Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cwis Nadolig

Gosod gwir ystyr y Nadolig yn ganolog yn ein dathliadau

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod gwir ystyr y Nadolig yn aml yn cael ei guddio yn yr holl fasnacheiddiwch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Calendr Adfent gyda siocledi ynddo.
  • Dewisol: y cwestiynau sy’n dilyn wedi eu hargraffu, eu torri’n stribedi, a’u gosod mewn bocs i’r myfyrwyr eu dewis.
  • Dewisol: lluniau i ddarlunio rhai neu’r cyfan o’r cwestiynau. Er enghraifft, cwestiwn 1, lluniau o geirw, cwestiwn 2 llun o Rudolph.

Gwasanaeth

1. Dangoswch y calendr Adfent gyda’r siocledi ynddo, ac eglurwch eich bod yn mynd i ofyn 24 o gwestiynau sy’n ymwneud â’r Nadolig. Pan fydd un o’r myfyrwyr yn ateb cwestiwn yn gywir, fe allan nhw ddod ymlaen i agor drws ar y calendr. Neu, fe allech chi argraffu’r cwestiynau a’u torri’n stribedi fesul un a’u rhoi mewn bocs. Yna, gofyn i rywrai ddod atoch chi yn eu tro fesul un i ddewis a darllen cwestiwn. Gall pwy bynnag sy’n ateb y cwestiwn yn gywir agor y drws sy’n cael ei nodi â’r un rhif â rhif y cwestiwn ar y papur. Er enghraifft, os mai cwestiwn rhif 16 sydd wedi cael ei ateb, yna caiff y drws sydd â’r rhif 16 arno ei agor.

2. Cwestiynau:

1.Ydych chi’n gallu enwi pedwrar o’r wyth carw oedd yn tynnu sled Sion Corn yn y gân ‘The night before Christmas?’ (Comet, Cupid, Dasher, Dancer, Prancer, Vixen, Donner, Blitzen)
2. Beth oedd enw’r carw gyda thrwyn sgleiniog? (Rudolph)
3. Yn y gân ‘Deuddeg dydd Nadolig’ (‘The twelve Days of Christmas’), beth oedd wedi cael ei brynu ar y pumed diwrnod? (pum modrwy aur - five gold rings)
4. Caiff Siôn Corn neu Santa Claus ei alw hefyd yn Sant rhywbeth, Sant pwy? (Nicholas)
5. Pa anrheg wnaeth Harry Potter ei derbyn ar ei Nadolig cyntaf yn Hogwarts? (clogyn i’w wneud yn anweledig - invisibility cloak)
6. Yn y nofel gan Charles Dickens, A Christmas Carol, beth oedd enw partner busnes Scrooge, a oedd wedi marw? (Jacob Marley)
7. Faint o ddyddiau sydd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr gyda’i gilydd? (61)
8. Beth wnaeth Tom Smith eu dyfeisio yn 1847? (craceri Nadolig)
9. Gorffennwch deitl y gân Nadoligaidd: 'I'm dreaming of a . . .’(White Christmas)
10. Beth oedd enw mam a thad Iesu? (Mair a Joseff)
11. Beth oedd enw’r dref y teithiodd Mair a Joseff iddi? (Bethlehem)
12. Pam roedd rhaid i Mair a Joseff deithio i Fethlehem? (Roedd Caesar wedi gorchymyn i’r bobl fynd yn ôl i’w tref enedigol er mwyn i’r awdurdodau allu gwneud cyfrifiad.)
13. Ym mhle cafodd Mair a Joseff le i aros? (mewn stabl)
14. Pan gafodd y baban ei eni, beth wnaeth ei fam ag ef? (Ei rwymo mewn cadachau, neu ddillad baban, a’i osod mewn preseb.)
15. Pwy aeth i ymweld â Iesu yn fuan ar ôl iddo gael ei eni? (bugeiliaid a doethion)
16. Sut cafodd y bugeiliaid wybod bod Iesu wedi cael ei eni? (Fe ymddangosodd angylion iddyn nhw.)
17. Beth a welodd y doethion, ac a wnaeth iddyn nhw fynd i chwilio am y baban newydd? (seren ddisglair newydd yn yr awyr)
18. Pa anrhegion wnaeth y doethion eu rhoi i Iesu?(aur, thus a myrr)[Fe allech chi wneud hwn yn dri chwestiwn ar wahân]
19. Ym mha lyfr rydyn ni’n gallu darllen am hanes genedigaeth Iesu? (y Beibl)
20. Pwy wnaeth argraffu’r cerdyn Nadolig cyntaf? (Henry Cole)
21. Pwy oedd yn cael eu galw’n ‘Robins’ ym Mhrydain, yn oes Victoria, oherwydd eu hiwnifforms coch? (postmyn)
22. Ym mha bantomeim y mae ‘r cymeriad Wishee Washee yn ymddangos? (Aladdin)
23. O ba wlad y daw tinsel yn wreiddiol? (Yr Almaen)
24. Pa gân Nadoligaidd sy’n cynnwys y llinell, ‘Fa-la-la-la-la-la-la-la-la?!’ ('Deck the halls'. Hen alaw Gymreig o’r enw ‘Nos Galan’ yw’r alaw.)

3. Tynnwch sylw eich cynulleidfa at y ffaith bod rhai o’r cwestiynau hyn yn perthyn i agweddau seciwlar ar y Nadolig, tra roedd rhai eraill yn perthyn i’r agwedd grefyddol.
Ambell dro, mae’n gallu ymddangos fel petai tarddiad a gwir ystyr y Nadolig yn mynd yn angof yng nghanol yr holl fasnacheiddiwch.

4. Mae gan bawb ohonom safbwyntiau gwahanol ynghylch beth mae’r Nadolig yn ei olygu i ni, ond mae eu tarddiad yr un peth. Fe ddechreuodd gyda genedigaeth Iesu ym Methlehem.

Amser i feddwl

Pa agwedd ar y Nadolig yw’r bwysicaf yn eich golwg chi?
Sut gallwn ni wneud y Nadolig yn well ar gyfer pobl eraill?
Ydych chi erioed wedi meddwl o ddifrif ynghylch sut y dechreuodd y cyfan, a beth yw ystyr stori’r Nadolig, neu beth mae’r stori’n gallu ei ddysgu i ni?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i dreulio amser y Nadolig hwn i ystyried y pethau sy’n cyfrif o ddifri.
Helpa ni i gymryd moment i gofio bod y cyfan wedi dechrau gyda genedigaeth baban a fyddai’n mynd yn ei flaen i newid y byd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon