gemau rygbi. Bydd lleisiau syn canu ynghyd yn creu awyrgylch arbennig iawn sy’n cael ei throsglwyddo i'r chwaraewyr. Mae hynny'n eu hatgoffa fod y dorf o'u plaid, ac yn eu hannog i chwarae eu gorau. Un o'r caneuon pwysicaf mewn gêm rygbi yw'r anthem genedlaethol. Edrychwch ar y rhan o fideo sy'n dilyn, a sylwch sut mae'r anthem yn cyffwrdd teimladau ac yn uno'r chwaraewyr ar ddechrau'r gêm.Dangoswch y fideo a'r rhan lle mae anthem genedlaethol Cymru yn cael ei chanu gan aelodau o dîm Cymru.
- Os buoch chi erioed mewn gêm rygbi ryngwladol, ac wedi canu gydag eraill â'ch calon yn llawn o lawenydd, yn unedig â'r un angerdd ynghylch buddugoliaeth, yn sefyll a chodi eich dwylo i fyny, yna fe fyddwch wedi cael yr un profiad ag y mae Cristnogion yn ei gael mewn addoliad.
- Pan fydd Cristnogion yn dod ynghyd i addoli, mae hynny'n digwydd ag un bwriad cyffredin. Maen nhw'n unedig yn eu cariad tuag at Dduw, ac fe fyddan nhw’n mynegi'r cariad hwn trwy ganu, codi dwylo a bod yn unedig.
Amser i feddwl
Gwyliwch y clip o anthem genedlaethol Cymru unwaith eto, ac yna treuliwch foment mewn distawrwydd ar y diwedd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
gad i'r undod, y llawenydd a’r cryfder a deimlwn pan fyddwn yn unedig dros achos cyffredin fod yn rhywbeth sy'n parhau gyda ni trwy fywyd bob dydd.
Helpa ni i gefnogi ei gilydd fel cymuned ysgol, ac i ddangos ein teyrngarwch a’n hymroddiad bob amser.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.