Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ydi'r label yn ffitio?

Dosbarthu a chategoreiddio

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio'r duedd i stereoteipio pobl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
  • Dewch o hyd i ddelwedd o ran o Fap Tlodi Charles Booth, yn dangos rhan o Lundain, a threfnwch fod gennych chi’r modd o’i arddangos yn ystod y gwasanaeth. Os yn bosibl, dewiswch un sy'n dangos amrywiaeth eang o ddosbarthiadau lliw.
  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r fideo TrueTube 'Black to Yellow' gan Chris Lamontagne a’r modd o’i arddangos yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para 3.11 munud (www.youtube.com/watch?v=mtPkt2ccsdY)
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Melting Pot’ gan Blue Mink, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd: Pa liw ydych chi?

Darllenydd 1: Ydych chi’n ddu?

Darllenydd 2: Glas tywyll?

Darllenydd 1: Ydych chi’n las golau?

Darllenydd 2: Porffor?

Darllenydd 1: Ydych chi’n binc?

Darllenydd 2: Coch?

Arweinydd: Ydych chi’n felyn? Mae’n amlwg, nad sôn am grwpiau hiliol ydyn ni, na pha dîm pêl-droed rydych chi’n ei gefnogi. Rydyn ni’n cyfeirio mewn gwirionedd at gyfres o fapiau a gynhyrchwyd rhwng 1886 a 1903, gan luniwr mapiau o’r enw Charles Booth.

Dangoswch y ddelwedd o Fap Tlodi Charles Booth.

Mae'r mapiau hyn yn cwmpasu llawer o ardaloedd canol Llundain ac yn hawlio eu bod yn dangos y math o bobl a oedd yn byw ym mhob ardal. Mae'r lliwiau yn cynrychioli gwahanol grwpiau o bobl.

Darllenydd 1: Mae du’n arwyddo’r dosbarth isaf, sydd, yn ôl y map sy’n ddosbarth o bobl sy’n filain ac sy’n troseddu’n aml.

Darllenydd 2: Mae’r lliw glas tywyll yn nodi’r rhai sy’n dlawd iawn. Dyma bobl sydd ddim ond yn gweithio’n ysbeidiol, ac sydd mewn angen yn barhaus.

Darllenydd 1: Mae’r glas golau’n cynrychioli rhai sydd ddim ond yn dlawd.

Darllenydd 2: Mae porffor yn arwyddo cymuned gymysg. Mae rhai’n gyfforddus, eraill yn dlawd.

Darllenydd 1: Mae pobl y rhannau sydd wedi eu dynodi’n binc yn weddol gyfforddus eu byd, gydag enillion cyffredin da.

Darllenydd 2: Mae’r rhannau coch yn nodi’r bobl dosbarth canol, y rhai sy’n dda eu byd.

Arweinydd: Yn olaf, mae grwp melyn  - y dosbarthiadau canol ac uwch - y bobl gyfoethog. Fe allwch chi weld ar y map fod y lliwiau yn newid weithiau o stryd i stryd. Pe byddech chi’n digwydd bod yn byw dim ond pellter byr i'r cyfeiriad anghywir, yna rydych efallai wedi cael eu rhoi mewn i grwp na fyddech yn dymuno bod yn rhan ohono.

Roedd pwrpas i'r map. Ei fwriad oedd helpu gyda llywodraeth leol, fel bod gwasanaethau priodol yn gallu cael eu darparu. Ond fe wnaeth gam, fodd bynnag, â llawer o bobl dda Llundain a oedd yn gweithio’n galed, ac yn byw bywyd gonest a moesol. Y broblem oedd bod y map yn ceisio rhoi pobl mewn grwpiau. Ond dim ond fesul unigolyn y gellir trin pobl, neu o leiaf fesul teulu.

Darllenydd 1: O fewn y strydoedd a oedd wedi eu lliwio’n ddu, mae’n ddiau fod llawer o bobl a oedd yn garedig yn hytrach na dieflig, ac a oedd yn onest yn hytrach na bod yn droseddol mewn unrhyw ffordd.

Darllenydd 2: O fewn yr ardaloedd glas tywyll, mae’n debyg y byddai pobl a oedd o ddifrif, efallai, â’u holl egni’n ceisio dal swyddi rheolaidd.

Darllenydd 1: Pwy a wyr nad oedd y strydoedd a oedd wedi eu marcio’n goch efallai’n cuddio llawer o gyfrinachau - dynion busnes a oedd bron â bod yn fethdalwyr, neu deuluoedd yn byw mewn dyledion.

Darllenydd 2: Roedd hyd yn oed y strydoedd melyn yn cuddio llawer o deuluoedd a oedd yn dal i fyw ar ysblander y gorffennol.

Arweinydd: Efallai mai dim ond y lliw porffor sy’n asesiad gonest - cymuned gymysg gyda rhai pobl ar eu ffordd i fyny ac eraill ar eu ffordd i lawr.

Meddyliwch am foment ynghylch ble’r ydych chi. Beth am aelodau eich dosbarth yn yr ysgol? Sut byddech chi’n eu dosbarthu nhw?

Darllenydd 1: Dyna’r grwp sy’n dda ym myd chwaraeon - yn ffit ac yn iach.

Darllenydd 2: Ac yna, fe gewch chi’r gîcs, sydd bob amser yn siarad am waith ysgol ac am hobïau anghyffredin.

Darllenydd 1: Dyna’r rhai eraill sydd eisiau bod yn ffasiynol, ac yn aml yn ceisio ystumio rheolau’r ysgol ynghylch gwisg ysgol.

Darllenydd 2: Ac mae gennych chi’r rhai hynny sydd ddim ond yn dilyn beth mae pobl eraill yn ei wneud, a byth yn gwneud penderfyniadau drostyn nhw’u hunain.

Arweinydd: Mae’n siwr y gallech chi ychwanegu nifer o grwpiau eraill. Efallai y byddech chi’n cael eich temtio i roi eu lliwiau nodedig eu hunain iddyn nhw. Fe fyddai hynny’n union yr un peth ag a wnaeth Charles Booth gyda’i Fap Tlodi.

Y broblem yw, wrth i chi wneud hynny, rydych chi’n anwybyddu’r ffaith bod pob unigolyn yn eich dosbarth yn unigryw ac yn meddu ar ddoniau nodedig a chyda gwahanol obeithion ac ofnau, ac yn hoffi gwahanol bethau. Fe allai rhywfaint o’r rhai sy’n dda mewn chwaraeon fod yn ansicr mewn perthnasoedd personol, neu efallai eu bod yn ei chael hi’n anodd astudio yn ogystal â datblygu eu sgiliau ym myd chwaraeon. Efallai mai dim ond cuddio y tu ôl i’w dillad y mae’r rhai ffasiynol, a’u bod yn ofni dangos uchelgais rhag ofn i rywun eu gwawdio. Ac yn achos y rhai sy’n dilyn eraill, pe byddech chi’n gofyn eu barn, pwy a wyr na allen nhw ddangos y ffordd orau ymlaen wedi’r cyfan, dim ond eu bod yn arweinwyr tawel. Does dim dau gîc yr yn fath ychwaith. Mae gan bob un ei angerdd ei hun neu gyfuniadau o deimladau unigol. Ac mae’n bosib iawn nad oes gan gîcs ddiddordeb o gwbl yn obsesiynau'r naill a’r llall.

Felly, os ydyn ni eisiau bod yn fanwl gywir, mae angen i ni roi ei liw unigryw ei hun i bob unigolyn, yn union fel cod bar mewn siop yn nodi pob eitem unigol.

Amser i feddwl

Rwy’n meddwl bod ffordd well o egluro'r problemau gyda stereoteipio yn cael ei chyflwyno i chi yn y fideo rydyn ni'n mynd i gael ei gweld nesaf. Mae'n ddarn o farddoniaeth perfformiad a ysgrifennwyd gan Chris Lamontagne, ac sy’n rhoi sylwadau ar arddangosfa ynghylch Map Tlodi Charles Booth yn Amgueddfa Llundain.

Dangoswch y fideo TrueTube'Black to Yellow' gan Chris Lamontagne. Mae’n para 3.11munud.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am unigoliaeth unigryw pob person.
Atgoffa ni o'r cyfraniadau mae pob un ohonom yn ei wneud i'n cymuned.
Boed i ni roi i’r naill a’r llall y gwerth yr ydym i gyd yn haeddu.
Amen.

Cerddoriaeth

Chwaraewch y gân ‘Melting Pot’ gan Blue Mink

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon