Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nadolig Ffoaduriaid

Mae’n swnio’n stori gyfarwydd

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried cyflwr ffoaduriaid mewn hanes drwyddo draw.

Paratoad a Deunyddiau

Dewiswch ddau Ddarllenydd a’u hannog i ddarllen y rhannau mewn ffordd sensitif. Efallai yr hoffech chi chwarae cerddoriaeth dawel yn y cefndir.

Gwasanaeth

Arweinydd: Fe hoffem ni adrodd stori Nadoligaidd i chi.

Darllenydd 1:Un tro roedd cwpl ifanc yn byw yng ngwlad Palestina. Roedd y dyn yn grefftwr proffesiynol medrus. Doedden nhw ddim yn dlawd, ond wedi dweud hynny doedden nhw ddim yn gefnog iawn chwaith. Roedden nhw'n byw bywyd digon cyfforddus mewn tref fechan.

Darllenydd 2:Yn anffodus, doedd eu bywydau ddim yn hollol dan eu rheolaeth nhw eu hunain. Roedd gwlad Palestina dan fawd lluoedd oedd wedi ei meddiannu. Llywodraeth o Orllewin Ewrop, ymhell i ffwrdd ar draws môr garw, oedd yn gweinyddu’r wlad ac yn dweud sut oedd pethau i fod.

Darllenydd 1: Am resymau personol iddyn nhw'u hunain, fe benderfynodd swyddogion llywodraeth y wlad honno a oedd yn bell i ffwrdd i gyfrif pob copa walltog o'r boblogaeth, yn cynnwys y tiroedd a gafodd eu meddiannu. Ond yn hytrach na chyfri'r bobl yn y lle'r oedden nhw'n byw, fe wnaethon nhw orfodi pob dyn i ddychwelyd, gyda'i deulu, i'r lle y cafodd ei eni. Yn achos y cwpl ifanc yma roedd yn golygu taith i dref a oedd lawer o filltiroedd i ffwrdd. Roedd yn rhaid iddyn nhw wneud eu ffordd yno rywsut neu’i gilydd.

Darllenydd 2: O, gyda llaw, roedd y ferch yn feichiog. Nid tri mis, neu hyd yn oed chwe mis, ond bron ar ddiwedd ei beichiogrwydd. Y peth olaf yr oedd hi ei angen bryd hynny oedd taith hir, boeth, anghyfforddus.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                  

Darllenydd 1:Ond pan oedd y llywodraeth estron honno yn dweud 'Ewch!' roedd pawb yn gorfod mynd, yn cynnwys y rhai oedd yn wael, yr anabl a'r rhai oedd yn feichiog.

Darllenydd 2: Roedd y ffyrdd yn llawn, ac yn araf iawn roedd y ddau’n gallu teithio, yn enwedig oherwydd cyflwr y ferch. O'r diwedd, pan gyrhaeddodd y cwpl y dref lle byddai'r cyfrif i ddigwydd, roedd pob llety wedi eu cymryd ers tro byd. Fe gawson nhw'u troi ymaith sawl tro gan breswylwyr a oedd wedi hen ddiflasu ar y dylifiad enfawr o ymwelwyr. Yn y diwedd, diolch i garedigrwydd un dyn, roedd hi'n bosib iddyn nhw wersylla am un noson mewn beudy y tu cefn i'w westy gwely a brecwast.

Darllenydd 1: Efallai mai oherwydd ei bod wedi cael ei hysgwyd wrth deithio ar gefn yr asyn, neu efallai oherwydd ei bod hi wedi dod yn amser iddi esgor beth bynnag, ond fe ddechreuodd y ferch gael y poenau genedigaeth y noson honno, a chafodd eu plentyn ei eni, bachgen bach. Cafodd y baban ei roi i orwedd mewn crud dros dro, cafn bwydo'r gwartheg, ac roedd wedi'i amgylchynu â gwres yr anifeiliaid.

Darllenydd 2: Rwy'n tybio bod y rhan fwyaf o’r bobl wedi gallu cyrraedd mewn pryd ar gyfer y cyfrif, ac yna wedi mynd yn ôl adref wedyn. Tybed a gafodd y baban newydd ei ychwanegu at y nifer terfynol? Sut bynnag, roedd argyfwng newydd yn disgwyl y teulu teithiol hwn. Mewn pryder rhag bygythiad i ddiogelwch y wlad, fe drefnodd yr awdurdodau lleol ddifa pob plentyn gwryw oedd wedi cael eu geni yn ystod y ddwy neu dair blynedd flaenorol. Cafodd bechgyn eu rhwygo o freichiau eu mamau, a'u lladd yn y strydoedd gerllaw. Bu raid i’r teulu hwn ffoi am eu bywyd, gan oddef taith bell a hirfaith arall, y tro hwn fel ffoaduriaid, yn ddigartref, heb feddiannau a heb ffrindiau. Fe wnaethon nhw chwilio am noddfa mewn gwlad oedd ymhell o'u mamwlad, ac o'r diwedd fe gawson nhw hyd i le diogel.

Amser i feddwl

Arweinydd: Rydych yn adnabod y stori, wrth gwrs. Iawn, rydym wedi hepgor y bugeiliaid, y seren, y doethion a llawer o’r manylion eraill, ond stori draddodiadol y Nadolig yw hon... Neu ydi hi? Mae profiad y teulu hwn yn brofiad hefyd sy’n perthyn i brofiad y teuluoedd ymfudol heddiw, y teuluoedd o ffoaduriaid, teuluoedd sy'n chwilio am loches sydd wedi bod yn ymlwybro o'r Dwyrain Canol ac Affrica, yn chwilio am hafan ddiogel. Maen nhw wedi cael eu gorfodi i deithio gan weithrediadau llywodraethau, a hynny mewn ofn mawr am eu bywyd.

Ers misoedd yn awr, rydym wedi derbyn llawer o fwletinau newyddion o Wlad Groeg a'r Eidal, o Hwngari, o'r Almaen a Ffrainc. Rydym wedi gweld ffoaduriaid mewn cychod  simsan, teuluoedd wedi mygu mewn faniau cloëdig, trefi o bebyll ar draethau cyrchfannau gwyliau. Cafodd rhai ohonom ein dal yn yr argyfwng ym mhorthladd Calais wrth i bobl mewn cyflwr enbyd geisio ymosod ar Dwnnel y Sianel.

Efallai y byddwch yn dymuno cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am argyfwng y ffoaduriaid yn y rhan hon o'r gwasanaeth.

Efallai eich bod wedi cael eich arwain at weithredu i roi rhywfaint o gymorth i'r teuluoedd hyn, trwy gasglu arian, bwyd neu ddillad. Yn sicr fe fydd llawer ohonoch wedi mynegi eich barn yn y ddadl sut y gall ynys fechan boblog fel ein hynys ni, gyflawni yn y modd gorau'r ymrwymiad moesol i helpu ein cydfodau dynol ar yr adeg hon lle mae eu hangen yn enfawr.

Wrth i ni ddynesu at y Nadolig, gadewch i ni adael i stori Iesu a newyddion heddiw ryngweithio â'i gilydd. Ar un llaw, galwch i gof y delweddau hynny a welsoch o ffoaduriaid yn ymlwybro ar hyd y ffyrdd, y delweddau o letyau dros-dro, o fabanod sy'n cael eu geni mewn gorsafoedd rheilffordd, a gadewch i'r rheini ddod yn ddelweddau stori'r Nadolig. Gallwn yn hawdd cael ein temtio i ddefnyddio'r brwsh aer ar brofiadau Joseff ac, yn arbennig rhai Mair. Nid oedd genedigaeth Iesu o bosib yn brofiad hawdd na chyfforddus iddi hi. Ni fyddai'r stabl wedi bod yn lân ac roedd y cyfleusterau’n anaddas, a dweud y lleiaf. Eto i gyd, mae Cristnogion yn credu mai dyma'r ffordd a ddewisodd Duw i ddod i mewn i'n byd: er mwyn uniaethu ei hun â'r rhai sydd yn cael eu hunain ar risiau isaf yr ysgol. Fe ddaeth yn un ohonom ni. Fe uniaethodd ei hun â'n bywyd anodd ni.

Ar y llaw arall, gadewch i ni gredu bod gobaith yn yr hyn sy'n ymddangos fel sefyllfa anobeithiol i lawer o'r ffoaduriaid yr ydym yn eu gweld. Pe byddai llywodraethau'n cydweithio, pe byddem ni yn cynnig rhywfaint o'r digonedd sydd gennym, pe byddem ni'n groesawgar tuag at y rhai sydd heb ffrindiau, heb wlad, y rhai sydd heb deulu, yna fe fyddai bywyd newydd yn amlygu ei hun.

Efallai y byddwch yn dymuno rhoi manylion yn y fan hon o unrhyw brosiectau yn eich ardal chi.

Mae Cristnogion yn credu bod genedigaeth Iesu yn cynrychioli dechreuad oes hollol newydd i ddynolryw. Efallai y gall yr ymfudo cyfredol gynrychioli dechreuad oes newydd i Ewrop.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am sefydlogrwydd ein cartrefi, ein cymunedau a’n bywyd.
Agor ein llygaid i gyfleoedd lle gallwn ni rannu’r sefydlogrwydd hwnnw.
Rho i ni’r ewyllys i weithredu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon