Pobl Ysbrydoledig - Louis Braille
O ddechreuadau gostyngedig, fe arloesodd Louis Braille ddatblygiad y system Braille o gyfathrebu, system a ddefnyddir gan filiynau o bobl ledled y byd erbyn hyn
gan Philippa Rae
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried bywydau pobl ysbrydoledig, gan gyfeirio'n arbennig at fywyd Louis Braille.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch luniau neu sleidiau o Louis Braille a’i system, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth. (Nodwch, ochr yn ochr â’r wyddor, fe ddatblygodd Louis Braille system rifau a sgôr gerddorol hefyd.)
- Dewisol: Casglwch enghreifftiau o luniau eitemau y byddwn yn eu gweld o ddydd i ddydd sydd â llythrennau Braille arnyn nhw.
- Adnoddau ychwanegol:RNIB (Royal National Institute of Blind People), http://www.rnib.org.uk, cynhyrchwyr mwyaf llyfrau mewn Braille yn Ewrop.Mae hefyd yn darparu gwasanaethau eraill fel llyfrgell genedlaethol, adnoddau a gwybodaeth, cyrsiau ar-lein a chylchgronau.
Gwasanaeth
Cyflwyniad i’r gyfres ‘Pobl Ysbrydoledig’
Llwyddiant yw gwneud y gorau posib o'r cyfleoedd y deuwn ar eu traws, a gwneud y gorau posib o'n doniau arbennig a'n medrau.Mae pobl ysbrydoledig sydd wedi cyflawni pethau mawr yn eu bywydau yn ein hysbrydoli i ddal ati pan fydd pethau'n mynd yn anodd i ni, neu pan fyddwn yn teimlo ein bod yn cael ein siglo. Mae'r bobl hyn yn ein haddysgu i werthfawrogi'r cyfleoedd a gawn ac yn ein cymell tuag at gyflawni ein hamcanion ein hunain.
Rydym am ddechrau'r gyfres gyda'r Ffrancwr enwog Louis Braille. Er gwaethaf wynebu dyfodol ansicr fel unigolyn dall yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Ffrainc, fe ddatblygodd ef y system Braille, sydd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, ac am chwyldroi'r dulliau cyfathrebu darllen ac ysgrifennu ar gyfer pobl sy’n ddall.
1. A oes unrhyw un ohonoch wedi gwneud addunedau Blwyddyn Newydd eleni?
Byddwch, o bosib, yn awyddus i'r myfyrwyr godi eu dwylo i ymateb.
Pa nodau ydych chi’n gweithio tuag atyn nhw?
2. Bydd gan bawb ohonom rywbeth yr hoffem ei gyflawni yn ystod y flwyddyn sydd o'n blaen. Rwyf am sôn wrthych am ddyn sydd wedi bod yn gryn ysbrydoliaeth i lawer o bobl. Ei enw yw Louis Braille. Efallai eich bod yn gyfarwydd â'r cyfenw enwog, oherwydd Braille yw'r system god sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl ddall heddiw ar gyfer darllen ac ysgrifennu. Mae'r system yn cael ei defnyddio ymhob man mewn bywyd dydd-i-ddydd, o arosfeydd bysus i fapiau a gwerslyfrau, ynghyd ag ar gynwysyddion tabledi a chyfriflenni banc, deunyddiau pacio bwyd a sgoriau cerddoriaeth. Mae hyn yn golygu bod pobl sydd ag ychydig neu ddim golwg yn gallu byw bywydau annibynnol a chyflawn.
Gyda'r chwyldro technolegol mewn cyfathrebu digidol yn yr unfed ganrif ar hugain golyga hyn fod Braille yr un mor berthnasol yn awr ac erioed. Gyda dyfeisiadau cyfrifiadurol gydag allweddellau Braille neu beiriannau cludadwy sy'n cofnodi Braille, mae hyn yn golygu y gall pobl sy'n ddall ddarllen ac ysgrifennu trwy gyfrwng aml-ieithoedd.
Dangoswch enghraifft o Braille.
3. Cafodd Braille ei ddatblygu gyntaf oll yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yr amgylchiadau bryd hynny'n wahanol, a bywyd yn anodd i bobl, yn enwedig y bobl dlawd. Nid oedd cyfryngau torfol ar gael i ledaenu newyddion yn gyflym ac, er bod Louis Braille wedi addysgu ei system i gymaint o bobl ac y gallai, fe gyfarfu'r syniad o ddefnyddio Braille â gwrthwynebiad cryf, ac yn y diwedd fe fu Louis farw heb wybod am yr effaith chwyldroadol y byddai ei ddyfais yn ei chael drwy'r byd wrth helpu pobl.
4. Cafodd Louis Braille ei eni ar 4 Ionawr 1809 mewn lle heb fod ymhell o Baris yn Ffrainc. Erbyn iddo gyrraedd ei bedair oed, roedd yn ddall yn ei ddwy lygad. Yn ystod y cyfnod hwn mewn hanes, byddai llawer o bobl ddall yn dibynnu ar fegera er mwyn cael arian i fyw arno. Nid oedd rhieni Louis eisiau i hynny ddigwydd, ac fe wnaethon nhw sylweddoli gwerth y pwysigrwydd ei fod yn derbyn addysg dda.
Tyfodd Louis i fyny gydag angerdd i ddysgu, a hynny o’r dechrau pan oedd yn blentyn ifanc. Roedd yn rhagori yn yr ysgol leol ond yn fuan fe deimlodd bod ei gyflawniadau yn cael eu cyfyngu. Pan oedd yn 10 oed, fe ddaeth perchennog tir cefnog i wybod am allu Louis, a rhoi ysgoloriaeth iddo fynd i'r Athrofa Frenhinol ar gyfer Ieuenctid Dall ym Mharis.
5. Cafodd yr Athrofa Frenhinol ar gyfer Ieuenctid Dall ei sefydlu am resymau elusennol, er mwyn sicrhau bod ei disgyblion yn ennill sgiliau ymarferol fel bod modd iddyn nhw yn y pen draw, ennill bywoliaeth yn ystod amgylchiadau anodd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yr ysgol yn llaith ac annymunol, ac roedd gan Louis hiraeth am ei gartref. Ynghyd â sgiliau ymarferol, addysgwyd y disgyblion i ddarllen trwy ddefnyddio system o'r enw 'raised type', lle'r oedd siapau'r llythrennau yn cael eu creu trwy wasgu gwifren gopr ar dudalen. Roedd Louis yn ddeallus, ond fe deimlodd bod y system yn rhwystredig ac araf. Hefyd, nid oedd y dull hwn yn caniatáu i bobl i ysgrifennu drostyn nhw eu hunain.
6. Yn y flwyddyn 1821, ymwelodd capten o'r fyddin, Charles Barbier, â’r ysgol a dangos dull gwahanol - system god yn defnyddio dotiau a llinellau byrion wedi eu codi oddi ar wyneb y papur. Gallai'r rhain gael eu defnyddio ar y cyd i gynrychioli synau gwahanol am eu bod wedi eu cynllunio ar gyfer milwyr i anfon a derbyn negeseuon yn ystod y nos, heb siarad. Roedd y syniad yn rhy gymhleth a chafodd y system ei gwrthod gan y fyddin, ond sylweddolodd Louis yn sydyn beth oedd ei photensial.Dros yr ychydig fynyddoedd dilynol, bu'n arbrofi, ac yn datblygu system yn defnyddio dim ond chwech o ddotiau.Fe barhaodd i weithio ar ei gynllun, gan greu codau ar wahân ar gyfer mathemateg a cherddoriaeth.
7. Erbyn y flwyddyn 1824, ac yntau ddim ond yn 15 mlwydd oed, roedd Louis wedi cael hyd i 63 o ffyrdd o ddefnyddio cell 6-dot mewn arwynebedd maint pen bys. Roedd wedi perffeithio'r union osodiad ar gyfer y patrwm o ddotiau wedi eu codi wrth ysgrifennu Braille.
Yn y flwyddyn 1827, cafodd y llyfr cyntaf mewn Braille ei gyhoeddi. Daeth Louis yn athro parchus ac, er gwaethaf y gwrthwynebiad, fe ledaenodd y defnydd o'r Braille lle bynnag yr oedd yn mynd. Daeth hefyd yn gerddor medrus, gan gyfeilio mewn eglwysi ledled Ffrainc.
Yn drist, bu farw Louis o'r ddarfodedigaeth (tiwberciwlosis) yn y flwyddyn 1852, tua dau ddiwrnod ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn 43 mlwydd oed.
8. Er bod Louis yn cael ei edmygu gan ei ddisgyblion, ni chafodd ei system Braille ei chydnabod yn ystod ei fywyd. Yn y flwyddyn 1868, fe sefydlodd Dr Thomas Armitage gymdeithas o'r enw 'The British and Foreign Society for Improving the Embossed Literature for the Blind’, sef rhagflaenydd y gymdeithas RNIB(the Royal National Institute of Blind People - Cymdeithas y Deillion).Fe ddechreuodd Dr Armitage gymeradwyo'r defnydd o Braille a heddiw caiff y system ei defnyddio gan filiynau o bobl drwy'r byd i gyd. Yn y 163 o flynyddoedd ers marwolaeth Louis Braille, mae o wedi cael ei anrhydeddu am ei gymynrodd dros y byd i gyd.Cafodd arian ei fathu er anrhydedd iddo, cerfluniau eu codi, ffilmiau eu gwneud, ac amgueddfa ei chysegru i'w fywyd.
Diolch i Louis Braille, gall llawer o unigolion dall a rhannol ddall fyw bywydau llawn, cyffrous, ysbrydoledig a rhyfeddol.
Amser i feddwl
Ar yr adeg hon o'r Flwyddyn Newydd, gadewch i ni fyfyrio ar ddigwyddiadau'r gorffennol ac edrych ymlaen at y dyfodol. Gadewch i ni feddwl am ein bywydau a'n gobeithion ar gyfer y deuddeg mis sydd o'n blaen.
Efallai, fel Louis Braille, y byddwn yn gallu cyflawni rhywbeth a fydd yn fodd i newid bywydau pobl.
Sut bynnag, yn y tymor byr, bydd yn ofynnol i ni efallai ymrwymo i ymgyrraedd at raddau uwch yn yr ysgol, dod yn fwy heini, codi arian at achos elusennol neu ofalu am y rhai sydd o'n cwmpas.
Meddyliwch am rywbeth yn eich bywyd yr hoffech chi ei gyflawni.
Sut y byddwch chi'n symud ymlaen at y nod hwnnw?
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y bobl ysbrydoledig o bob rhan o’r gymdeithas sy’n ein hysgogi a’n hysbrydoli ni i wneud ein gorau a cheisio bod yn bobl well.
Helpa ni i werthfawrogi popeth sydd gennym ni, a helpa ni i wneud y gorau o’n doniau ein hunain, tra byddwn ni’n meddwl am bobl eraill.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ysbrydoledig