Dim ail gyfle?
Atal y gosb eithaf yn y D.U. (9 Tachwedd, 1965)
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Ystyried agweddau tuag at gosbi ar bob lefel yn y gymdeithas.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘I shot the sheriff’ gan Bob Marley neu Eric Clapton a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
Arweinydd: Rydym yn awr am deithio'n ôl mewn amser i gyfnod dros hanner can mlynedd yn ôl.
Darllenydd 1: Ar 13 Awst 1964, yn fuan ar ôl 8 o’r gloch y bore, bu farw Peter Anthony Allen a Gwynne Owen Evans. Roedd Peter Allen yn Lerpwl; roedd Gwynne Evans ym Manceinion.
Darllenydd 2: Cafodd y naill a'r llall eu cymryd, yr un amser, o'u celloedd carchar yng ngharchardai Walton a Strangeways, i le'r dienyddiad, lle gosodwyd dolen rhaff am wddf y naill a'r llall.
Darllenydd 1: Agorodd trap ddôr o dan eu traed, disgynnodd y ddau 6 troedfedd i lawr ac fe fu’r ddau farw.
Darllenydd 2: Nhw oedd y ddau garcharor olaf yn y D.U. i ddioddef y gosb eithaf am y drosedd o lofruddiaeth.
Arweinydd: Mae hynny'n ffaith, oherwydd hanner can mlynedd yn ôl, ar 9 Tachwedd 1965, cafodd y gosb eithaf am y drosedd o lofruddiaeth ei gwahardd yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Dros y blynyddoedd a ddilynodd, cafodd y gwaharddiad hwn ei gadarnhau yn gyfan gwbl trwy'r D.U. Cafodd y Gosb Eithaf, fel y gelwir hi, ei diddymu'n llwyr. Bu llawer o drafodaeth ar y mater hwn, fodd bynnag, bob blwyddyn ers hynny.
Darllenydd 1: Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, bu nifer o lofruddiaethau erchyll, sydd yn haeddu cosb lem iawn.
Darllenydd 2: Roedd rhai o'r llofruddiaethau hyn yn ymwneud â llofruddio plant.
Darllenydd 1: Roedd eraill yn ymwneud â llofruddio merched.
Darllenydd 2: Cafodd aelodau o’r heddlu eu llofruddio wrth wneud eu gwaith yn ceisio cadw ein trefi a'n dinasoedd yn ddiogel.
Darllenydd 1: Cafodd meddygon a staff meddygol eraill eu cael yn euog o lofruddio, ambell dro, ddwsinau o gleifion a oedd yn eu gofal.
Darllenydd 2: Daw hynny ar ben llawer o droseddau eraill nad ydyn nhw, o reidrwydd, wedi achosi marwolaeth, ond sydd, er hynny, wedi bod yn greulon dros ben ac wedi newid bywyd y dioddefwyr am byth.
Darllenydd 1 a 2 gyda’i gilydd: Wrth reswm, weithiau fe ddylai bod cosb eithaf ar gyfer troseddau nad yw’n bosib eu maddau?
Arweinydd: Beth ydych chi'n feddwl yw pwrpas cosb?
Fe fyddai rhai pobl yn dadlau ei fod yn hanfodol cael rhywbeth i fod yn arf ataliol - cosb fyddai mor llym fel y byddai'n gwneud i droseddwyr feddwl eilwaith. Mae'n eu gorfodi i ystyried o ddifrif a ddylen nhw fynd ymlaen â'u trosedd ai peidio. Rhywbeth i'w gorfodi i feddwl, 'A yw'n werth yr hyn y byddaf yn ei golli pe byddwn yn cael fy arestio a'm dyfarnu'n euog?'
Mae'r gosb eithaf yn cael ei gweld fel yr arf ataliol llymaf. Nid oes unrhyw ffordd yn ôl. Bydd rhai'n dweud mai cyfiawnder naturiol yw'r gosb eithaf. Os yw bywyd wedi ei gymryd trwy lofruddiaeth, yna fe ddylid hefyd gymryd bywyd y llofrudd. Ymestyniad naturiol yw hyn o beth mae rhannau o'r Hen Destament yn y Beibl yn ei ddweud: 'llygad am lygad a dant am ddant'.
Os ydych chi'n cytuno â'r safbwynt hwn, mae'n ofynnol ystyried ychydig o bethau.
Yn gyntaf, beth pe byddai cam-weinyddiaeth o gyfiawnder? Mae llawer iawn o enghreifftiau o hyn ar gael. Mae profion DNA, yn enwedig, wedi codi cwestiynau ynghylch sawl dedfryd. Cafodd dedfrydau o'r fath eu rhoi i lofruddwyr honedig, sydd wedi cael eu profi ar ôl hynny yn ddieuog o'r troseddau hyn. Fe gawson nhw eu rhyddhau a chael hawl i barhau i fyw eu bywyd. Ni fyddai hynny’n bosib yn achos y sawl sydd wedi cael ei ddienyddio, ac sydd yna'n ddiweddarach yn cael ei brofi'n ddieuog. Ni all dedfryd o farwolaeth, unwaith y gweithredir arni, gael ei diddymu.
Yn ail, mae'r cwestiwn yn codi pa un a oes hawl gennym ai peidio i gymryd bywyd bod dynol arall. Onid yw'r hawl i fywyd yn hawl dynol sylfaenol? A yw dienyddiad o reidrwydd yn wahanol i lofruddiaeth oherwydd ei fod yn cael ei weithredu gan lywodraeth?
Yn drydydd, nid yw'r gosb eithaf yn caniatáu unrhyw bosibilrwydd i'r person sydd wedi ei ddedfrydu yn y fath fodd i newid. Soniodd Iesu am y cyfle sydd ar gael i newid eu ffordd o fyw a dilyn llwybr gwell. Mae storïau dirifedi am ddynion a merched sydd wedi cyfaddef eu heuogrwydd ac ar ôl hynny, wedi dewis ffordd heddwch, cyfiawnder a chywirdeb. Pan gafodd ei hoelio i'r groes, fe siaradodd Iesu ag un o'r rhai oedd yn cael ei groeshoelio gydag ef, un nad oedd unrhyw gwestiwn am ei euogrwydd. Fe ddywedodd wrtho, hyd yn oed ar yr unfed awr ar ddeg, gallasai ddewis edifeirwch a bywyd newydd. Awgrymodd Iesu nad oedd unrhyw drosedd, camgymeriad neu ddewis yn anfaddeuol.
Trwy ryw ddiolch, nid oes gennym y gosb eithaf yma yn yr ysgol, ond mae'r cwestiwn tu cefn iddo - am beth yw pwrpas cosb - yn berthnasol. Pan fydd enghreifftiau o ymddygiad drwg, twyllo, trais, amarch, rhagfarn neu unrhyw un o'r amrywiol ffyrdd eraill y mae myfyrwyr yn torri cod ymddygiad yr ysgol, beth ddylai'r canlyniadau fod?
Rhai canlyniadau fyddai, yn gyntaf, amddifadu myfyrwyr o'u hamser, eu rhyngweithiad cymdeithasol neu gyfle arall. Mae’n bosib cadw myfyrwyr i mewn, eu cadw ar wahân, neu eu gwahardd. Y bwriad tu cefn i'r rhain yw ceisio atal myfyrwyr rhag gwneud yr un math o bethau unwaith eto.
Ydyn nhw'n gweithio? Maen nhw ar gyfer rhai myfyrwyr, ond nid ar gyfer pawb. Yn achos rhai, dydy’r cosbau hyn yn ddim mwy nag ychydig o anghyfleustra.
Y canlyniadau sy’n fwy effeithiol, rwy'n credu, yw'r rhai sydd wedi eu bwriadu i newid agweddau ac ymddygiad, trwy helpu myfyrwyr ddeall sut a phaham bod mwy o ffyrdd cadarnhaol ac adeiladol o weithredu. Un ffordd yw casglu dioddefwyr a throseddwyr ynghyd, a rhoi cyfle i'r dioddefwyr fynegi sut maen nhw'n teimlo. Ffordd arall yw creu'r amser i ddarganfod yn union pam fod rhai myfyrwyr yn gweithredu mewn ffyrdd anghymdeithasol, beth yw'r pwysau sydd arnyn nhw sy’n peri iddyn nhw ymddwyn fel hyn, a darganfod pwy sy'n dylanwadu arnyn nhw. Rydym eisiau cynnig y cyfle i gerdded ar hyd llwybr ychydig yn wahanol, un sy'n cyfarfod ag anghenion yr unigolyn. Dyna beth yw ystyr gwir gyfiawnder.
Amser i feddwl
Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am y pwynt olaf hwn – fe ddylai'r posibilrwydd o newid gwirioneddol yn y galon fod ar gael i bawb.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch nad oes dim yn dy olwg di sydd heb fod yn bosib maddau iddo.
Helpa ni i gyfaddef ein heuogrwydd a’n cyfrifoldeb pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth o'i le.
Gad i ni ddewis teithio ar hyd y llwybr gwell.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
‘I shot the sheriff’ gan Bob Marley neu Eric Clapton