Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Anrhegion ar adeg y Nadolig

Pwysigrwydd rhoi a derbyn

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried bod y meddwl sydd y tu ôl i rodd yn bwysicach na'r rhodd ei hun.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau focs wedi eu lapio â phapur Nadolig i wneud iddyn nhw edrych fel anrhegion, un mawr ac un bach. Fydd y papur ddim yn cael ei agor, felly does dim angen cael unrhyw beth y tu mewn i’r bocsys.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen papur £20 a dau ddarn arian bach.

  • Efallai yr hoffech chi baratoi darllenydd i ddarllen stori rhodd y wraig weddw, sydd i’w chael yn Luc 21.1-4.

  • Dewisol: trefnwch o flaen llaw i rai o aelodau’r staff neu rai o’r myfyrwyr rannu eu hatgofion am rai o’u hoff anrhegion.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch y gwasanaeth trwy gamu i'r blaen mewn modd sigledig, gan smalio fod yr anrheg fawr yr ydych yn ei gario yn eithriadol o drwm. Gofynnwch am awgrymiadau ynghylch beth allai'r anrheg fod.
  2. Tynnwch yr ail anrheg o'ch poced a gofynnwch am syniadau ynghylch beth allai’r anrheg hon fod. Gofynnwch i'r myfyrwyr godi eu dwylo i nodi pa un o'r anrhegion fyddai'n eu cyffroi fwyaf pe bydden nhw'n derbyn un ohonyn nhw ar ddydd Nadolig. Nodwch, yn awr fod y myfyrwyr yn hyn, maen nhw'n ymwybodol weithiau, y gall anrhegion bach mewn gwirionedd fod yn ddrutach. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn, rydym i gyd yn teimlo rhyw synnwyr o gyffro pan fyddwn yn derbyn anrheg fawr, yn enwedig os yw'n rhywbeth sy'n rhywfaint o syrpreis i ni, ac na allwn ddyfalu beth yw ei gynnwys.
  3. Os yw'n bosib, soniwch wrth y myfyrwyr am rai o'r anrhegion mwyaf cofiadwy a wnaethoch chi eu derbyn. Os yw'n briodol, gofynnwch i aelodau o'r staff neu fyfyrwyr eraill hefyd i rannu eu hatgofion.
  4. Eglurwch y gall anrheg fod yn arbennig am lawer o resymau. Gal fod yn:

    - rhywbeth yr ydych wedi dyheu i'w gael ers talwm 
    - rhywbeth gan rywun arbennig
    - rhywbeth a fydd yn syndod mawr
    - rhywbeth drudfawr
  5. Fodd bynnag, nid yr anrheg yr ydym yn ei derbyn sydd, mewn gwirionedd, bwysicaf. Yr hyn sydd bwysicaf am yr anrheg yw'r meddwl a'r cariad sydd ynghlwm wrthi. Os yw rhywun wedi treulio amser ac wedi trafferthu i ofalu cymaint amdanom er mwyn prynu anrheg i ni, yna mae hynny'n arbennig iawn!!
  6. Roedd Iesu'n deall y cysyniad hwn yn dda. Dangoswch y papur £20 a'r ddau ddarn arian. Gofynnwch i'r myfyrwyr godi eu dwylo i roi arwydd o blaid yr un yr hoffen nhw ei dderbyn.

    Darllenwch (neu gofynnwch i rywun arall ddarllen) Luc 21.1-4.

    Yn y stori hon, mae Iesu yn edrych ar bobl gyfoethog mewn balchder yn gosod llawer o arian yn nhrysorfa'r deml. Fodd bynnag, mae ei sylw yn troi at wraig weddw sy'n llithro dau ddarn o arian yn dawel i mewn i'r blwch offrwm. Mae Iesu'n datgan fod y wraig hon wedi rhoi mwy na'r holl bobl gyfoethog gyda'i gilydd oherwydd ei bod wedi rhoi'r cyfan oedd ganddi.

  7. Mae Iesu'n datgan fod y wraig yn gweithredu mewn cariad. Mae'r stori hon yn ein hatgoffa nad maint neu gost unrhyw anrheg sy'n bwysig, ond y cariad a'r meddwl sydd yng nghymeriad y sawl sy'n dymuno rhoi.

Amser i feddwl

Bydd y Nadolig yma'n fuan a bydd llawer ohonom yn edrych ymlaen at roi a derbyn anrhegion.
Gadewch i ni gofio bod llawer o bethau eraill y gallwn eu rhoi sydd ddim yn costio arian, fel ein cariad, ein gofal, ein cyfeillgarwch, ein sylw a'n hamser. Gall y pethau hyn yn aml olygu mwy i bobl eraill nag anrheg ddrudfawr.

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y Nadolig ac am y cyffro sy’n dod i’w ganlyn.
Helpa ni i fod yn bobl sy’n mwynhau rhoi yn fwy na derbyn.
Helpa ni i roi cariad a gofal i’r rhai sydd o’n cwmpas.
Boed i ysbryd y Nadolig aros yn ein calonnau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon