Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

A yw rhoi yn well na derbyn?

Rhoi a derbyn ar adeg y Nadolig

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried nad dim ond am dderbyn yn unig y mae’r Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

Lluniau o bobl yn agor eu hanrhegion ar ddydd Nadolig.

Gwasanaeth

1. Tybed faint ohonoch chi sydd wedi gwneud eich rhestrau Nadolig. Oes rhywun eisiau dweud wrthym ni beth maen nhw wedi gofyn amdano?

Gwrandewch ar rywfaint o ymateb y myfyrwyr. Efallai yr hoffech chi sôn am rai o’r pethau sydd gennych chi ar eich rhestr eich hun!

2. Mynegwch fod yr holl syniadau’n swnio’n ardderchog, a dywedwch eich bod yn gobeithio na fydd neb yn siomedig pan ddaw dydd Nadolig! Gofynnwch i’ch cynulleidfa feddwl yn ôl a cheisio dwyn i gof un Nadolig pan na chawson nhw’r hyn roedden nhw wedi gobeithio ei gael. Neu tybed oedden nhw wedi cael gwybod beth fydden nhw’n ei gael, a bod hynny wedi difetha’r ‘syrpreis’. Os bydd hynny’n bosib, rhannwch un enghraifft o’ch profiad eich hun a gofynnwch i rai o’r myfyrwyr rannu eu profiadau hwythau.

3. Sut deimlad oedd hwnnw? Oeddech chi’n siomedig? Wnaethoch chi ystyried tybed pam na chawsoch chi’r hyn roeddech chi wedi gofyn amdano? Efallai nad oedd eich rhieni’n gallu cael yr union beth oeddech chi ei eisiau. Efallai eu bod wedi ceisio eu gorau, ond nad oedd y tegan hwnnw neu’r eitem honno, yn syml, ddim ar gael. Efallai nad oedd yr arian ganddyn nhw i dalu am yr hyn roeddech chi’n dymuno ei gael. Neu, efallai, doedden nhw ddim wedi sylweddoli pa mor o ddifrif yr oeddech chi ynglyn â’r peth neilltuol hwnnw!

4.Tybed ydych chi, ryw dro, wedi rhoi anrheg i rywun ac wedi derbyn ymateb siomedig? Sut gwnaethoch chi deimlo bryd hynny? Efallai eich bod wedi treulio llawer o amser yn dewis yr anrheg. O bosib eich bod wedi cynilo arian i allu fforddio gwario swm sylweddol ar yr anrheg. Efallai eich bod wedi meddwl yn ofalus ynghylch beth i’w brynu, a’ch bod yn sicr eich bod wedi gwneud dewis da. Ond, yn hytrach na llawenydd, siomedigaeth oedd ymateb y derbynnydd.

Os yn bosib, rhowch enghraifft o’ch profiad eich hun yma eto.

Gall sefyllfa o’r fath fod yn anghyfforddus, ac fe all frifo teimladau’r un sydd wedi rhoi’r anrheg. Gadewch i ni gofio, y tu ôl i bob anrheg, mae rhywfaint o feddwl ac unigolyn sydd wedi treulio amser er mwyn rhoi rhywbeth i ni.

5. Fodd bynnag, mae ochr arall i roi anrhegion. Pan fyddwch chi’n rhoi anrheg, a chithau’n gweld wyneb yr un sy’n ei dderyn yn goleuo mewn hapusrwydd, syndod neu gyffro – mae hynny’n deimlad braf iawn. Mae sylweddoli eich bod wedi rhoi cymaint o lawenydd i rywun rydych chi’n hoff ohono, neu ohoni, yn deimlad gwych.

6. Wrth gwrs, does dim rhaid i’r anrheg fod yn rhywbeth mawr. Weithiau fe all anrheg fechan, neu hyd yn oed rywbeth rydych chi wedi ei wneud eich hunan, fod yr un mor dderbyniol, os nad yn well. Ydych chi, ryw dro, wedi gwneud cerdyn i un o’ch rhieni, neu wedi gwneud anrheg i rywun eich hunan? Fe allai anrheg fechan gyda llawer o feddwl y tu ôl iddi fod yr union beth sy’n cyffwrdd â theimladau’r un sy’n ei derbyn. Ambell dro, mae’n deimlad gwell wrth i chi roi nac wrth i chi dderbyn.

7. Mae rhoi rhywbeth heb gyfri’r gost yn syniad pwysig. Efallai mai ‘eich amser’ yw’r rhodd. O bosib nad yw eistedd a sgwrio gyda pherthynas oedrannus yn ymddangos fel ‘rhoi rhodd’, ond fe allai fod yr union beth oedd ei angen ar yr unigolyn hwnnw, yn enwedig os nad yw ef neu hi wedi gweld neb arall drwy’r dydd. Fe allai mai sgwrs fach oedd yr union beth roedd yn dymuno’i gael! Nid yw eistedd i lawr a siarad â’ch rhieni am eich diwrnod yn swnio fel rhodd sydd wedi costio arian, ond wyddoch chi ddim, rydw i’n credu y bydden nhw’n gwerthfawrogi’r ymdrech rydych chi wedi ei gwneud a’r amser rydych chi wedi ei roi. Fe allai treulio hanner awr gyda’ch brawd neu chwaer iau olygu mwy iddyn nhw na phe baech chi’n prynu pecyn o felysion iddyn nhw (er mae’n debyg y bydden nhw’n hoffi hynny hefyd!).

Mae rhoi rhywbeth ohonoch chi eich hunan i bobl eraill yn golygu llawer iawn iddyn nhw. Mae cofleidio rhywun, neu gyffwrdd llaw, neu hyd yn oed ddim ond rhoi gwên, neu ddweud diolch, i gyd yn bethau y gallwn ni eu rhoi, ac sy’n costio dim i ni.

8. Felly, y Nadolig hwn, gadewch i ni feddwl am y rhoddion y gallwn ni eu rhoi i eraill yn hytrach na meddwl gormod am faint y byddwn ni ein hunain yn gallu ei gael. Gadewch i ni geisio profi’r llawenydd o roi.

Amser i feddwl

Beth allem ni ei roi i eraill sydd ddim yn costio arian ond a fyddai'n golygu llawer iawn i'r rhai hynny sy'n ei dderbyn?

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Ar adeg y Nadolig, rydyn ni’n cofio am y rhodd a roddaist ti i’r byd: y rhodd arbennig, sef Iesu.
Helpa ni i ddysgu ei bod yn well rhoi na derbyn.
Helpa ni i fwynhau rhoi, y Nadolig hwn, pa un ai anrhegion fyddwn ni’n eu rhoi, neu ein hamser, caredigrwydd neu gariad.
Amen. 

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon