Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud Rhagdybiaethau

Gwasanaeth ar gyfer yr Ystwyll

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried y rhagdybiaethau anghywir ynghylch genedigaeth a pherson Iesu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mwg coffi yn cynnwys diod boeth o lemwn neu ffrwyth aeron. Os yn bosib, dewiswch fwg sydd â'r gair ‘coffi’ wedi ei ysgrifennu arno.
  • Y ddau ddiffiniad o'r ferf ‘rhagdybio’ wedi ei arddangos ar gyfer cam 2 y gwasanaeth.
  • Bwrdd gwyn.
  • Pedwar darllenydd i gymryd rhan yng ngham 3 - dylid ymarfer y darlleniadau hyn cyn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Cyrhaeddwch y gwasanaeth gan yfed o'ch mwg coffi.

Gofynnwch y cwestiynau canlynol:

- Beth ydych chi’n ei feddwl sydd yn fy nghwpan coffi?
- Pam ydych chi’n meddwl y gwnes i ddod â hwn i mewn i'r gwasanaeth bore heddiw?

Gwrandewch ar ystod o ymatebion.
Derbyniwch bob ateb trwy ddweud ‘Efallai eich bod chi'n iawn.’

Gwahoddwch rywun i edrych yn fanwl ar y mwg a gofynnwch iddyn nhw ddweud wrth weddill y gynulleidfa am yr hyn y maen nhw wedi ei ganfod.

Gofynnwch y cwestiwn:

A yw hyn yn newid y rheswm pam fy mod i wedi dod â fy nghwpan gyda mi yn y gwasanaeth heddiw?

2. Eglurwch ein bod yn gwneud rhagdybiaethau ar hyd yr adeg. Weithiau bydd ein rhagdybiaethau yn gywir, ac weithiau maen nhw'n anghywir, fel yn achos y cwpan coffi.
Gofynnwch a oes unrhyw un yn gwybod beth mae'n ei olygu i ragdybied rhywbeth.

Dangoswch y ddau ddiffiniad.
Mae ‘rhagdybio’ yn golygu ‘Tybio mai dyna yw'r achos, heb dystiolaeth’ neu ‘Derbyn bod rhywbeth yn wir heb wirio.’

Gofynnwch i'r disgyblion awgrymu cyfystyron i ‘rhagdybio’ (i dybio, i'w dderbyn fel y mae'n darllen, i ddiddwytho, neu ddod i gasgliad).

Ysgrifennwch y rhain ar y bwrdd (du neu wyn).

3. Gellid edrych ar stori'r Ystwyll fel stori o ragdybiaethau anghywir.
Roedd gwareiddiadau'r Hen Fyd yn credu bod cyswllt rhwng ffenomena seryddol â digwyddiadau ar y ddaear.
Gwrandewch ar adnodau o Lyfr Numeri 24.17.

Darllenydd 1: ‘Daw seren allan i Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel.’
O ysgrifau hynafol fel hyn, roedd y doethion neu’r sêr ddewiniaid, gynt, yn credu y byddai seren newydd anghyffredin o ddisglair un diwrnod yn cyhoeddi genedigaeth brenin (teyrnwialen) yn Israel (Jacob). Felly, yn wir, pan ymddangosodd seren newydd ddisglair yn y ffurfafen, fe wnaethon nhw gychwyn ar eu taith o'r dwyrain i'w dilyn.
Bu sawl damcaniaeth ynghylch sut y bu i'r seren ymddangos. Mae llawer o seryddwyr yn credu bod y planedau Iau a Gwener wedi dod at ei gilydd, gan greu rhywbeth yn debyg i un seren hynod o ddisglair. Nid yw o dragwyddol bwys sut y daeth y seren hon i fod. Digon yw gwybod, bod y dynion dysgedig hyn wedi cychwyn ar eu pererindod, a hynny'n seiliedig ar y ffenomen seryddol hon, a oedd wedi ei rhagfynegi.

Darllenydd 2: O'r diwedd fe gyrhaeddodd y tri gwr doeth o Arabia, Persia ac India balas y Brenin Herod. Bu eu taith yn un hir. Bob nos roedden nhw wedi gwylio'r seren yn symud yn araf i gyfeiriad y dwyrain ac roedden nhw wedi ei dilyn dros fynyddoedd ac anialwch nes eu bod wedi cyrraedd cyrion Jerwsalem. Fe wnaethon nhw ragdybio, oherwydd bod hwn yn enedigaeth arbennig, y byddai'r baban yn cael ei eni yn y palas brenhinol. Fe wnaethon nhw ragdybio y byddai'r brenin yn gwybod am hyn, ac mae ef oedd y dyn i'w holi. Ond roedd Herod wedi dychryn pan glywodd am yr ymwelwyr hyn. Fe hysbysodd ei brif offeiriaid a'i ysgrifenyddion y Brenin Herod mai ym Methlehem yr oedd yr ysgrifau hynafol yn awgrymu y byddai'r enedigaeth arbennig honno'n digwydd.

Darllenydd 3: Gofynnodd y sêr ddewiniaid: ‘Ble mae'r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.’
Cymerodd y brenin arno ei fod yntau’n rhannu eu diddordeb a'u cyffro.
Gofynnodd y brenin: ‘Pa bryd yn union yr ymddangosodd y seren? Ewch, a chwiliwch yn fanwl am y plentyn, a phan fyddwch wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod i mi er mwyn i minnau hefyd fynd a'i addoli.’

Darllenydd 4:Cytunodd y sêr-ddewiniaid wneud hynny, gan foesymgrymu o flaen y brenin a phrysuro ar eu taith i Fethlehem. Yn y fan honno dyma nhw'n gweld y seren yn aros yn union dros stabl. Doedden nhw ddim wedi disgwyl hyn o gwbl, ac nid at y lle hwn yr oedden nhw wedi rhagdybio y byddai eu taith yn eu harwain. Fe ddaethon nhw o hyd i stabl, cwpl ifanc a oedd yn bell o fod yn gyfoethog, a baban. Ond pan wnaethon nhw weld y plentyn roedden nhw'n gwybod ym mêr eu hesgyrn mai hwn yn wir oedd yr un a ddisgrifiwyd yn yr ysgrifau. Fe wnaethon nhw ymgrymu o flaen y baban a chyflwyno eu hanrhegion o aur, thus a myrr iddo.  Ni theithiodd y sêr-ddewiniaid yn ôl i Jerwsalem i hysbysu'r Brenin Herod eu bod wedi dod o hyd i'r plentyn. Fe gawson nhw eu rhybuddio mewn breuddwyd bod eu rhagdybiaethau amdano ef hefyd wedi bod yn anghywir!

4. Hyd yn oed pan ddaeth Iesu'n ddyn a dangos trwy ei ddysgeidiaethau, a'r gwyrthiau a gyflawnodd, mai ef yn wir oedd Mab Duw, y Meseia oedd wedi ei addo, fe barhaodd pobl i wneud rhagdybiaethau fel: ‘Dim ond mab y saer o Nasareth yw hwn!’ a gofyn ‘A all unrhyw beth da ddod o Nasareth?’

Amser i feddwl

Pa ragdybiaethau wnawn ni am Iesu a all fod yn anghywir?
Beth allwn ni ei wneud i wirio a yw ein rhagdybiaethau'n gywir neu'n anghywir?
Pa ragdybiaethau a wnawn ni am bobl yn gyffredinol?

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon