Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mater o gerddoriaeth

Dangos sut mae cerddoriaeth yn effeithio arnom fel unigolion a chymunedau.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dangos sut mae cerddoriaeth yn effeithio arnom fel unigolion a chymunedau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch ddarn o gerddoriaeth adnabyddus a darn arall o gerddoriaeth sydd heb fod mor adnabyddus, a threfnwch fodd o chwarae’r ddau ddarn yn y mannau priodol yn ystod y gwasanaeth. Hefyd, dewiswch ddau ddarn arall o gerddoriaeth a fydd yn ysgogi emosiynau hollol wahanol i’w gilydd, fel un sy’n cyfleu teimlad o dyndra neu ofn (fel byddwn ni’n ei deimlo wrth glywed y gerddoriaeth thema o olygfa’r gawod yn y ffilm Psycho, er enghraifft) ac yna un sy’n cyfleu teimlad heddychlon a thawel.
  • Os yw’r gwasanaeth hwn i fod yn wasanaeth dosbarth, trefnwch o flaen llaw i rai gwirfoddolwyr ddod ymlaen i egluro pam mae rhai darnau o gerddoriaeth yn bwysig iddyn nhw, pa atgofion sy'n cael eu tanio gan y gerddoriaeth, a sut mae’r gerddoriaeth yn gwneud iddyn nhw deimlo.
  • Dewiswch ddarn tawel o gerddoriaeth, fel er enghraifft,‘Spiegle im spiegle’gan Arvo Pärt, i’w chwarae yn ystod y rhan ‘Amser i feddwl’ yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y darnau cerddoriaeth rydych chi wedi eu dewis, yr un cyfarwydd a’r un llai cyfarwydd.

    Ydych chi’n adnabod unrhyw un o’r ddau ddarn yma o gerddoriaeth?

    Ceisiwch gael pawb i ymwneud â dyfalu beth yw’r atebion.

  2. Mae rhai darnau o gerddoriaeth yn adnabyddus iawn, a darnau eraill sydd ddim mor adnabyddus.

    Mae cerddoriaeth yn cyd-fynd â llawer o’r momentau arwyddocaol yn ein bywyd. Mae’n aml yn ennyn atgofion emosiynol. Yn wir, mae cysylltiad mor gryf fel y gallwn ni ddweud storïau ein bywyd yn nhermau’r gerddoriaeth roedden ni’n gwrando arni ar y pryd.

    Os ydych chi’n teimlo’n ddigon dewr i wneud hynny, fe allech chi fynd trwy benodau yn eich bywyd gan nodi’r gerddoriaeth rydych chi’n ei chysylltu â nhw.
  3. Mae yn ein hymennydd set gymhleth o lwybrau rhyng-gysylltiedig ar gyfer prosesu cerddoriaeth. Mae’r llwybrau hyn yn ymwneud â rhannau eang o’r ymennydd wedi ei drefnu i ganfod pa fath o gerddoriaeth rydyn ni’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi Fe fydd eich dewis o gerddoriaeth yn wahanol iawn i ddewis eich rhieni, ac efallai i ddewis eich ffrindiau hefyd hyd yn oed.

  4. Gall cerddoriaeth ein hysbrydoli ein cyffroi, ein dychryn, a dylanwadu ar ein hwyliau. Mae’n gallu gwneud i ni deimlo’n ddyrchafedig neu’n ein gwneud yn ddagreuol – er ddim o reidrwydd mewn ffordd wael bob amser.

  5. Rwy’n mynd i chwarae dau ddarn arall o gerddoriaeth i chi. Fe hoffwn i chi feddwl am sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo.

    Chwaraewch y ddau ddarn o gerddoriaeth rydych chi wedi eu dewis sy’n ysgogi emosiynau cwbl wahanol i’w gilydd.

    Fel rydych chi’n gallu clywed, a theimlo o bosib, mae cerddoriaeth yn gallu cael effaith ar y person cyfan.

  6. Mae’r cysylltiad hwn rhwng cerddoriaeth ac emosiynau yn gallu helpu i egluro pam mae cerddoriaeth yn gyfrwng mor dda am ennyn atgofion. Mae'r cortecs cyndalcennol (prefrontal cortex) yn ymateb i ddarnau cyfarwydd o gerddoriaeth ac yn eu cysylltu â'r atgofion hunangofiannol sydd fwyaf perthnasol i ni.

  7. Os mai gwasanaeth dosbarth yw hwn trefnwch yn awr i’r gwirfoddolwyr, sydd wedi paratoi o flaen llaw, ddod i’r blaen i sgwrsio am y darnau cerddoriaeth sy’n golygu rhywbeth arbennig iddyn nhw.
  8. Mae cerddoriaeth hefyd yn gallu achosi ymateb corfforol mewn bodau dynol. Fe allwn ni gael cryndod lawr ein hasgwrn cefn, ac fe all y blew mân ar ein gwegil godi o ddifri, gall cannwyll ein llygaid ledu, a churiad ein calon gyflymu. Mae cerddoriaeth yn procio ymateb yn ein hymennydd ac mae’r corff cyfan yn ymateb i hynny. Felly, y tro nesaf y byddwch yn gwrando ar ddarn o gerddoriaeth, cofiwch eich bod yn gwrando â’ch corff cyfan, nid dim ond â’ch clustiau, ac mae eich ymennydd yn storio’r gerddoriaeth a’r atgofion sy’n mynd gyda hi ar gyfer adeg arall.

Amser i feddwl

Gadewch i ni wrando am foment ar y gerddoriaeth dawel hyfryd hon cyn i ni fynd yn ôl i’n dosbarthiadau.

Chwaraewch y darn tawel o gerddoriaeth rydych chi wedi ei ddewis, fel er enghraifft, ‘Spiegle im spiegle’
gan Arvo Pärt.

Cerddoriaeth

Darn tawel o gerddoriaeth rydych chi wedi ei ddewis, fel er enghraifft, ‘Spiegle im spiegle’ gan Arvo Pärt

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon