Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

O'r Negyddol i'r Cadarnhaol

Troi profiad negyddol yn weithred gadarnhaol

gan Helen Gwynne-Kinsey

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dangos ei bod hi’n bosib i brofiad negyddol gael ei droi'n weithred gadarnhaol, gan ddefnyddio enghraifft Richard Parks
                                                                                                                                                                                                                                  

Paratoad a Deunyddiau

Bydd angen sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â'r gwasanaeth hwn a'r modd o’u harddangos Negative to Positive.
Efallai y byddech yn hoffi cael cipolwg ar wefan Richard Parks, gan mai o'r fan honno y daw'r lluniau sydd ar y sleidiau PowerPoint: www.richardparks.co.uk.

Gwasanaeth

1. Yn ystod y gwasanaeth heddiw rydym yn mynd i ganfod gwybodaeth am unigolyn o'r enw Richard Parks.

Sleid 1: Cyn chwaraewr proffesiynol rygbi'r undeb yw Richard Parks, a dreuliodd 13 o flynyddoedd yn chwarae i glybiau yng Nghymru a Ffrainc. Cyflawnodd hefyd yr acolâd uchaf i unrhyw chwaraewr trwy gael ei ddewis i chwarae dros ei wlad enedigol, Cymru.

2. Sleid 2: Roedd Richard yn angerddol am ei chwarae ac yn gwthio'i hun yn galed, wrth ymarfer yn ogystal ag ar y maes chwarae yn ystod pob gêm. Fodd bynnag, tra roedd yn chwarae ar ran ei glwb, fe gafodd anaf. Mae'r rhai ohonom sy'n cymryd rhan ac yn mwynhau chwaraeon yn gwybod pa mor hyfryd yw gallu cystadlu, ac yn gwybod hefyd bod methu â chymryd rhan mewn chwaraeon o ganlyniad i anaf yn beth anodd ei oddef. Treuliodd Richard ychydig amser yn rhydd o'r gêm tra roedd yn derbyn triniaeth, ond trwy barhau i chwarae wedyn fe achosodd niwed anwrthdroadwy iddo'i hun. Yn dilyn nifer o lawdriniaethau, cafodd ei orfodi i ymddeol o'r rygbi. Gallwch ddychmygu pa mor galed oedd hynny i Richard. Roedd yn ddyn llawn nerth a chryfder, ond yn sydyn roedd ei yrfa ym myd rygbi ar ben.
Sut bynnag, nid un i roi'r ffidil yn y to oedd Richard Parks. Fel mater o ffaith, fe oresgynnodd y siomedigaeth ofnadwy, sef bod ei yrfa ym myd rygbi drosodd yn llawer rhy fuan ac fe aeth ymlaen i gyflawni rhai pethau arwyddocaol iawn!

3.Sleid 3:Ers ei ymddeoliad o fyd rygbi, mae Richard wedi creu hanes ddwywaith. Yn gyntaf, fe ymgymerodd ag alldaith o'r enw 'the 737 Challenge'. Roedd y sialens yn cynnwys yr elfennau canlynol:

Sleid 4:
- Dringo'r mynydd uchaf ar bob un o saith cyfandir y byd.
- Sefyll ar Begwn y Gogledd, Pegwn y De ac ar gopa Everest.
- Cwblhau'r teithiau hyn o fewn saith mis.

Richard oedd y person cyntaf erioed i gyflawni'r gamp hon. Yn fwy diweddar, ef oedd y Prydeiniwr cyflymaf i sgïo heb gefnogaeth na chymorth i Begwn y De.

4. Mae'r cyflawniadau hyn yn rhyfeddol ynddyn nhw'u hunain, ond yr hyn sy'n eu gwneud yn well byth yw bod Richard wedi gallu casglu miloedd o bunnoedd i elusen trwy ei weithredoedd. Llwyddodd ei '737 Challenge' i godi dros £326,000 ar gyfer yr elusen 'Marie Curie Cancer Care'. Cododd ymwybyddiaeth hefyd am yr elusen trwy hysbysebion oedd yn werth £3 miliwn. Yn sicr, fe drodd Richard y siomedigaeth, a deimlodd ar derfyn ei yrfa ym myd rygbi, yn gyfle i gynorthwyo eraill.

5. Ar ryw adeg yn ein bywyd, bydd bob un ohonom yn cael profiad o siomedigaeth. Mae'r ffordd y byddwn ni'n delio â siomedigaeth yn rhywbeth unigol, ond mae'r gallu i droi teimlad negyddol yn weithred gadarnhaol yn ffordd hyfryd i ymateb.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i gefnogi ein gilydd o fewn ein cymunedau, i ddefnyddio ein sgiliau a'n talentau mewn ffordd gadarnhaol er mwyn cynorthwyo eraill, boed hynny drwy weithgareddau elusennol neu drwy eiriau cyfeillgar o anogaeth.

Helpa ni i ddod o hyd i'n ffyrdd personol o droi profiadau negyddol yn ddeilliannau cadarnhaol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon