Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim i'w ofni

Ystyried a yw ein hofnau mewn gwirionedd yn rhai go iawn ai peidio.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried a yw ein hofnau mewn gwirionedd yn rhai go iawn ai peidio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ychydig o ddelweddau o Franklin D. Roosevelt a'i wraig Eleanor, a threfnwch fodd o’u harddangos yn ystod y gwasanaeth (dewisol).
  • Dewiswch gerddoriaeth heddychlon, a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. 'Yr unig beth sydd raid i ni ofni yw ofn ei hun.' Dyma gyfieithiad o ddyfyniad allan o anerchiad agoriadol y cyn-arlywydd Americanaidd, Franklin D. Roosevelt. Ef oedd yr arlywydd ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Ei union eiriau oedd, 'the only thing we have to fear is fear itself’.
  2. Rwy'n dymuno ystyried y dyfyniad hwn heddiw ac edrych ar yr hyn roedd Franklin D. Roosevelt yn ei olygu wrth ddweud hyn. Aeth ymlaen i ddweud ar ôl hyn bod galw ofn yn 'ddienw, afresymol . . .  Yn parlysu'. Rwy'n meddwl bod gan Roosevelt ddealltwriaeth eithaf da o ofn a'r hyn a wna i bobl, hyd yn oed i genedl. Mae'n emosiwn, yn deimlad ac eto mae'n cynnwys grym aruthrol.

  3. Fe ddywedodd Michel de Montaigne, 'nid oes yr un angerdd mor heintus ag ofn'. Meddyliwch am yr amser pan oeddech chi'n iau pan oedd pobl yn adrodd storïau ysbryd a storïau codi ofn eraill. Fe fyddech yn arswydo ac yn mynd yn ofnus iawn. Mae'r un peth yn digwydd pan fydd rhuthrad yn digwydd - bydd pobl mewn panig, wedi dychryn ac, mewn amrantiad, fe fydd gwasgiad gyda'r canlyniad y bydd pobl yn cael eu niweidio neu hyd yn oed eu lladd.

    Greddf yr yrr (herd instinct) yw’r hyn sydd ynom sy'n peri ein bod yn dilyn eraill mewn ymdrech i amddiffyn ein hunain ac osgoi'r perygl. Rydym yn ymateb yn reddfol, ond golyga hyn ein bod yn synhwyro'r ofn ac yn dueddol o ymateb iddo mewn ffordd ofnus.

  4. Daw'r gair Saesneg am 'ofn' - 'fear' o air hen Saesneg am 'drychineb' neu 'berygl'. Felly mae gwraidd y gair ei hun yn gysylltiedig â'r angen i amddiffyn ein hunain neu eraill rhag perygl neu rywbeth a all fod yn niweidiol.

    Wrth gwrs, mae ofn a'r hyn y mae pobl yn ei ofni, o bosib wedi newid dros amser. Byddai ein hynafiaid o'r canol oesoedd yn fwy na dim wedi bod yn ofni newynu o ganlyniad i fethiant eu cnydau yn hytrach nag ofni terfysgaeth, fel sy'n rhywbeth cyffredin i ni heddiw.

  5. Gall ymddangos yn rhyfedd, ond mae'n talu bod yn ofnus ar adegau oherwydd mae'n ymateb naturiol sy'n ein cadw ni'n ddiogel. Mae ofn yn ymateb hanfodol i'r hyn all fod yn berygl corfforol ac emosiynol posib. Pe na fyddem yn ei deimlo, ni fyddem yn cael ein procio i amddiffyn ein hunain, i edrych ar ôl eraill nac ymateb yn briodol i'r bygythiadau sy'n ein hwynebu. Yn yr un modd, ar adegau byddwn yn ofnus o sefyllfaoedd sydd ymhell oddi wrth rai byw-neu-farw ac yn ofni ofn ei hun. Mae fel pe byddai'n amlygu ei hun; daw yn rhywbeth sy'n real. Hynny yw, rydym yn ei ganfod fel ei fod yn real hyd yn oed os nad yw wedi digwydd hyd yn hyn, neu efallai sy'n annhebygol o ddigwydd.

  6. Rwyf am i chi'n feddwl yn awr, pe byddai ofn yn lliw, pa liw fyddai hwnnw?

    Derbyniwch ymatebion.

    A fyddai'n lliw coch am berygl, du am y tywyllwch, neu rywbeth arall?

    A oes ffurf iddo? Gall tywyllwch, er enghraifft, fod heb ffurf, fel gwagle, ond efallai bod eich ofnau’n amlygu eu hunain mewn ffyrdd eraill.

    Efallai bod gennych ofn nadroedd, efallai mai uchder sy'n codi ofn arnoch, sefyllfaoedd newydd, neu brofiadau o'r gorffennol.

    Efallai bod eich ofnau'n amlygu eu hunain fel y mae eich dychymyg yn carlamu ymlaen, yn meddwl am y gwaethaf a allai ddigwydd.

    Efallai bod ffilm arswyd, neu ddelwedd o ffilm arswyd, neu ryw ran o lyfr wedi codi ofn arnoch.

    Mae gan rai pobl ofn clowniau, dreigiau, unrhyw beth sy'n amheus neu'n annaturiol, neu hyd yn oed rhywbeth nad ydym yn gallu ei ddirnad.

    Bydd ofn marwolaeth yn uchel ar restr o bethau y mae pobl yn ei ofni. Tybed all hyn fod oherwydd nad ydym wirioneddol yn deall beth sy'n digwydd ar ôl i ni farw. Dydyn ni ddim yn gwybod, felly mae gennym ofn unrhyw ganlyniad sy'n bosib.

  7. Felly, wrth droi unwaith eto at eiriau Franklin D. Roosevelt - 'the only thing we have to fear is fear itself' - os tynnwch chi'r ofn allan o rywbeth, fe ddaw yn haws. Trwy wynebu ein hofnau, gallwn eu gweld am yr hyn ydyn nhw a cheisio eu goresgyn. Gyda llaw, un o’r prif ofnau ymysg pobl ifanc yw ofn bod yn fethiant.

Amser i feddwl

Mewn ymateb i'r ofn hwnnw rhoddaf ddyfyniad arall gan un arall o deulu Roosevelt, y tro hwn, Eleanor:

’You gain strength, courage and confidence by every experience in which you really stop to look fear in the face . . . You must do the thing you think you cannot do.’ Mewn geiriau eraill - byddwch yn derbyn nerth, dewrder a hyder trwy bob profiad sydd o ddifri yn peri i chi stopio, ac wynebu ofn . . .  Rhaid i chi wneud y peth rydych chi’n credu na allwch ei wneud.

Trwy wneud hyn, byddwch yn gweld ofn am yr hyn ydyw mewn gwirionedd - rhywbeth sy'n ein parlysu, ein niweidio ac, yn bennaf, sy'n amharu arnom ni ac ar ein gallu i symud ymlaen.

Treuliwch foment yn meddwl am yr hyn sy'n codi ofn arnoch neu sy'n achosi i chi fod yn nerfus. A yw hyn yn wirioneddol werth yr egni? Os ydyw, ym mha ffordd y gallwch baratoi eich hunan yn llawn amdano?

Cerddoriaeth

Chwaraewch y gerddoriaeth heddychlon y gwnaethoch ei dewis ar gyfer diweddu’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon