Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Problem y tryc gwyllt

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân 'Turn! Turn! Turn!' gan The Byrds a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dychmygwch y sefyllfa ganlynol. Mae tryc mawr trwsio rheilffordd wedi rhedeg allan o reolaeth ac yn teithio ar gyflymder enbyd i lawr y lein. Mae llawer o ymdrechion wedi eu gwneud i’w atal, ond heb unrhyw lwyddiant. Bydd y tryc yn dal i fynd nes bydd yn taro rhywbeth. Mae larwm argyfwng wedi rhybuddio gweithwyr y rheilffordd, sy’n bennaf yn ddiogel i ffwrdd o'r traciau. Yn anffodus, nid yw un grwp o bump o weithwyr sy’n gosod y trac ddim wedi derbyn y rhybudd ac mae'r tryc yn mynd yn syth i’w cyfeiriad. Maen nhw ar bont uchel, felly fe fydd hi’n anodd iawn iddyn nhw osgoi’r tryc pan fydd yn eu cyrraedd.

  2. Oes, mae gennych chi un cyfle i achub y gweithwyr hyn. Fe allech chi newid y pwyntiau ac anfon y tryc i lawr llinell gangen. Fodd bynnag, mae gweithiwr unigol ar yr union lwybr hwnnw.

    Felly, os ydych chi’n dargyfeirio'r tryc, fe fyddwch chi’n achosi marwolaeth i’r gweithiwr hwnnw. Os byddwch yn gwneud dim, fodd bynnag, ac yn gadael i'r tryc barhau i redeg ar hyd y llwybr gwreiddiol tuag at y pum gweithiwr, fe fyddan nhw i gyd, yn cael eu lladd. Beth fyddech chi'n ei wneud?

  3. Mae'r cwestiwn hwn wedi bod yn destun dadl ymysg athronwyr a damcaniaethwyr moesol ers pan ofynnwyd y cwestiwn am y tro cyntaf. Mae'n cyffwrdd ar nifer o faterion. Does dim digon o amser gennym ni i drafod yr holl ystyriaethau hyn yma nawr, ond mae un cwestiwn mawr yn codi yr hoffwn ganolbwyntio arno heddiw. A oes gwahaniaeth rhwng gwneud gweithred ddrwg, a chaniatáu i weithred ddrwg ddigwydd o ganlyniad i beidio â gweithredu?

    Mae'r tryc sydd allan o reolaeth yn enghraifft rymus o hyn, yn enwedig oherwydd, os na allwn i wneud dewis, a diweddu’n gwneud dim, yr ydym, i bob pwrpas, wedi dewis aberthu pump o bobl. Fe fyddai llawer o bobl yn dweud y byddai hynny’n ganlyniad gwaeth na lladd yr un person oedd ar y llinell arall. Mae'n sefyllfa ddychrynllyd oherwydd na allwn ymatal rhag gwneud dewis. Rydym yn cael ein gorfodi i wneud dewis ofnadwy ac mae'n amlwg nad yw’r naill ddewis na’r llall yn hollol dda nac yn hollol ddrwg.

  4. Yn aml, mae pobl yn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth annigonol a diffyg amser, a’r canlyniadau o’r herwydd yn bellgyrhaeddol. Fe all bod y tryc gwyllt yn enghraifft eithafol, ond mae llawer o bobl yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd o’r fath lle ceir canlyniadau drwg, waeth pa ddewis bynnag y byddan nhw’n penderfynu arno.

  5. Felly, sut rydyn ni’n dewis? Mae rhai pobl yn dadlau y dylem wneud yr hyn sydd orau ar gyfer y nifer fwyaf o bobl. Caiff y bobl hynny eu galw’n iwtilitariaid (utilitarians). Fe fyddai llawer o bobl yn cytuno ei bod yn well achub bywyd y pump o bobl na dim ond un person. Dyna beth yw ffordd o feddwl iwtilitaraidd.

    Efallai, fodd bynnag, bod yr un person hwnnw ar y lein arall yn wyddonydd, sydd ar fin darganfod ffordd o wella clefyd erchyll, neu efallai yr unig un yn y cartref sy’n ennill cyflog ar gyfer ei deulu o chwech o blant. Yn yr achos hwnnw, a fyddai gadael i'r tryc fynd i gyfeiriad y pump o bobl fod yn beth gwell i'w wneud?

  6. Un peth y gallwn i gyd gytuno arno yw bod hwn yn benderfyniad anodd ei wneud a byddai llawer o bobl yn gwneud unrhyw beth i osgoi bod yr un sy'n gorfod gwneud y penderfyniad hwnnw a byw gyda’r canlyniadau. Weithiau, fodd bynnag, mae'r byd yn rhoi dewis anodd i ni. Rwy’n gobeithio na fydd rhaid i unrhyw un ohonoch chi byth orfod penderfynu pa un ai i adael tryc gwyllt i redeg yn rhydd a lladd pump o bobl, neu ladd un. Ond mae’n debyg y byddwch yn gorfod wynebu rhai heriau anodd ambell dro yn eich bywyd.

Amser i feddwl

Daw’r cyngor gorau ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath gan yr ymerawdwr Rhufeinig mawr Marcus Aurelius. Dadleuodd na ddylai pobl dreulio oriau’n trafod cwestiynau moesol, ond fe ddylen nhw yn lle hynny neilltuo amser i fod yn bobl dda. Drwy feithrin daioni, fe allwn ni baratoi ein hunain ar gyfer amseroedd eraill pan fydd angen i ni wneud penderfyniadau anodd.

Gadewch i ni dreulio moment yn awr i feddwl am y bobl a fydd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd heddiw - diffoddwyr tân, yr heddlu, gwleidyddion, meddygon a llawer mwy.

Cân/cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

'Turn! Turn! Turn!' gan The Byrds

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon