Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Olwynion ar y bws: Rosa Parks

Annog myfyrwyr i ystyried eu rôl mewn gweithredu cymdeithasol.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog myfyrwyr i ystyried eu rôl mewn gweithredu cymdeithasol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gosodwch bedwar pâr o gadeiriau, un y tu ôl i'r llall, yn wysg eu hochr i gyfeiriad y gynulleidfa.
  • Paratowch naw o fyfyrwyr i actio teithwyr ar y bws. Bydd pump o'r myfyrwyr yn gwisgo hetiau mawr;bydd pedwar heb het. Un o'r myfyrwyr heb het yw Rosa Parks.

Gwasanaeth

1.Arweinydd: Doedd Rosa Parks ddim yn unigolyn nodedig o gwbl.

Bydd y fyfyrwraig sydd heb het (Rosa Parks)yn dod i mewn ac yn eistedd ar un o'r trydydd pâr o gadeiriau.

Arweinydd:Roedd hi'n 42 mlwydd oed ac yn gweithio fel gwniadwraig, yn altro dillad mewn siop fawr yn nhref Montgomery, Alabama. Ar ddiwedd un diwrnod gwaith blinedig ym mis Rhagfyr roedd hi'n eistedd ar y bws, ar ei ffordd adref, yn meddwl am ddim byd neilltuol.

Daw pedwar myfyriwr yn gwisgo hetiau mawr i mewn, ac eistedd ar y ddau bâr cyntaf o gadeiriau. Maen nhw'n cael eu dilyn gan dri myfyriwr sydd heb hetiau, ac maen nhw'n eistedd ar y gadair sy'n weddill yn y cefn.

Arweinydd: Yn fuan iawn, fe lenwodd y bws â theithwyr. Roedd rhywun yn eistedd ym mhob sedd pan arhosodd y bws wrth yr arosfa nesaf.

Daw myfyriwr yn gwisgo het fawr i mewn, edrych ar y ddau bâr o gadeiriau sydd â myfyrwyr  yn gwisgo hetiau arnyn nhw, ac yna mae'n symud i sefyll o flaen y gadair y mae  Rosa Parks yn eistedd ynddi.

Mae'r arweinydd yn annerch yr wyth myfyriwr.

Arweinydd.  Iawn, amser symud, os gwelwch yn dda. Chi'ch pedwar yn y cefn, rydych chi’n gyfarwydd â'r gyfraith. Os nad oes gennych chi het, dydych chi ddim yn cael sedd ar y bws pan mae’r bws yn llawn.

Mae tri o'r myfyrwyr sydd heb hetiau yn codi ar eu traed ac yn sefyll y tu ôl i'r parau o seddau. Nid yw Rosa Parks yn symud o'i sedd.

Arweinydd:Chlywsoch chi dim beth ddywedais i? Codwch ar eich traed, ddynes. A gwnewch hynny ar unwaith, neu fe fydd yn rhaid i mi alw’r heddlu!

Nid yw Rosa Parks yn symud o'i sedd.

Arweinydd:Os mai fel yna rydych chi’n dymuno ymddwyn, rwy'n eich arestio.

Saib, yna mae'r Arweinydd yn ail-ddechrau siarad â'r gynulleidfa.

Arweinydd:Diolch.

Mae'r myfyrwyr yn ymadael â'r llwyfan.

2. Arweinydd: A dyna stori Rosa Parks, stori, dwi'n siwr eich bod wedi ei chlywed sawl tro yn y gorffennol. Mae'n stori am weithred syml iawn: Mae Rosa'n gwrthod ildio ei sedd ar y bws a oedd yn ei chludo am adref. Roedd ei gweithred yn un ddigymell. Wnaeth hi ddim mynd ar y bws gyda'r bwriad o wneud unrhyw beth dramatig. Yn syml, fe aeth ar y bws fel boneddiges Affricanaidd-Americanaidd a phenderfynu nad oedd yn mynd i ildio ei sedd i rywun arall oherwydd ei fod ef neu hi â chroen gwyn. Y broblem wrth wneud hynny oedd ei bod yn mynd yn groes i reolau gwahanu (segregation) a oedd yn bodoli yn nhalaith Alabama union 60 mlynedd yn ôl. Fe gymerodd hi'r penderfyniad i dorri'r gyfraith, gan wybod y byddai'n achosi trafferth iddi hi ei hun, oherwydd ei bod yn credu fod arwahanu ar sail lliw croen yn anghywir. Roedd hi'n herio'r deddfau hynny oedd yn bodoli ar y pryd.

3. Ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn 1955 y gwnaeth Rosa Parks ei thaith bws hanesyddol. Cafodd ei harestio, ei chael yn euog a'i dirwyo. Fe apeliodd yn erbyn ei dedfryd a dderbyniodd gefnogaeth gan y gymuned Affricanaidd-Americanaidd yn y ddinas. I'w chefnogi, trefnwyd boicot ar y bysys yno. Cadwodd yr Affricaniaid –Americanaidd draw o'r ddinas a'u gwaith, neu gerdded yn hytrach na theithio ar fws. Tagwyd y strydoedd gan fysys gwag oherwydd eu bod wedi colli'r mwyafrif o'u teithwyr. Parhaodd y Boicot Bws am 381 o ddyddiau, dros flwyddyn o amser, cyn i'r ddeddf gael ei diddymu a'r bysus yn cael eu dadwahanu.

Amser i feddwl

Arweinydd: Doedd Rosa Parks ddim yn rhywun arbennig ar y pryd. Ond fe deimlodd yr anghyfiawnder a oedd ynghlwm ag anghyfartaledd hiliol, ac roedd hi'n dymuno gwneud rhywbeth yn ei gylch, er doedd hi ddim yn dymuno cael ei galw'n actifydd. Efallai ei bod hi'n flinedig ar y diwrnod hwnnw, 60 mlynedd yn ôl. Efallai mai dim ond wedi gwylltio ar y funud yr oedd hi.  Am ba reswm bynnag, fe  gafodd hi, ar y foment honno, y dewrder i wneud safiad.

A ydych chi'n cael y teimlad bod anghyfiawnder yn perthyn i ambell beth: yn eich bywyd eich hun, yma yn yr ysgol, yn eich cymuned, yn y byd? Pa mor bell y mae'n rhaid eich gwthio cyn y byddwch yn gwneud rhywbeth? A ydych chi'n meddu ar y math o ddewrder a ddangosodd Rosa Parks? Un o'r prif resymau pam nad yw llawer o bobl yn gwneud safiad yw oherwydd eu bod yn ofnus o'r arwahanrwydd. Nid yw'n hawdd gwneud safiad fel unigolyn, i dderbyn y feirniadaeth, y gamdriniaeth, a hyd yn oed y gosb, efallai.

Gwnaeth Rosa Parks ganfyddiad pwysig pan wnaeth y safiad hwnnw. Fe ganfu, ei bod ymhell o fod ar ei phen ei hun, roedd yn un o filoedd, hyd yn oed miliynau, a oedd wedi blino ar anghyfiawnder gwahanu yn nhaleithiau deheuol UDA. Fe arweiniodd y Boicot Bws at orymdeithio a ffurfiau eraill o brotestio heddychol. Gyda'r Dr Martin Luther King ar y blaen, tyfodd y Mudiad dros Hawliau Sifil mor nerthol fel yn y diwedd fe gafodd deddfau'r wlad eu newid, gan roi hawliau cyfartal i bawb o'r bobl, heb gymryd i ystyriaeth hil, crefydd na lliw y croen. Eto, heb weithred brotest wreiddiol Rosa, trwy aros i eistedd yn ei lle ar y bws hwnnw, mae'n amheus a fyddai unrhyw beth wedi digwydd.

Mae llawer o anghyfiawnderau o'n cwmpas. Hyd yn oed mewn gwlad ddemocrataidd fel ein gwlad ni, caiff pobl eu bwlio, eu cam-drin, eu niweidio. Efallai mai chi yw'r un a all roi cychwyn i ryw fath o newid er gwell.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i Ti am ein synnwyr o dda a drwg, cyfiawnder ac anghyfiawnder.
Atgoffa ni o'r cyfle sy'n dod heibio pob un ohonom i fod yr un sy'n gwneud safiad.
Boed i ni gael y dewrder, fel Rosa Parks, i roi cychwyn ar newid er gwell.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon